External shot of a Hospice of the Valleys charity shop

‘Fe wnaeth yr Hosbis fy helpu… roeddwn i’n fwy na bodlon talu’n ôl’

Cyhoeddwyd : 12/10/20 | Categorïau:

Astudiaeth achos gan Hosbis y Cymoedd, rhan o’n hymgyrch #GwirfoddolwrSiopElusenCymru mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau.

Dywedodd Margaret, Gwirfoddolwr yn Siop Tredegar, hyn iddyn ni: ‘Rydw i wedi gwirfoddoli yn Hosbis y Cymoedd ers mwy nag 20 mlynedd, fe wnaeth yr Hosbis fy helpu pan gefais ganser y fron 19 mlynedd yn ôl. Pan wnaethon nhw benderfynu agor siop, roeddwn i’n fwy na bodlon gwirfoddoli yno er mwyn talu’n ôl am yr help y gwnaethon nhw ei roi i mi.’

Esboniodd Cindy, Gwirfoddolwr yn Siop Glynebwy a Brynmawr ‘Rydw i wedi bod yn gwirfoddoli i’r Hosbis ers mwy na 5 mlynedd. Roedd yn rhaid imi roi rhywbeth yn ôl i’r Hosbis ar ôl y gofal gwych a gafodd fy nhad-yng-nghyfraith.’

Rhanodd Anne-Marie, Gwirfoddolwr Siop a Chodi Arian, ei rhesymau dros gymryd rhan: ‘Rydw i’n gweithio’n amser llawn fel Nyrs Ddeintyddol, ond rydw i wedi bod yn gwirfoddoli yn yr Hosbis yn fy amser hamdden ers 5 mlynedd bellach. Rydw i’n helpu gyda Digwyddiadau Codi Arian, gan chwilio am bobl i ymuno â’r digwyddiadau, yn helpu i redeg stondin fechan ac yn helpu i gadw trefn. Hefyd, rydw i’n gwirfoddoli yn y Siopau pan fydd gennyf amser neu pan fyddan nhw’n brin o wirfoddolwyr yn ystod y penwythnos. Dechreuais wirfoddoli gan fy mod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a helpu fy Elusen leol. Rydw i wedi gwneud llu o gyfeillion newydd ac wedi dysgu sgiliau newydd hefyd.’

#GWIRFODDOLWRSIOPELUSENCYMRU

Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan CGGC a’r cyfryngau cymdeithasol (lle byddwn yn defnyddio #gwirfoddolwyrsiopauelusennolcymru) i glywed am amrywiaeth o wahanol brofiadau gan unigolion sy’n gwirfoddoli mewn siopau elusennol.

Dim ond gyda gofal ac ystyriaeth briodol ar gyfer lles gwirfoddolwyr, staff a chwsmeriaid y dylid unrhywun gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Fe welwch ganllawiau diogelu ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau Covid-19. I gael gwybodaeth am gyfyngiadau neu ystyriaethau ar gyfer cloeon lleol mewn Cymru ewch i: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy