Gwnaeth Cyngor Sir y Fflint weithio gyda Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC) i recriwtio grŵp o wirfoddolwyr er mwyn darparu cymorth ategol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Recriwtiodd FLVC 200 o wirfoddolwyr i gefnogi gweithgareddau cymunedol yn ystod yr argyfwng; dyrannwyd 64 o’r rhain i dîm Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor.
Mae’r gwirfoddolwyr wedi darparu cymorth hanfodol er mwyn i wasanaethau gofal cymdeithasol craidd barhau i gael eu darparu, ac wedi ymgymryd â gweithgareddau penodol mewn ymateb i argyfwng COVID-19. Er enghraifft:
- Cludo cyfarpar diogelu personol (PPE) i gartrefi gofal pobl hŷn a darparwyr gofal cartref er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu gofal; pecynnau PPE, diheintio a glanhau i holl ysgolion y Sir er mwyn cefnogi’r rhaglen ailagor
- Cynnal a chadw tiroedd ac addurno safleoedd er mwyn cefnogi agoriad cartref gofal newydd i bobl hŷn
- Cymorth i drigolion Gofal Ychwanegol ac i bobl mewn lleoliadau byw â chymorth
- Cynorthwyo grŵp o’r trydydd sector i gludo siopa i bobl
- Cymorth dosbarthu ar gyfer yr Apêl Bocs Esgidiau i blant sy’n agored i niwed
- Cymorth dros y ffôn i drigolion hŷn a/neu agored i niwed er mwyn lleihau unigrwydd ac ynysu
Gwnaeth y bartneriaeth alluogi proses recriwtio effeithiol, a chafodd FLVC fwy o gysylltiad â dinasyddion, yn ogystal ag ennill enw da ac ymddiriedaeth. Gallodd y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyrannu tîm dros dro i oruchwylio’r prosesau gweinyddol a dyrannu gwirfoddolwyr i weithgareddau, a sefydlwyd cysylltiadau â’u Timau Datblygu’r Gweithle a thimau Adnoddau Dynol er mwyn cefnogi’r prosesau hyn.
Roedd gan Gynghorydd Polisi Strategol y Cyngor rôl gymorth allweddol, yn cyflwyno darlun o wirfoddoli ar draws yr holl Gyngor a chreu cysylltiadau ag awdurdodau eraill er mwyn rhannu arferion gorau.
Mae strategaeth yn cael ei datblygu i bontio i drefniant mwy hirdymor. Bydd hyn yn cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli yn y dyfodol yn ogystal ag unrhyw argyfyngau iechyd eraill.
Mae gwirfoddolwyr wedi datblygu sgiliau newydd, wedi cael boddhad personol ac wedi cydnabod, â balchder, eu cyfraniad at helpu i gefnogi pobl mewn adeg o argyfwng.
Dywedodd aelod staff mewn cartref gofal ‘Mae’r gwirfoddolwr wedi bod yn hollol wych diolch. Mae wedi rhoi hwb i’r preswylwyr a’r staff, rhywbeth i edrych ymlaen ato cwpwl o weithiau’r wythnos.
‘Mae’n helpu’r staff i wneud rhai o’r tasgau hynny nad ydynt yn cael eu cyflawni mor rheolaidd ag arfer. Mae hwn wedi bod yn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol sydd wedi deillio o’r cyfnod ofnadwy hwn.’