Mae gwirfoddolwyr ’nawr yn weithredol ym mhob un o dair adran Damweiniau ac Achosion Brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn treulio amser gyda chleifion wrth iddynt aros am driniaeth feddygol.
Datblygwyd rhaglen Gwirfoddoli dros Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda’r bwriad o wella profiad a lles cyffredinol cleifion. Er bod mwyafrif y gwirfoddolwyr yn cael eu gosod ar y wardiau, teimlid y gallai presenoldeb gwirfoddolwyr hefyd wneud gwahaniaeth mawr i gleifion yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, a hynny yn ystod arhosiad a all weithiau bara am sawl awr.
Treialwyd y syniad gyntaf yn un o’r pedwar ysbyty acíwt, lle roedd rheolwr nyrsio, gyda chefnogaeth yr uwch-staff, yn awyddus i roi cynnig arno.
Mae adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn lleoedd prysur lle mae pethau’n digwydd yn gyflym iawn ac mae’r staff o dan bwysau cyson. Dywedodd Juliet, sy’n gwirfoddoli mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys, ‘Mae’r meddygon a’r nyrsys yn brysur; rwy’n mynd i mewn gyda gwên ar fy wyneb.’. Mae’r gwirfoddolwyr, sy’n gwisgo crysau polo melyn, yn hawdd eu hadnabod gan y cleifion a’r staff, fel ei gilydd. ‘Rwy’n gwneud te, ac yn sgwrsio gyda’r cleifion,’ meddai Juliet. ‘Rwy’n mynd â phresgripsiynau i’r fferyllfa, ac yn nôl brechdanau o’r oergell ar gyfer y cleifion hynny sydd wedi colli prydau bwyd. Rwy’n cadw golwg ar gyflenwadau’r weips ac ati yn y ciwbiclau, ac yn ailgyflenwi o’r ystafell stoc os bydd angen.’ Mae’r gwirfoddolwyr yn gyswllt pwysig rhwng y cleifion a’r staff, wrth iddynt ofyn am sylw proffesiynol neu wybodaeth pan fydd eu hangen ar glaf.
Effaith gwirfoddoli
Roedd gwerthusiad o’r rhaglen Gwirfoddoli dros Iechyd gan Brifysgol Morgannwg yn 2013 wedi amlygu effaith ganfyddedig gwirfoddoli ar y staff, y cleifion a’r gwirfoddolwyr eu hunain.
Yn gyffredinol, mae gwirfoddolwyr yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad cleifion ac ymwelwyr. Roedd sawl un a ymatebodd i’r gwerthusiad hwnnw yn teimlo bod gwirfoddolwyr ‘yn rhyddhau amser y staff ar gyfer gofal clinigol’. Fodd bynnag, o ran gwirfoddoli mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys, dywedodd Juliet, ‘nid wyf wir yn teimlo fy mod wedi lleihau’r pwysau ar y staff, ond maent yn bendant yn gwerthfawrogi bod gennyf amser i siarad â’r cleifion. Weithiau, bydd nyrs yn aros tan i glaf orffen siarad â mi cyn dechrau ar unrhyw ymyrraeth.’
Ychwanegodd David Fretwell, Rheolwr Gwirfoddolwyr, ‘Mae mor braf i gleifion weld wyneb cyfeillgar. Gall sgyrsiau anffurfiol â gwirfoddolwyr dawelu tipyn ar eu meddwl.’. Ychwanegodd, ‘Mae gwirfoddolwyr yn cael ymdeimlad o bwrpas trwy gymryd rhan. I rai, mae’n cynnig cipolwg gwerthfawr ar eu gyrfa yn y dyfodol.’.
Y gwersi a ddysgwyd
‘Mae angen math arbennig o wirfoddolwr i ffynnu yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys,’ meddai David. ‘Mae arnom angen gwirfoddolwyr nad oes arnynt ofn cymryd y cam cyntaf. Mae’n cymryd amser i ddod o hyd i’r bobl iawn; nid yw’n addas i bawb. Mae’n well peidio â recriwtio gwirfoddolwr i’r rôl hon na recriwtio’r unigolyn ‘anghywir’.
Wrth ddatblygu’r rôl ac asesu risgiau, roedd yn hanfodol bod staff allweddol, gwirfoddolwyr a’r undebau yn cymryd rhan o’r cychwyn. Mae hyn yn golygu tipyn o waith o ran ymgynghori â grwpiau rhanddeiliaid gwahanol mewn nifer o gyfarfodydd. Mae angen cefnogaeth yr uwch-reolwyr er mwyn sicrhau bod y staff gweithredol yn cymryd rhan.
Mae angen i negeseuon ynghylch yr hyn y gall gwirfoddolwyr ei wneud a’r hyn na allant ei wneud gael eu cyfathrebu dro ar ôl tro ac mewn ffyrdd gwahanol. Nid yw sicrhau bod yr wybodaeth ar gael mewn ffolder ar y ward yn ddigon. Mae poster sy’n dangos rhestr i’w dicio o’r hyn y dylid ei wneud a’r hyn na ddylid ei wneud yn cael ei ddatblygu. Mae’n bwysig bod pawb yn cydnabod beth yw’r tasgau cytunedig y gall gwirfoddolwyr eu cyflawni a’r hyn na allant eu cyflawni.
‘Weithiau, mae gwirfoddolwyr yn teimlo’n rhwystredig na allant wneud rhagor, wrth iddynt weld tasgau ymarferol y mae angen eu cyflawni,‘ meddai David Fretwell. ‘Mae’n rhaid i ni eu hatgoffa o bwysigrwydd rhyngweithio’n gymdeithasol â chleifion a’u teuluoedd – rhywbeth a werthfawrogir yn fawr ac na ddylid ei danbrisio.’
Er mwyn sicrhau gwelliant pellach, mae David yn bwriadu datblygu hyfforddiant cynefino sydd wedi’i deilwra’n nes at rôl yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, gan gynnwys, er enghraifft, rhai senarios chwarae rôl yn yr adran, a chynnwys gwirfoddolwyr presennol wrth gyflwyno’r sesiwn.
Cynigiodd David air i gall: ‘dylai unrhyw un sy’n datblygu gwirfoddoli yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys fynd yno eu hunain i wirfoddoli gyntaf. Gall arbed llawer o drafferth ac mae’n helpu i gael pethau’n gywir o’r cychwyn cyntaf’.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth Gwirfoddoli dros Iechyd, ewch i http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/48098
Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (WCVA a’r 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.