Datblygodd y Groes Goch a’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol raglen Camau Cadarn Positive Steps (CCPS) i helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol yn eu cartrefi. Mae’r prosiect yn manteisio ar gryfderau dwy asiantaeth wahanol, sy’n gweithio mewn partneriaeth, ac yn darparu cymorth i alluogi pobl i reoli sefyllfaoedd cymhleth sy’n effeithio ar eu llesiant, ac i ymgysylltu’n gadarnhaol â’u cymunedau.
Mae gwaith blaenorol y Groes Goch gyda phobl hŷn unig ac ynysig wedi cynyddu profiad yr elusen o ailgysylltu pobl â’u cymunedau. Mae’n cydnabod mai ei chryfder arbennig yw gweithio gyda phobl sy’n wynebu rhyw fath o argyfwng. Pan gaiff pobl eu hatgyfeirio at y rhaglen Camau Cadarn, mae staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch yn gallu asesu’r materion dan sylw a mynd i’r afael â nhw yn ôl y galw er mwyn sicrhau rhywfaint o sefydlogrwydd a gwelliant seicogymdeithasol.
Os oes angen rhagor o gymorth ar y cam hwn (fel arfer ar ôl 8-12 wythnos), mae gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn gallu cynorthwyo drwy weithio gydag unigolion am hyd at 12 wythnos arall. Mae’n bosibl bod gan yr unigolion anghenion niferus ac yn aml mae ganddynt broblemau’n ymwneud â hyder. Mae angen cymorth un i un ar rai pobl dros gyfnod sylweddol o amser er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau neu’r rhwydweithiau sydd yno i’w helpu.
Mae hyn yn sicrhau y darperir llwybr ‘cydgysylltiedig’ o gymorth i’r bobl nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer derbyn cymorth statudol, ond sydd er hynny angen cymorth i ailsefydlu eu bywydau.
‘Mae’r meini prawf ar gyfer derbyn gwasanaethau acíwt yn tynhau oherwydd bod gan ein gwasanaethau statudol lai o gapasiti,’ meddai Dave Worrall, Arweinydd Prosiect Camau Cadarn, y Groes Goch Cymru. ‘Mae hyn yn arwain at fwlch yn y ddarpariaeth, a’r galw am gymorth amgen priodol’.
Beth yw gwaith y gwirfoddolwyr?
Mae gwirfoddolwyr y Groes Goch yn gweithio’n agos gyda staff, yn siarad gydag unigolion am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, yn cynnig cymorth emosiynol ac yn gweithio gyda nhw i lunio cynllun gweithredu a’i roi ar waith.
Er enghraifft, atgyfeiriwyd defnyddiwr gwasanaeth o Ystradgynlais, yn dilyn llawdriniaeth frys. Roedd digwyddiadau blaenorol yn ei fywyd, gan gynnwys perthynas yn chwalu, dirwy oherwydd mân achosion o dorri rheolau yn ei fusnes manwerthu bwyd a marwolaeth dau o’i anifeiliaid anwes wedi arwain at bwl o iselder, a dechreuodd fyw fel meudwy y tu ôl i’r llenni. Dechreuodd esgeuluso ei hun, aeth casglu pethau’n obsesiwn ganddo a dechreuodd ei gartref fynd â’i ben iddo.
Siaradodd gweithiwr achosion a gwirfoddolwr y Groes Goch gydag ag ef a gosod nodau realistig i weithio tuag atynt. Fe wnaethant ei helpu i drefnu bod rhywun yn dod i lanhau a golchi ei ddillad ddwywaith yr wythnos er mwyn clirio’r tŷ a sicrhau bod ganddo ddillad glân. Fe wnaethant siarad ar ei ran gyda’i feddygfa i drefnu cyflenwadau o dronsiau anymataliaeth ar bresgripsiwn, cais a wrthodwyd yn wreiddiol, a hefyd siarad gydag asiantaeth budd-daliadau i wneud cais am adolygiad barnwrol o’i hawl i fudd-daliadau, a oedd wedi cael eu cwtogi’n ddiweddar.
Cysylltwyd â Gofal a Thrwsio i gynnal asesiad a darparu cyfarpar i’w gynorthwyo gyda’i symudedd o ddydd i ddydd. Aed ag ef allan am y tro cyntaf mewn 2 flynedd, a chafodd afael ar arian a mynd i’r archfarchnad. Trefnwyd iddo fynd i’r ysbyty dydd lleol er mwyn cael cyfle i gymdeithasu.
Ar ôl 8 wythnos o gymorth, gwellodd hwyliau’r defnyddiwr gwasanaeth, roedd yn bwyta ychydig o fwyd ac yn dweud ei fod yn teimlo’n ddiolchgar bod rhywun wedi gofalu amdano. Ailaseswyd ei fudd-daliadau ac adferwyd ei hawliau blaenorol. Gwelodd fod ganddo obaith o fyw bywyd mwy normal yn y dyfodol agos.
Atgyfeiriodd Camau Cadarn ŵr 80 mlwydd a oedd wedi dioddef o strôc at y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol. Ei fab drefnodd yr atgyfeiriad am ei fod yn poeni nad oedd ei dad wedi bod allan, a’i fod wedi colli ei hyder i gyd ers y strôc. Fe wnaeth y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol baru gwirfoddolwr â’r gŵr, a oedd yn mynd i’w weld yn wythnosol. Daeth o hyd i glwb strôc lleol ac awgrymu eu bod yn ei fynychu. Ar ôl ychydig o berswâd ac anogaeth, aethant i un o gyfarfodydd y grŵp gyda’i gilydd. Roedd yn ddiolchgar am y gefnogaeth i fynychu’r grŵp ac fe wnaeth ei fwynhau o’r ymweliad cyntaf.
Wrth i gyfnod cymorth Camau Cadarn ddirwyn i ben, fe wnaeth y gwirfoddolwr drefniadau trafnidiaeth er mwyn galluogi’r gŵr i barhau i fynychu’r clwb. Aeth y gwirfoddolwr gydag ef ar y trip cyntaf, ac erbyn hyn, mae’n ddigon hyderus i fynd i’r clwb yn annibynnol.
Dyma esiampl wych o sut y mae Camau Cadarn yn gallu helpu i wella hyder unigolyn, a’i ailgysylltu â’i gymuned.
Mesur yr effaith
Mae Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwerthuso’r prosiect a disgwylir adroddiad ym mis Medi. Cysylltwyd â’r unigolion a roddodd eu cydsyniad chwe mis ar ôl i gefnogaeth y Groes Goch a’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ddod i ben, er mwyn mesur effaith y prosiect ar fywydau unigolion.
Mae’r gwirfoddolwyr yn sylweddoli effaith gadarnhaol eu cyfraniad, ac yn cael boddhad o allu darparu’r gefnogaeth.
Yr heriau a wynebwyd a’r gwersi a ddysgwyd
Mae rhai heriau’n gysylltiedig â dau sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth – gwahaniaethau o ran diwylliant, systemau gwahanol, er enghraifft ar gyfer rheoli recriwtio gwirfoddolwyr, cydlynu data er mwyn adrodd yn ôl i nifer o wahanol randdeiliaid. Nid yw’r GDPR (Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data) wedi bod yn broblem neilltuol, ond ymdriniwyd â hyn yn unol â’r gofynion.
I droi at y gwersi a ddysgwyd: ‘mae’n rhaid i’r gwirfoddolwyr dderbyn hyfforddiant da iawn, a chael eu cefnogi er mwyn helpu pobl i wynebu sefyllfaoedd cymhleth ac ingol,’ meddai Dave Worrall, ‘gellid datblygu mwy o hyfforddiant ar y cyd yn y dyfodol, gyda hyfforddiant mewnol ac allanol ar gael i’r gwirfoddolwyr o’r ddau sefydliad.
Dywedodd Steve Amos, Pennaeth Gwasanaethau a Gomisiynir Cymru y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, ‘Mae ein hymrwymiad i’r bartneriaeth gyda’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ar bob lefel, ynghyd â’n parodrwydd i ddysgu oddi wrth ein gilydd a’r broses bartneriaeth, yn gwneud Camau Cadarn yn llwyddiant. Rydym yn cydweithio i sicrhau bod y bobl hŷn a gefnogwn yn cael y gofal gorau posibl gan y ddau sefydliad.’
‘Mae angen i’r naill bartner allu dwyn y llall i gyfrif,’ ychwanegodd Dave Worrall. ‘Mae’r staff rheoli perthnasol yn cyfarfod yn rheolaidd mewn 14 o leoliadau gwahanol ledled Cymru, er mwyn cofnodi, monitro a mynd i’r afael ag unrhyw fater dan sylw’.
‘Dylid mabwysiadu model Camau Cadarn yn ehangach. Bydd y gwersi a ddysgwyd o’n partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn ddefnyddiol i eraill sy’n datblygu llwybrau cymorth tebyg ar draws mwy nag un sefydliad.’
Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 CGS), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.