Cymorth cymunedol dros y ffôn yn Sir Gaerfyrddin

Cyhoeddwyd : 28/10/20 | Categorïau:

Unwaith y cawsom ein taro gan y pandemig, gwnaeth grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig helpu Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr i sefydlu a rhedeg llinell ffôn ar gyfer pobl a oedd yn gwarchod eu hunain yn y gymuned.

Ychydig cyn y cyfyngiadau symud, cysylltodd swyddog comisiynu’r awdurdod lleol â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) i ofyn ynghylch sefydlu gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn am nad oedd ganddyn nhw’r capasiti i wneud hyn. Sylweddolwyd y byddai llawer o bobl yn gwarchod neu’n hunanynysu am gyfnod sylweddol heb lawer o gyswllt â’r byd allanol, os o gwbl. CAVS yw’r partner gweinyddol ar gyfer Prosiect Cymorth Sir Gaerfyrddin Unedig (CUSP), ‘Adre o’r ysbyty, cartref nid ysbyty’, sef partneriaeth o naw mudiad gwirfoddol sy’n ymrwymedig i gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol.

Credwyd y byddai gwasanaeth ffôn newydd yn ychwanegiad gwerthfawr at weithgareddau cyfredol y prosiect hwn (cludiant, gofal cartref, cymorth mewn argyfwng, prosiect celf i bontio’r cenedlaethau) a chafodd ei sefydlu’n gyflym.

Cafodd gwirfoddolwyr a chydlynwyr gwirfoddoli eu recriwtio ar www.volunteering-wales.net ac ar lafar drwy bartneriaid CUSP. Cafodd mwy na 100 o wirfoddolwyr eu recriwtio’n gyflym, gan gynnwys naw cydlynydd.

‘Cawsom ein llethu gan y diddordeb a fynegwyd; bu’n rhaid i ni dynnu’r cyfle o’r wefan ar ôl dim ond dau ddiwrnod,’ meddai Jackie Dorrian, Cydlynydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn CAVS ‘ac roedd y bobl a gamodd ymlaen yn anhygoel, gyda chymaint o brofiad yn ogystal ag ymrwymiad ac amser i’w cynnig.

‘Cafwyd amrywiaeth eang, gan gynnwys nyrsys a phobl broffesiynol eraill. Mae hyd yn oed pobl a warchodir wedi bod yn fodlon gwirfoddoli’.

‘Cawson ni ein synnu braidd nad oedd mwy o bobl angen y gwasanaeth hwn, ond roedd llawer o fudiadau wedi sefydlu eu systemau eu hunain ar gyfer cadw mewn cysylltiad â phobl.

‘Rydym ni wedi cael llawer mwy o wirfoddolwyr na phobl sydd angen y gwasanaeth (63 hyd yma). Ond, mae’r mwyafrif o’r gwirfoddolwyr gyda ni o hyd, er nad oes rhai ohonynt wedi gorfod ffonio unrhyw un eto.

‘Pan fydd y gofynion gwarchod yn dod i ben, efallai y byddwn ni’n gweld bod pobl yn bryderus ynghylch mynd allan ac eisiau siarad â rhywun.’

Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl o bob oed, nid pobl hŷn yn unig. Mae wedi helpu pobl iau â gorbryder neu broblemau iechyd meddwl eraill ac wedi gweithio gyda phobl ddigartref a’r rheini â phroblemau mewn perthynas â chamddefnyddio alcohol a sylweddau.

Caiff atgyfeiriadau eu gwneud gan yr awdurdod lleol, ‘Delta Wellbeing’ (darparwr technoleg sy’n ymwneud â gofal a chymorth sy’n eiddo i’r awdurdod lleol) a chan fudiadau gwirfoddol lleol fel Age Cymru Dyfed a’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

Dyrennir y gwirfoddolwyr gan staff CAVS ar sail gofynion y cleientiaid. Mae gan rai gwirfoddolwyr sgiliau cwnsela cydnabyddedig, er enghraifft. Y cwbl sydd ei eisiau ar rai cleientiaid yw rhywun i siarad ag ef, ac mae gan eraill anghenion mwy cymhleth.

Mae CAVS yn darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar wirfoddolwyr, a thrwy ei chysylltiadau â phartneriaid CUSP a’r Cysylltydd Cymunedol a Mwy lleol, gall gael gafael ar ba bynnag gymorth neu wybodaeth sydd ei hangen.

‘Mae’r prosiect yma i aros, o leiaf am y cyfamser’ meddai Jackie. ‘Beth fyddai’n digwydd pe bydden ni’n stopio nawr?’

Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli er mwyn cynorthwyo gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r dudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau, blogiau a straeon achos diweddar.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy