Gall llawer o gleifion brofi unigrwydd yn yr ysbyty. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi dod yn ymwybodol o’r graddau o hyn ac wedi mynd ati i ddatblygu, gyda phartneriaid, y cynllun gwirfoddoli Red Kite. Ond nid yw ynghylch unigrwydd yn unig, gall gwirfoddolwyr ddarparu cefnogaeth ychwanegol, i staff a chleifion.
Mae nifer o gynlluniau ar gael i gleifion sy’n gadael yr ysbyty yn cynnwys drwy Groes Goch Brydeinig a drwy gynllun gwasanaeth cyfeillion Powys, ond nid yw’r un gefnogaeth ar gael i gleifion mewnol a daeth hyn yn flaenoriaeth i’r datblygiad. Yn dilyn nifer o drafodaethau cytunwyd profi a gweithredu model i gynnwys pobl (yn cynnwys pobl ifanc a phobl hŷn) drwy roi’r cyfle iddynt brofi gwirfoddoli yn y maes o gleifion mewnol.
Mae PAVO wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys i baratoi’r ffordd. Adolygwyd a diwygïwyd polisïau a gweithdrefnau perthnasol ar gyfer y prosiect newydd. Cytunwyd i leihau oedran isafswm gwirfoddolwyr o 18 i 16 mlwydd oed, er mwyn gallu cynnig profiad gwirfoddoli i bobl ifanc. Gwnaethpwyd cysylltiadau gyda Choleg Castell-Nedd Port Talbot a dechreuodd recriwtio yn 2017, i redeg prosiect peilot yn ysbyty Llanidloes.
‘Roeddem wedi anelu at recriwtio cymysgedd o bobl hyn ac yn iau’ dywedodd Michiel Blees, Swyddog Canolfan Gwirfoddoli Powys, ‘ond mewn gwirionedd roedd 4 allan o 5 gwirfoddolwyr cyntaf yn fyfyriwr Iechyd a Gofal cymdeithasol o Goleg Castell-Nedd Port Talbot ar safle’r Drenewydd.’
Mae hyrwyddo a recriwtio gwirfoddoli yn cael ei reoli gan PAVO, ar ran y Bwrdd Iechyd, yn defnyddio gwefan volunteering-wales.net ac yn gweithio gyda’r bureaux gwirfoddoli lleol. Mae cyfarfod cwrdd â chyfarch yn cael ei drefnu gyda Phrif Nyrs y ward, sydd â’r gair olaf ynghylch ymgeisiwyr unigol.
Ar y wardiau, mae gwirfoddolwyr yn wynebau cyfarwydd, gydag amser i ‘wneud yr holl bethau fyddai nyrsys yn hoffi eu gwneud ond nad oes ganddynt yr amser i’w gwneud’ megis siarad gyda chleifion, darllen iddynt, nôl te iddynt, eistedd tu allan gyda hwy, yn siarad a mynd gyda chleifion i apwyntiadau cleifion mewnol. Gall cleifion fod yn nerfus, neu’n rhwystredig pan fydd oedi yn eu triniaethau sydd wedi’u trefnu. Gall gwirfoddolwr fod yn bresenoldeb cysurlon.
Beth sydd wedi’i gyflawni?
Yn dilyn peilot llwyddiannus, bydd y prosiect nawr yn parhau mewn 15 ysbyty ym Mhowys, wedi’r cyfan rydym yn awyddus i gael mwy o wirfoddolwyr. Mae gwirfoddolwyr wedi eu derbyn i nifer o ysbytai yn barod.
Mae cleifion wedi gwneud sylwadau bod pobl ifanc yn dod ag ‘ychydig o gynnwrf i’r ward’ a bod staff wedi croesawu’r fenter yn gynnes. Ar lansiad y cynllun, dywedodd y Cyfarwyddwr Nyrsio (bryd hynny) wrth annerch y myfyrwyr gwirfoddoli (sy’n bwriadu dilyn cyrsiau addysg bellach mewn iechyd a gofal cymdeithasol), ‘pan fydd eich cwrs wedi gorffen yna cysylltwch, gan y byddwn eich hangen yma yng Nghymru’.
Mae Michiel Blees, sydd wedi bod yn hyrwyddo’r cynllun, yn edmygus gydag egni ac ymrwymiad y bobl ifanc mae wedi’i gyfarfod. ‘Rwy’n mynd i golegau i siarad â phobl ifanc ac yn dod yn ôl yn llawn egni. Mae ganddynt syniadau clir ynghylch beth maent eisiau ei wneud ac maent wedi ffocysu’n llwyr’.
‘Mae’n gyfle gwych i ennill profiad perthnasol i’m helpu gyda’m nod gyrfa o ddod yn nyrs’ dywedodd un gwirfoddolwr.
Mae’r cynllun Red Kite yn bwriadu dal yr egni hwnnw i roi budd i ofal cleifion tra’n darparu profiad gwerthfawr i bobl ifanc ar yr un pryd wrth iddynt archwilio’r cyfloedd gyrfa.
Newidiodd un gwirfoddolwr ei chwrs o iechyd a gofal cymdeithasol ond parhaodd gyda’i gwirfoddoli (tan i hynny anghytuno gyda’i chwrs newydd). Roedd un eisiau gyrfa gyda’r heddlu ond sylweddolodd y byddai gwirfoddoli yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i amgylchfyd yr ysbyty.
Yr heriau a wynebwyd a’r gwersi a ddysgwyd
Treuliwyd llawer o amser yn ymgysylltu gyda staff i egluro’r prosiect ac i ateb cwestiynau ac unrhyw bryderon. Roedd neges glir o beidio â ddisodli staff ond yn hytrach i ychwanegu cyfraniad unigryw gwirfoddolwyr i’r holl ofal sy’n cael ei ddarparu. Cynhaliwyd arolygon a gofynwyd i staff am eu barn am y cynllun. Talodd hyn ar ei ganfed, gyda bron i bob Prif Nyrs a staff eraill yn cyfrannu. Cynhesodd y staff tuag at y syniad o annog pobl ifanc yn dychwelyd fel cyflogeion yn y dyfodol.
Ymhlith yr heriau a wynebwyd oedd gostyngiad mawr mewn gwirfoddolwyr, gyda nifer yn rhoi’r gorau iddi, yn aml oherwydd yr amser a gymerwyd i weinyddu gweithdrefnau recriwtio. Mae rhywbeth yn cael ei wneud ynghlŷn â hyn.
Mae rheoli disgwyliadau gwirfoddolwyr ifanc yn her arall. Mae’r ysbyty peilot yn eithaf distaw ac roedd gwirfoddolwyr yn teimlo nad oedd digon i’w wneud; byddai mwy o arweiniad am sut y gallant ddefnyddio’u hamser fod yn ddefnyddiol. Byddem yn mynd i’r afael â hyn drwy ddatblygu modelau addas o’r gefnogaeth ac arolygaeth o ddydd i ddydd a byddai cael gwirfoddolwyr o wahanol oedran a chefndiroedd yn helpu.
Beth nesaf?
Y bwriad yw gweithio ar rwystrau sydd wedi’i hadnabod, megis prosesau recriwtio, i recriwtio gwirfoddolwyr o ystod eang o grwpiau oed ac i ehangu a lledaenu’r prosiect i wardiau a safleoedd newydd. Mae cyfle hefyd i ddatblygu roliau a all fod yn ddeniadol i fyfyrwyr ar gyrsiau coleg eraill. Nid oes neb yn rheoli’r ardal tegannau o Ganolfannau plant, er enghraifft, a all fod yn brofiad da i fyfyrwyr ar gyrsiau astudiaethau plentyndod.
Dywedodd Katrina Rowlands, Cyfarwyddwr Dros Dro Nyrsio a Bydwreigiaeth, ‘Mae gwirfoddolwyr Red Kite yn aelodau pwysig iawn o dîm y ward ac yn cael eu gwerthfawrogi gan bawb, gyda rôl allweddol mewn gwella profiad cleifion.’
‘Dyma yw gwirfoddoli o ansawdd ar ei orau’ dywedodd Michiel Blees ‘Rydym eisiau i’r cynllun Red Kite i gael ei gydnabod am ei safonau uchel a’i ansawdd’.
Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogaeth Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 CGS), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddol i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.