Fe gawn ni wybod yma sut gwnaeth Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS) drefnu gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau bod trigolion yn cael y feddyginiaeth yr oedd arnyn nhw ei hangen yn ystod argyfwng COVID-19.
O dan amgylchiadau arferol, mae fferyllfeydd ledled Abertawe yn cynnig gwasanaeth cludo presgripsiynau i’r rheini nad ydynt yn gallu casglu’r rhain eu hunain. Gyda chymaint o bobl yn unigolion a warchodir yn ystod y cyfyngiadau symud, llethwyd fferyllfeydd ac nid oeddent yn gallu ateb y galw am brescripsiynau oedd angen eu cludo i gartrefi pobl.
Cytunodd Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS) i helpu drwy gynnwys gwirfoddolwyr a oedd wedi cofrestru’n flaenorol ar wefan www.volunteering-wales.net ac a oedd yn hysbys i SCVS, a gwirfoddolwyr newydd a oedd â rhywfaint o brofiad ym maes iechyd a gofal.
Gwnaeth mudiad gwirfoddoli Prifysgol Abertawe, ‘Discovery’, helpu drwy brosesu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), am fod ganddyn nhw eisoes brofiad o wneud hyn o bell.
Datblygwyd systemau newydd ar gyfer cyfweld, gwirio a diogelu gwirfoddolwyr fel y gellid prosesu nifer fawr ohonynt yn gyflym.
Rhoddwyd bathodyn enw, diheintydd dwylo, menig a gorchudd wyneb i wirfoddolwyr, ynghyd â chyfarwyddiadau ar gadw’n ddiogel a chadw pellter cymdeithasol.
Cafodd ceisiadau cludo eu gwneud gan ddefnyddio system atgyfeirio a oedd yn bodoli cyn hyn a oedd yn seiliedig ar ardaloedd clwstwr meddygon teulu. Byddai staff SCVS yn derbyn y ceisiadau ac yn eu dyrannu i wirfoddolwyr unigol.
Mae oddeutu 900 o bresgripsiynau wedi’u cludo, a 45 o wirfoddolwyr yn weithredol neu yn y broses o ddod yn weithredol.
Mae’r gwirfoddolwyr yn cadw mewn cysylltiad agos â staff SCVS fel y gall unrhyw broblemau gael sylw cyflym.
Cafwyd problemau gyda phresgripsiynau nad oedd ar gael, er enghraifft, neu gydag eitemau coll, a bu’n rhaid cyfathrebu â’r claf a’r fferyllfa i ddatrys y rhain.
Weithiau byddai pryderon diogelu’n cael eu hadrodd a gallai mwy o gymorth gael ei roi yn ei le wedyn, fel cysylltu â gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, cymorth i gael gafael ar fwyd ac eitemau hanfodol neu gyfeirio at awdurdod lleol neu ddarpariaeth trydydd sector arall.
Dywedodd Charlotte o SCVS ‘mae’r cyswllt ar drothwy’r drws wedi bod yn hanfodol o ran cadw aelwydydd yn ddiogel pan mae asiantaethau eraill naill ai wedi rhoi’r gorau i’w gwasanaeth neu leihau eu mewnbwn’.
Dywedodd gwirfoddolwr ‘Gan fy mod eisoes yn wirfoddolwr gydag SCVS ers dwy flynedd ac wedi fy rhoi ar ffyrlo o’r gwaith yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn eisiau ceisio gwneud rhywbeth i helpu fy nghymuned. Nid yn unig er mwyn cadw fy hun yn brysur a rhoi seibiant i fy hun o’r diflastod o aros adref, ond hefyd er lles fy iechyd meddwl ac er mwyn helpu eraill.
‘Mae casglu presgripsiynau i bobl eraill wedi bod yn werth chweil, ac wedi’u harbed rhag rhoi eu hunain mewn perygl neu orfod ciwio am gyfnodau hir. Yna eu cludo iddynt, gan wybod bod ganddyn nhw’r feddyginiaeth sy’n hanfodol iddynt a gweld pa mor ddiolchgar maen nhw am y gwasanaeth rwyf wedi’i ddarparu.
‘Gwnaeth un fenyw hyd yn oed dweud fy mod i’n angel, gwnaeth hynny gyffwrdd â ‘nghalon i, fe wnes i hyd yn oed grio pan es i adre a dweud wrth fy mhlant, sy’n falch iawn ohonof.’