Canolfan sy’n cynnwys pob cyfarpar a chwe ystafell wely wedi’u dodrefnu’n dda yw Hosbis Skanda Vale. Mae wedi’i lleoli mewn gerddi taclus yng nghefn gwlad Ceredigion. Mae’n hafan i bobl sydd â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau ac i’r rhai sy’n gweithio yno fel staff neu sy’n gwirfoddoli i’w wneud yn lle o letygarwch arbennig sy’n cynnig ‘gofal llwyr’.
Sefydlwyd yr hosbis yn 1993 gan fynachod a lleianod o fynachlog aml-ffydd Skanda Vale, a dim ond pum aelod o staff sydd ganddi, pob un yn nyrsys cofrestredig sy’n arwain y gofal clinigol. Gwirfoddolwyr yw’r tîm bron i gyd, a nhw sy’n goruchwylio’r trefniadau domestig, yr ardd, gweithgareddau cymdeithasol, therapïau cyflenwol ac yn cefnogi’r staff nyrsio i ddarparu gofal iechyd clinigol. Cyflogir nyrsys cronfa ar sail sifftiau hefyd.
Hanes y ganolfan
Daeth sylfaenydd Skanda Vale, Guru Sri Subramanium, yn ymwybodol o unigrwydd ac ofn rhai o’i gyd-gleifion pan oedd ef ei hunan yn gwella yn yr ysbyty ar ôl trawiad difrifol ar y galon yn 1987. Er iddo dderbyn gofal meddygol, bu farw claf oedrannus yn y gwely nesaf ato ar ei ben ei hunan heb y gwmnïaeth, y tawelwch meddwl na’r cariad yr oedd ei angen arno. Roedd staff yr ysbyty yn rhy brysur i dreulio amser yn diwallu anghenion seicolegol, cymdeithasol ac emosiynol y cleifion.
Roedd y profiad yma yn ysbrydoliaeth i agor Hosbis Skanda Vale, canolfan sy’n darparu gofal dydd a gofal seibiant i gleifion mewn tair sir.
Sut mae gwirfoddolwyr yn helpu?
Rhan sylfaenol o’r ethos gofal yn Skanda yw trin pobl a’u teuluoedd mewn modd cyfannol, gan ofalu am anghenion corfforol yn ogystal â rhai cymdeithasol, emosiynol ac ysbrydol. Mae’r cleifion rhwng 30 ac 80 oed, ac mae ganddyn nhw ystod o gyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau, gan gynnwys canser, nychdod cyhyrol, clefyd niwronau motor a dementia. Nid yw pawb sy’n dod i’r ganolfan yng nghyfnodau hwyr eu salwch, ond mae pob un yn gorfod dysgu byw gyda’u cyflwr.
‘Mae rhoi amser, lle, clust i wrando a noson dda o gwsg yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr mewn ffordd mor syml’ esbonia Cath Thompson, Arweinydd Clinigol yr Hosbis.
Mae cael amser i wrando a deall y problemau mae’r cleifion yn eu hwynebu yn arwain at gyfleoedd i gael eiriolaeth a chynrychioli anghenion cleifion gyda’r rhai gorau i’w helpu. ‘Gallwn ni fod yn llais iddyn nhw gyda gweithwyr proffesiynol’ meddai Jane Coles, nyrs gofrestredig sy’n cydlynu gwirfoddolwyr cymorth clinigol. ‘Mae’r arwahanrwydd cymdeithasol mae rhai cleifion yn ei brofi yn erchyll’. Mae gan yr hosbis gyswllt rheolaidd â meddygon teulu lleol a’r tîm gofal lliniarol arbenigol yn ogystal ag asiantaethau eraill.
Mae tua 50 o wirfoddolwyr yn cyfrannu dros 3,100 o oriau bob mis. Mae gwirfoddolwyr o’r gymuned aml-ffydd yn cymryd cyfrifoldeb dros gydlynu trafnidiaeth, cadw tŷ, arlwyo, codi arian, celf a chrefft a therapïau a rheoli’r ganolfan. Mae gwirfoddolwyr lleol yn cymryd rhan fel cymdeithion gwirfoddol, ac yn rhoi amser i siarad â chleifion, cynorthwyo yn ystod amser bwyd, chwarae gemau a chwerthin gyda nhw. Mae eraill yn cael eu recriwtio a’u hyfforddi fel gweithwyr cymorth gofal iechyd clinigol ac yn cynorthwyo gyda gwaith ymolchi, bwydo a gofal personol.
‘Mae rolau a chyfrifoldebau clir, ond does dim hierarchaeth yma’ meddai Jane.
Gwneud gwahaniaeth – i gleifion a’u teuluoedd
Disgrifiodd Jane un claf sy’n dod am ofal dydd: ‘Pan ddaeth hi yma am y tro cyntaf, roedd hi’n edrych mor ofnus. Fe ddywedodd hi ‘hosbis – dw i ddim yn barod am hynny eto’. A’r wythnos diwethaf, ei hunion eiriau oedd ‘dyma’n union beth ro’n i ei angen. Alla i ddim disgrifio faint o wahaniaeth mae dod yma wedi’i wneud i fy mywyd’.
Disgrifiodd claf arall ei brofiad: ‘Ro’n i wedi colli diddordeb mewn bywyd. A doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn gwella, oherwydd roedd fy mywyd i’n teimlo’n ddiwerth… Ro’n i mewn cymaint o boen fel nad o’n i’n gallu gweld heibio i hynny. Ac yna fe ddes i i fan hyn, ac yn ystod fy wythnos gyntaf… dw i’n cofio meddwl i fi fy hunan ‘Pam oedd yn rhaid i fi fynd mor sâl cyn cwrdd â phobl mor garedig, pobl mor onest?
‘Gofal, cariad – y cyfan. Mae popeth ar gael yma. Mae’n wych. Dw i wedi ceisio esbonio i gynifer o bobl sut deimlad yw bod yma. A dw i’n methu. Does dim geiriau i’w ddisgrifio… Mae’r lle yma wedi rhoi ystyr newydd i fi. Dwi wedi cael gwybod fy mod i’n mynd i farw ac mae’r lle yma wedi rhoi llawenydd i fi… wel nid llawenydd wrth feddwl am farw, ond mae wedi rhoi gwedd newydd ar fy mywyd.’
Gall gwirfoddolwyr gynnig ansawdd gofal sy’n dod yn sgil digon o amser a pharodrwydd i rannu eu profiad dynol. ‘Mae gwirfoddolwyr o’r gymuned [aml-ffydd] yn dod â dimensiwn gwahanol i ofal a chymorth y teuluoedd’ meddai Cath Thompson. Gall y sgiliau a’r profiad mae gwirfoddolwyr yn eu cynnig, boed hynny’n brofiadau bywyd, profiad o ofalu am aelodau o’r teulu ac weithiau profiad proffesiynol, gan gynnwys ym maes pediatreg, nyrsio a meddygon teulu, ddatgloi potensial mewn cleifion weithiau. Mae gwirfoddolwyr yn gaffaeliad mawr yn hynny o beth.’
Dywedodd un claf: ‘Mae’r lle yma’n llawn pobl sy’n gofalu… mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n wirfoddolwyr. Mae llawer o’r rhain wedi cymhwyso. Gallen nhw godi am eu gwasanaeth, ond maen nhw’n gwirfoddoli ac yn helpu. Mae’n anhygoel.’
Mae’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i deuluoedd cleifion hefyd yn cael ei werthfawrogi. Meddai un o’r gofalwyr: “Yr unig adeg dw i’n gallu ymlacio yw pan fydd [y claf] yma. Does dim rhaid i fi boeni amdani. Dw i’n gwybod ei bod hi’n hapus ac yn fodlon. Mae hynny’n golygu llawer i mi.”
Rhoddodd Jane enghraifft: ‘Mae gŵr a gwraig wedi sibrwd pethau gwahanol wrtha i; mae’r ddau ar yr un donfedd, ond mae arnyn nhw ormod o ofn dweud wrth ei gilydd. Braint yw gweld ein tîm yn agor sianelau cyfathrebu unwaith eto. Mae’n wych’.
Gwneud gwahaniaeth – i’r gwirfoddolwyr eu hunain
Mae gwirfoddolwyr wedi mynegi’r boddhad o wybod eu bod yn gwneud rhywbeth o werth. ‘Mae’n helpu pobl i fyw, waeth pa mor hir sydd ganddyn nhw’.
Daeth Sophie i wirfoddoli ar ôl marwolaeth ei mam-gu, y bu’n ofalwr iddi am 10 mlynedd: ‘Ar ôl iddi farw, ro’n i’n teimlo colled a gwacter mawr – roedd yn rhaid i fi symud allan o’i thŷ, lle ro’n i wedi bod yn byw’n llawn amser am dair blynedd, a symud yn ôl i fyw ar fy mhen fy hunan eto’.
Mae gwirfoddoli yn Skanda Vale wedi helpu Sophie i oresgyn ei hiselder ysbryd yn sgil galar, ac i adennill ymdeimlad o bwrpas. Galluogodd cael tîm proffesiynol o’i chwmpas hi i feithrin hyder wrth ddefnyddio’r sgiliau roedd hi eisoes wedi’u dysgu wrth ofalu am ei mam-gu a chael hyfforddiant achrededig a oedd yn agor drysau i gyflogaeth yn y dyfodol iddi.
‘Mae fy amser yma wedi bod yn fantais i mi mewn ffyrdd nad oeddwn i wedi gallu eu rhagweld’ meddai Sophie. ‘Mae wedi rhoi’r hyder i fi fy mod i’n gallu rhannu fy sgiliau a fy mhrofiadau, yn ogystal â’r gwmnïaeth a’r gefnogaeth sydd wedi fy helpu gyda’r broses alaru.
‘Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol gyda’r hyfforddiant mewnol sy’n cael ei gynnig. Dw i’n gobeithio parhau i ddatblygu yn y maes yma, gofal lliniarol. Mae’n wasanaeth hanfodol, sy’n cynnig sicrwydd i bobl am ddaioni’r ddynoliaeth ar adeg pan maen nhw ei angen fwyaf’.
Cynigir llety am ddim i wirfoddolwyr; heb hyn ni fyddai wedi bod yn bosib i Sophie, gan ei bod yn byw dros ddwy awr i ffwrdd.
Dysgu gwersi
Mae rhaglen gynefino drylwyr yn helpu i baratoi gwirfoddolwyr ar gyfer eu rôl a hefyd i ddangos gwerthfawrogiad o’u cyfraniad. ‘Maen nhw’n ei hoffi. Maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’ meddai Jane. Mae hefyd yn bwysig cael y ‘bobl iawn’, eglurodd Jane, ‘a pheidio â gohirio cael sgyrsiau anodd gyda gwirfoddolwyr pan fo angen’.
Mae’r ffordd mae staff, gwirfoddolwyr a chleifion yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn rhannu profiadau – boed nhw’n rhai dwys neu ddibwys – yn dangos sut y gall cymunedau fod yn hunangynhaliol, ac yn cyfoethogi a gwella bywydau’r ddwy ochr. Mae diwrnodau datblygu misol i’r tîm cyfan yn golygu y gellir datblygu sgiliau a nodweddion personol yn barhaus, sy’n darparu’r amgylchedd lle y gall hyn ddigwydd yn effeithiol.
Datblygiadau i’r dyfodol
Mae’r hosbis wedi ehangu ei gwasanaeth yn araf, o fod ar agor am bump diwrnod i gyfnod llawn o saith diwrnod bob mis ar gyfer gofal seibiant. Mae cynlluniau i ymestyn hyn ymhellach i ganiatáu arosiadau seibiant o hyd at 12 diwrnod yn 2020 ac i ehangu ar y tîm o wirfoddolwyr er mwyn galluogi hyn.
Nod Skanda Vale hefyd yw bod ar agor am fwy o ddiwrnodau bob wythnos ar gyfer gofal dydd a datblygu cyfleoedd i nyrsys ymgymryd â lleoliadau yn yr hosbis, fel rhan o’u hyfforddiant.
Bydd hyn oll yn parhau i ddibynnu ar amser ac ymroddiad gwirfoddolwyr ‘Dw i’n rhyfeddu at faint o oriau mae’r gwirfoddolwyr yn eu rhoi’ meddai Jane. ‘Mae rhai o’r sifftiau yma’n gallu bod yn anodd, ac mae rhai o’r cleifion yn ddibynnol iawn. Ond maen nhw’n dod yn ôl dro ar ôl tro. Dw i’n meddwl bod hynny’n hyfryd’.
Cefnogir gwirfoddoli yn Skanda Vale gan grant Gwirfoddoli Cymru CGGC.