Roedd rhaglen flaenllaw Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwirfoddoli dros Iechyd, yn ddeg oed ym mis Hydref. Daeth gwirfoddolwyr, staff, partneriaid a chefnogwyr ynghyd i ddathlu gyda straeon, balwnau a chacen.
Erbyn heddiw, mae gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru ei raglen wirfoddoli. Derbynnir yn gyffredinol fod gan wirfoddolwyr rôl i’w chwarae wrth fynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, ymarferol ac emosiynol cleifion, ac y gall hyn alluogi’r staff i gyflawni gofynion eu rolau mewn modd mwy effeithiol. Ond ’nôl yn 2006, pan ddechreuodd y trafodaethau ynghylch gwirfoddoli yn Hywel Dda, nid oedd hyn yn wir.
Aeth Anna Tee, y Rheolwr Profiad y Claf ar y pryd, ati i ddisgrifio natur ad hoc y gwirfoddoli a oedd yn digwydd 13 blynedd yn ôl, gyda dim ond 39 o wirfoddolwyr wedi’u gwasgaru ledled yr Ymddiriedolaeth, ynghyd â’r weledigaeth yr oedd hi ac eraill yn ei rhannu ar gyfer rhaglen fwy strategol wedi’i chefnogi’n well. Ni ellid gwireddu gweledigaeth o’r fath heb lawer iawn o ymgynghori a gwrando ar adborth – yn enwedig yr ansicrwydd a’r amheuon a gafodd eu mynegi. Roedd hefyd angen cefnogaeth weithgar partneriaid, gan gynnwys cynghorau gwirfoddol sirol lleol, yn ogystal â’r penderfyniad i barhau pan gafodd y ceisiadau cynnar am gyllid eu gwrthod.
Tyfodd yr eglurder, y cymorth a’r momentwm, ac roedd cais llwyddiannus am gyllid gan y Loteri Genedlaethol yn 2008 wedi galluogi i’r broses wirfoddoli gael ei datblygu i ffurfio’r hyn yr ydym yn ei ddathlu heddiw.
Mewn deng lynedd, mae 2,500 o wirfoddolwyr wedi gwirfoddoli 356,819 awr o’u hamser i’r GIG yn BIP Hywel Dda. Maent yn chwarae rhan mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys bod yn gyfeillachwyr ar y wardiau, cwrdd a chyfarch yn yr adran cleifion allanol, mynd i’r fferyllfa i gasglu meddyginiaeth cyn i gleifion gael eu rhyddhau, helpu yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, y wardiau plant, yr Uned Ddydd Cemotherapi, ac yn yr ardd, a chefnogi’r gaplaniaeth a chleifion ag anabledd dysgu.
Dywedodd David Fretwell, y Rheolwr Gwirfoddoli, ‘Mae newid diwylliannol mawr wedi digwydd dros y blynyddoedd. Mae’r staff ’nawr yn gyfarwydd â gweld y gwirfoddolwyr o gwmpas ac yn eu hystyried yn rhan o’r tîm. Efallai mai dyma un o’r cyflawniadau mwyaf anhygoel’.
Mae Lisa Marshall yn Uwch Nyrs y Ward yn ysbyty Llwynhelyg, lle mae gwirfoddolwyr yn ymuno â’r Gweithiwr Eiddilwch i ddarparu gweithgareddau crefft a therapiwtig ar gyfer cleifion â dementia. ‘Mae’r gwirfoddolwyr wedi’u cyfareddu gan yr hyn sy’n digwydd ar y Ward,’ meddai. ‘Mae yna lawer o enghreifftiau o wirfoddolwyr sy’n cael blas ar y rôl ac yn mynd ymlaen i gael swydd fel gweithiwr gofal iechyd, ac yna i astudio a dychwelyd fel nyrs gymwysedig. Ac mae’r gwirfoddolwyr yn dda iawn yn darganfod ffeithiau perthnasol am gefndir cartref y cleifion, er enghraifft pa un a oes yna risiau, anifeiliaid anwes neu gyfleusterau lleol. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn i’r staff clinigol’.
Un ffordd bwysig y mae’r gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth yw trwy ychwanegu elfen o normalrwydd i’r hyn sydd fel arall yn brofiad estron i’r cleifion. Mae gwirfoddolwyr gyda’r tîm o arbenigwyr chwarae, er enghraifft, yn helpu i ddylunio byrddau arddangos er mwyn creu amgylchedd cyfeillgar i blant, yn cadw teganau’n lân ac yn daclus, a hefyd yn treulio amser gyda’r plant er mwyn rhoi egwyl i’r rhieni. Dywedodd Sandra Jones, Pennaeth y Gwasanaethau Chwarae Therapiwtig, ‘Mae’r gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth i’r ffordd yr ydym yn gweithio ac i’r plant a’r bobl ifanc y maent yn dod i gysylltiad â nhw’.
Roedd David Fretwell yn cofio am glaf a oedd yn yr ysbyty dros y Nadolig, ac nad oedd ei berthnasau yn gallu dod i’w weld. Gwirfoddolwr oedd yr unig ymwelydd a gafodd drwy’r dydd. ‘Y pethau bach sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl, er enghraifft ymddiddori yn eu bywydau. Mae’r effaith yn y wên. Ni allwn ei mesur yn ddigonol.’
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r tudalennau gwe ar gyfer Gwirfoddoli dros Iechyd.