Cerebral Palsu Cymru charity shop front on the high street in Cardiff

‘Gyda phob sifft mae’n ymddangos yn fwy hyderus’

Cyhoeddwyd : 12/10/20 | Categorïau:

Astudiaeth achos gan Cerebral Palsy Cymru, rhan o’n hymgyrch #GwirfoddolwrSiopElusenCymru mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau.

GEORGE PARRY, RHEOLWR GWEITHREDIADAU MANWERTHU AR GYFER CEREBRAL PALSY CYMRU.

‘Fel Rheolwr Gweithrediadau Manwerthu, rydw i’n cael profiad uniongyrchol o’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae gwirfoddoli yn ei wneud i’n gwirfoddolwyr ac i’r elusen yn ei chyfanrwydd.

‘Ein gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn ein siopau elusen. Hebddyn nhw, ni fyddai modd inni agor ein drysau a chroesawu cwsmeriaid i’n siopau.

‘Yn achos un o’n gwirfoddolwyr, Wadhah Obad, dechreuodd wirfoddoli yn ein siopau elusen ar ôl i ‘Bridge the Gap’ argymell y dylai wneud hynny. Mae’n mwynhau cymysgu efo’r cwsmeriaid ac mae bob amser yn cwblhau ei dasgau gyda gwên ar ei wyneb – pa un a fydd yn hongian ac yn stemio dillad yng nghefn y siop neu’n gwasanaethu cwsmeriaid wrth y til.

‘Mae ei sgiliau Saesneg wedi gwella ers iddo gychwyn gwirfoddoli gyda ni, a hefyd yn amlwg mae o wedi magu hyder o’r newydd – rhywbeth sydd mor braf i mi, ei reolwr, ei weld.

Mae gwirfoddolwr sy'n gwisgo crys-t Cerebral Palsy Cymru yn sefyll mewn siop elusen yn gwenu'n eang o flaen rheilen ddillad, mae mwy o ddillad a nwyddau eraill yn y cefndir

‘Roedd un arall o’n gwirfoddolwyr, Benjamin Anthony, yn arfer bod yn gwsmer rheolaidd yn ein siop ar Heol Crwys pan oedd yn fyfyriwr, cyn ymrwymo i wneud rhywfaint o wirfoddoli gan ei fod eisiau cael rhywfaint o brofiad manwerthu a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol.

‘Er mai ychydig wythnosau’n unig sydd yna ers i Benjamin ddechrau gwirfoddoli gyda ni, mae eisoes wedi dysgu cymaint ac wedi cael profiad gwerthfawr a fydd, rydw i’n siŵr, yn ei helpu i gymryd ei gamau cyntaf tuag at ddod o hyd i swydd, ac yntau wedi gadael y brifysgol bellach. Mae’n mwynhau ennill profiad ym mhob rhan o’r siop – o weithio wrth y til i ddidoli’r eitemau a gaiff eu danfon a chynorthwyo i gyfrif stoc – a chyda phob sifft mae’n ymddangos yn fwy hyderus yn ei rôl. Mae’n arbennig o hoff o gymysgu gyda’n cwsmeriaid!

‘Fel elusen, mae Cerebral Palsy Cymru angen codi £1.8M bob blwyddyn er mwyn parhau i gynnig lefel y gwasanaeth a gynigir ar hyn o bryd. Fel elusen fach sy’n dibynnu ar roddion a gweithgareddau codi arian ar gyfer oddeutu 80% o’n hincwm, mae’r arian a gaiff ei godi trwy werthu nwyddau ail-law yn ein siopau yn hollbwysig o ran ein galluogi i barhau i gynnig gwasanaeth hanfodol i blant a theuluoedd ledled Cymru sy’n byw gyda pharlys yr ymennydd.’

Os hoffech gael gwybod mwy am siopau elusen Cerebral Palsy Cymru, ewch i: www.cerebralpalsycymru.org/get-involved/volunteer-with-us/be-a-shop-volunteer.

Os hoffech gael gwybod mwy am wirfoddoli yn un o’u siopau elusen, ewch i: www.cerebralpalsycymru.org/charity-shops.

#GWIRFODDOLWRSIOPELUSENCYMRU

Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan CGGC a’r cyfryngau cymdeithasol (lle byddwn yn defnyddio #gwirfoddolwyrsiopauelusennolcymru) i glywed am amrywiaeth o wahanol brofiadau gan unigolion sy’n gwirfoddoli mewn siopau elusennol.

Dim ond gyda gofal ac ystyriaeth briodol ar gyfer lles gwirfoddolwyr, staff a chwsmeriaid y dylid unrhywun gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Fe welwch ganllawiau diogelu ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau Covid-19. I gael gwybodaeth am gyfyngiadau neu ystyriaethau ar gyfer cloeon lleol mewn Cymru ewch i: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy