Cydlynu ymateb gwirfoddolwyr yn Sir Ddinbych yn ystod y pandemig

Cyhoeddwyd : 28/10/20 | Categorïau:

Cafodd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC) ei foddi dan wirfoddolwyr a oedd yn awyddus i helpu pan gawsom ein taro gan bandemig y coronfeirws. Dyma sut wnaethant lwyddo i weithio gyda’r cyngor a mudiadau gwirfoddol er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu defnyddio mor effeithlon â phosibl.

Gwnaeth DVSC, un o’r rhwydweithiau lleiaf o Gynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghymru, ymateb yn gyflym i COVID-19 drwy greu cyfle Ymateb Cymunedol Gwirfoddol COVID-19 i bobl leol gymryd rhan a hyrwyddo hwn drwy’r gronfa ddata wirfoddoli Cymru gyfan  www.Volunteering-Wales.net.

Cynhaliwyd trafodaeth â’r Cyngor Sir ynghylch pa gymorth y gallai gwirfoddolwyr ei gynnig.

Gwnaeth DVSC sefydlu a rhedeg system atgyfeirio (gan ddefnyddio dull canolfan alwadau), er mwyn galluogi unigolion i gael help gyda siopa, casglu presgripsiynau a thasgau eraill.

Drwy gydweithio â’r Cyngor Sir, ffoniodd DVSC yr holl wirfoddolwyr a oedd wedi cofrestru i sicrhau eu cymorth.

O ganlyniad i’r ymgyrch ar y wefan a thros y ffôn, cofrestrodd mwy na 440 o bobl fel ymatebwyr cymunedol gwirfoddol COVID-19 ac aeth 247 ati i wirfoddoli yn eu cymunedau – naill ai drwy wasanaeth cymorth cymunedol DVSC neu drwy gael eu gosod mewn rolau o fewn y cyngor neu fudiadau gwirfoddol lleol.

Derbyniwyd ceisiadau unigol am gymorth gan y Cyngor Sir a’u hatgyfeirio i DVSC.

Cawsant naill ai eu paru â gwirfoddolwyr neu eu hatgyfeirio i grwpiau lleol, gan gynnwys ‘mudiadau angori’ adnabyddedig a oedd eisoes yn darparu gwasanaethau arbenigol neu ar leoliad er lles y gymuned.

Rhwng Ebrill a Mehefin 2020, roedd 738 o atgyfeiriadau wedi’u derbyn a’u hateb – 570 gan Gyngor Sir Ddinbych ac 168 gan y gymuned leol yn uniongyrchol.

Un o bartneriaid angori DVSC yw Cymru Gynnes. Derbyniodd 217 o atgyfeiriadau gan DVSC a chefnogodd 235 o drigolion drwy gasglu presgripsiynau, cludo bwyd, cyfeillio, cerdded cŵn a garddio.

Yn ystod y tri mis hyn, galluogodd gyfanswm o 733 o ymyriadau gan wirfoddolwyr, gan hefyd gynnwys cyngor ar effeithlonrwydd ynni, biliau cyfleustodau a newid tariff.

Cynorthwyo mudiadau gwirfoddol

Cynyddodd DVSC y cymorth parhaus yr oedd yn ei roi i fudiadau gwirfoddol lleol drwy eu cynorthwyo i recriwtio gwirfoddolwyr, darparu gwybodaeth, grantiau ynni a sesiynau digidol am ddim ar amrediad o bynciau fel y gyfraith, cyflogaeth ac adnoddau dynol, a gellir gweld y rhain i gyd ar YouTube.

Cynigiwyd sesiynau hyfforddi ar ddefnyddio apiau iechyd a lles, llywodraethu da, rheoli newid a chodi arian hefyd, yn ogystal â chyfres o fwy na 60 o gyrsiau e-ddysgu rhad a oedd ar gael i unigolion a grwpiau.

Gyda llygad ar y dyfodol, mae DVSC wedi datblygu partneriaethau ag amrywiaeth o fudiadau er mwyn galluogi gweithgareddau i barhau i gael eu darparu y tu hwnt i’r pandemig.

‘Mae’r rhain yn fudiadau sy’n gallu gweithio gyda ni i gryfhau’r ecosystem gweithredu gwirfoddol a mentergarwch cymdeithasol, cynorthwyo â’r gwaith adfer a datblygu gwydnwch cymunedol drwy bandemig COVID-19 a thu hwnt’ meddai Prif Swyddog DVSC, Helen Wilkinson.

‘Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn fynd i’r afael ag anghenion cymunedol mewn modd cydweithredol, gan sicrhau bod ein heffaith gyfunol yn fesuradwy, yn gyraeddadwy ac yn adeiladu etifeddiaeth sy’n mynd y tu hwnt i’r heriau presennol.’

Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli er mwyn cynorthwyo gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r dudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau, blogiau a straeon achos diweddar.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy