Sefydliad addysgol yw’r Cwmni Dysgu Amgen sy’n cynnig ail gyfle i bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio neu sy’n anodd eu cyrraedd, a phlant nad ydyn nhw’n cyflawni eu potensial yn yr ysgol ac nad yw addysg prif ffrwd yn llwyddo i ddiwallu eu hanghenion.
Mewn llawer o achosion, mae hyn yn golygu derbyn disgyblion o gefndiroedd gwirioneddol anodd ac ansefydlog, ac nid yw’n dasg hawdd, ond mae cymorth ariannol o’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol wedi helpu’r Cwmni Dysgu Amgen i ddod o hyd i’r plant a rhoi cyfle iddyn nhw gyrraedd dyfodol mwy disglair.
Drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gâr ac ysgolion lleol, 2018 oedd y flwyddyn gyntaf i ni weithredu’r prosiect gan dderbyn disgyblion o flynyddoedd 10 ac 11 nad oedd addysg prif ffrwd yn diwallu eu hanghenion. Yn anffodus, roedd llawer o’r bobl ifanc yma mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol, ac roedd gan lawer ohonyn nhw broblemau camddefnyddio sylweddau. Nid oedd llawer ohonyn nhw’n byw gyda’u rhieni (a allai fod â phroblemau iechyd eu hunain i ymgodymu â nhw), ac roedd gan lawer o bobl ifanc ystod eang o anawsterau cymdeithasol/emosiynol ac roedd gan eraill ADHD neu awtistiaeth.
Gan eu bod yn dod o gefndiroedd mor gythryblus, nid yw’n syndod bod gan lawer o’r plant a gafodd eu derbyn gan y Cwmni Dysgu Amgen ystod eang o ymddygiadau heriol. I ddechrau, roedden nhw’n delio gyda phlant yn cyrraedd yr ysgol yn feddw neu ar gyffuriau, ac yn gorfod eu perswadio i adael y ddiod a’r cyffuriau ar ôl. ‘Pan fyddan nhw’n dod aton ni, dim ond criw o oedolion ydyn ni’ meddai Holly Nicholl, sy’n rheoli’r Ganolfan Ddysgu, ‘ac yn waeth na hynny, yn griw o athrawon – ond rydyn ni wedi llwyddo i feithrin cysylltiadau gwirioneddol.’
Mae’r cwmni’n dileu’r rhwystrau sy’n bodoli mewn amgylchedd ysgol nodweddiadol – does dim disgwyl i neb ddefnyddio ‘Miss’ neu ‘Syr’, ac mae ffocws cryf ar weithgareddau meithrin tîm lle mae gofyn i’r oedolion gyflawni’r un tasgau â’r plant. Y nod yw creu amgylchedd teuluol – amgylchedd nad yw’r disgyblion yn ei gael yn unman arall mewn gwirionedd.
Yn ôl Holly, un o’r rhwystrau mae’n rhaid eu goresgyn yw’r ffaith ‘Bod pobl wedi bod yn dweud wrthyn nhw erioed ‘allwch chi ddim gwneud hynny, dydych chi ddim yn mynd i lwyddo’, felly pan maen nhw’n dod aton ni, rydyn ni’n dweud ‘Rydych chi’n gallu’. Mae pob un ohonyn nhw’n dda am wneud rhywbeth gwahanol, a dod o hyd i’w cryfderau yw’r peth pwysig’
Nid yw hynny’n golygu nad oes sawl her addysgol i’w goresgyn. Efallai nad yw’r Cwmni Dysgu Amgen yn ysgol draddodiadol, ond mae’n dal i fod yn sefydliad addysgol sy’n destun arolygiadau gan Estyn ac mae wedi’i achredu gan CBAC i ddarparu cyrsiau TGAU a chynnig cwricwlwm sy’n cydymffurfio â safonau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’n rhaid datrys yr anghenion ymddygiadol cyn bod y disgyblion yn gallu ymgymryd â gwaith academaidd, ac mewn rhai achosion, mae bylchau mawr yn eu cefndir addysgol.
Wrth ddysgu am y planedau a chysawd yr haul, dywedodd un disgybl ‘Dw i ddim eisiau dysgu am y gwledydd yma beth bynnag, achos dw i ddim yn bwriadu mynd iddyn nhw’. Roedd un disgybl nad oedd yn gwybod bod cig eidion yn dod o fuchod, a doedd disgyblion eraill heb sylweddoli mai tatws oedd sglodion, ac mae hyn cyn i chi hyd yn oed ddechrau mynd i’r afael â phroblemau llythrennedd a rhifedd sylfaenol.
Dyma un o’r heriau – mae cefndiroedd, profiadau a galluoedd y disgyblion mor amrywiol, ac mae’n rhaid i’r cwricwlwm deilwra ar gyfer hynny rywsut. Mae’n bosib nad yw’r disgyblion yn gwybod yr wyddor neu eu tablau, felly nid yw’n bosib cael un cwricwlwm mawr. Maen nhw’n trio’u gorau, ond er mwyn llwyddo, mae’n rhaid iddyn nhw addasu ar gyfer yr unigolyn.
Dyma sy’n angenrheidiol er mwyn i’r Ganolfan Dysgu Amgen lwyddo. O’r 15 disgybl o Flwyddyn 11 a gymerodd ran yn y flwyddyn gyntaf, roedd pob un wedi’u rhagfynegi i fod yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), ac mae pob un wedi symud ymlaen i gael addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant, sy’n wirioneddol syfrdanol.
Llwyddodd 50% ohonynt i orffen gyda phresenoldeb o 70% neu uwch a chwblhau 191 o unedau Agored Cymru, gan arwain at 36 o gymwysterau. Buon nhw hefyd yn gwneud gwaith cymunedol, fel dringo Pen y Fan i godi arian i elusen a chodi arian i Comic Relief. Daw hyn oll ar ôl yr wythnosau cyntaf, a gafodd eu disgrifio fel ‘traed moch llwyr’ wedi i’r heddlu gael eu galw ar wyth achlysur gwahanol, ond mae hyn wedi newid yn llwyr mewn llai na blwyddyn.
Mae Marcus* yn ddisgybl a gychwynnodd ym Mlwyddyn 10 yn 2018 ac roedd ganddo broblemau rheoli dicter, ond mae ei ymddygiad yn gwella’n sylweddol gan ei fod wedi dysgu dulliau i reoli ei deimladau.
Meddai Marcus: ‘Yn yr ysgol, maen nhw’n anfon chi o’r dosbarth pan fyddwch chi’n gwneud rhywbeth o’i le, ond fan hyn maen nhw’n rhoi cyfle i chi. A dw i ddim yn synnu bod pawb yn dal yma, achos maen nhw’n rhoi cyfleoedd iddyn nhw.
Mae’n gymaint gwell na’r ysgol. Fydden i ddim yn mynd yn ôl i’r ysgol. Mae pawb yn gyfeillgar fan hyn. Dw i’n meddwl fy mod i wedi dysgu mwy fan hyn nag yn yr ysgol. Ro’n i jyst yn arfer bod yn ddrwg ac yn cael fy anfon allan. Dw i’n dod i fan hyn bob dydd. Bydden i hyd yn oed yn dod yma ar y penwythnosau petawn i’n gallu… ond ddim ar ddydd Sul falle.’
Mae hynny’n ddigon teg. Gyda’r cymorth ariannol a ddarperir gan y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol, a’r sgiliau a’r gobaith mae’r Cwmni Dysgu Amgen wedi’u rhoi iddyn nhw, mae’n ymddangos fel petai pawb yn haeddu ymlacio ar ddydd Sul.
Darganfodwch mwy am y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yma: /funding/social-investment-cymru/social-business-growth-fund?seq.lang=cy-GB
* newidiwyd yr enw i ddiogelu’r unigolyn