Volunteers stand outside on a sunny day in front of a motorbike holding signs

Beiciau Gwaed Cymru

Cyhoeddwyd : 02/01/20 | Categorïau:

Dyfarnwyd Gwobr Sefydliad y Flwyddyn i Feiciau Gwaed Cymru yng Ngwobrau Elusennau Cymru CGGC ym mis Tachwedd 2019. Cyfarfu Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru CGGC â Nigel Ward, Cadeirydd Beiciau Gwaed Cymru, er mwyn cael mwy o wybodaeth.

Sut y dechreuodd
Dechreuodd y mudiad Beiciau Gwaed yn Llundain yn ystod chwedegau’r ganrif ddiwethaf.  Dywedodd Nigel, ‘Cafodd ei gydnabod mai’r ffordd gyflymaf i fynd drwy draffig oedd ar feic modur.  Ambell waith, nid oes gan ysbytai y gwaed cywir ar gyfer y math o waed sydd gan y claf, neu mae ganddyn nhw’r gwaed cywir yn y lle anghywir.  Dyma le y gall Beiciau Gwaed Cymru helpu.’

Yn 2010, cyfarfu grŵp bychan o feicwyr o Gymru â Chymdeithas Beiciau Gwaed ledled y wlad ar stondin arddangos ac fe’u hysbrydolwyd i ddatblygu pethau.  Ar ôl trafodaeth mewn tafarn yng Nghaerdydd ynghylch a allai hyn weithio yng Nghymru a sut, codwyd £10,000 a darparwyd beiciau gan grwpiau Beiciau Gwaed eraill, recriwtiwyd a hyfforddwyd gwirfoddolwyr a threfnwyd cofrestru fel elusen a sefydlwyd dulliau gweithredu.  Cafwyd cyfarfodydd gyda Byrddau Iechyd, gyda golwg ar sefydlu cytundeb lefel gwasanaeth.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd Beiciau Gwaed Cymru wedi cael ei sefydlu, gan ddechrau yn Abertawe a lledaenu yn fuan i rannau eraill o Gymru, gyda’r grŵp diweddaraf yn cael ei lansio ym Mhowys ym mis Medi 2019.

Mae Beiciau Gwaed Cymru yn gweithio i safonau cenedlaethol a gytunwyd ar gyfer beicio a hyfforddi ac mae’n cynnig gwasanaeth sy’n rhad ac am ddim i’r GIG.  Mae gan y GIG ei wasanaeth negeswyr ei hun ac mae’r Gwasanaeth Beiciau Gwaed yn ategu hwn.

Beth mae gwirfoddolwyr yn ei wneud?
Mae gwirfoddolwyr yn ysgwyddo un o ddwy swyddogaeth weithredol: beicwyr a rheolwyr, ond mae tîm o godwyr arian, hyfforddwyr, gweinyddwyr ayyb yn darparu cefnogaeth ar gyfer pob beic.  Yng Nghymru, mae mwy na 50 o reolwyr ac oddeutu 100 o feicwyr – yn cynnwys dynion a merched.

Mae rheolwyr yn derbyn atgyfeiriadau gan y GIG ac yn cysylltu â beicwyr gwirfoddol.  Trefnir rota o restr gorchwylion ar-lein a gwasanaeth ar alw.  Mae cynnydd y swyddogaethau unigol yn cael ei dracio er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni mewn modd diogel ac amserol.

Nid yn unig y mae beicwyr yn cario gwaed, maen nhw hefyd yn cario pelydrau-x, meddyginiaethau a llefrith o’r fron fel y bo angen.  Ar gyfer siwrneiau hir, rhennir y daith a bydd hyn ambell waith yn cynnwys cydlynu rhwng sawl grŵp Beiciau Gwaed er mwyn mynd ar draws y wlad.  Teithiodd beicwyr Beiciau Gwaed Cymru 275,000 milltir y llynedd, neu 5,000 o filltiroedd yr wythnos.

Mae codwyr arian yn chwarae rhan hanfodol wrth drefnu digwyddiadau ac annog cyfraniadau gan y cyhoedd a nawdd corfforaethol – ac mae’r cwbl yn cynnal y gwaith.

Gwneud Gwahaniaeth
Dywedodd Nigel Ward. ‘Nid oes gan bob ysbyty fferyllfa ac nid oes gan bob fferyllfa bob meddyginiaeth sydd ei angen.  Gofynnir inni gludo meddyginiaethau, ac ambell waith mae brys amdanyn nhw.’

‘Yn ogystal, rydym yn cynorthwyo meddygon teulu ar alwad sy’n penderfynu bod claf, sydd yn aml yn gaeth i’r tŷ, angen meddyginiaeth ar frys.  Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth rhwng helpu’r claf i deimlo’n well gartref neu gael ei dderbyn i’r ysbyty gyda chyflwr sy’n gwaethygu.’

Yn Ngorllewin Cymru, mae beicwyr gwaed yn gwneud ‘taith gemo’ bob wythnos.  Mae angen i gemotherapi gael ei deilwra ar gyfer pob sesiwn, yn unol â chemeg gwaed y claf’ meddai Nigel ‘byddai’r cleifion yn cael tynnu gwaed ar ddydd Llun ac yna byddai triniaeth briodol yn cael ei pharatoi ar eu cyfer.  Gallai cleifion ddisgwyl am sawl awr a gall y driniaeth gemotherapi gael sgîl effeithiau annymunol.

‘Ar ôl trafod gyda’r Bwrdd Iechyd, mae Beiciau Gwaed Cymru wedi helpu i lunio system well.  Mae cleifion yn ymweld â’u meddyg teulu ar fore Gwener i gael tynnu gwaed.  Mae beiciwr gwirfoddol yn casglu’r samplau o nifer o feddygfeydd ac yn mynd â nhw i’r labordy lle maen nhw’n cael eu dadansoddi.  Erbyn yr amser y mae’r claf yn ymweld â chlinig yr ysbyty ar ddydd Llun, mae’r canlyniadau wedi dod yn ôl ac mae’r driniaeth yn barod’.

Ambell waith, y dewis gorau i fabanod newydd-anedig yw’r un naturiol.  Mae mamau hael sy’n nyrsio yn gwasgu llefith o’r fron a’i roi i fanc llefrith, lle mae’n cael ei sgrinio a’i baratoi, yn barod ar gyfer ei ddosbarthu lle y mae ei angen.  Mae beicwyr gwaed yn casglu’r llefrith a roddwyd o gartrefi unigolion ac yn ei ddanfon i fanciau llefrith ac maen nhw’n cymryd llefrith o’r banciau llefrith a mynd ag ef i unedau gofal dwys newyddenedigol lle y mae ei angen.

‘Roedd un fam newydd, a oedd yn oroeswr canser, yn analluog i fwydo ei babi newydd-anedig ei hun.  O fewn awr i alwad ffôn, roedd y banc llefrith wedi trefnu cynllun bwydo ar ei chyfer’, meddai Nigel.

‘Yn ddiweddar, aeth mam newydd arall yn sâl ac roedd yn rhaid iddi fynd i’r ysbyty, gan adael y tad a’r babi gartref.  Roedd beicwyr gwaed yn gallu mynd â llefrith a wasgwyd ganddi hi i’r babi am ychydig ddyddiau, nes ei bod wedi cael adferiad llwyr.

Mae banciau llefrith dynol yn aml yn elusennau eu hunain.  Bydden nhw wedi gorfod talu am negesydd oni bai am y gwasanaeth rhad ac am ddim a gynigir gan wirfoddolwyr y Beiciau Gwaed.

Ambell waith, gofynnir i Feicwyr Gwaed gario eitemau anarferol – y cwbl yn feddygol ac yn hollbwysig. ‘Unwaith, gofynnwyd inni gario cyfarpar llawfeddygol arbenigol 100 milltir drwy Gymru a disgwyl tra’r oedd llawdriniaeth wedi’i chwblhau a sterileiddio’r eitem cyn ei dychwelyd.  Hon oedd yr unig un o’i bath trwy’r wlad!’ meddai Nigel.

‘Rydym wedi cario pinnau titaniwm ar gyfer llawdriniaethau clun i ysbyty a oedd 60 milltir i ffwrdd.  Heb y pinnau hyn, byddai’r llawdriniaeth wedi cael ei chanslo.’

Heriau a datblygiadau
Mae’r sefydliad wedi tyfu yn gyflym.  Nid oes unrhyw staff cyflogedig ac mae penderfyniadau yn cael eu gwneud gan bwyllgor sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob grŵp ardal.  ‘Mae’n her i wneud y defnydd gorau o’n hamser mewn cyfarfodydd a gwneud penderfyniadau mewn ffordd gynhwysol, ond effeithiol,’ meddai Nigel.

Mae’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn her arall.  ‘Mae aelodau angen bod yn ofalus ynglŷn â beth maen nhw’n ei bostio a bod yn ofalgar bob amser o enw da’r sefydliad.  Mae enw da yn bopeth’ meddai Nigel.

Wrth edrych i’r dyfodol, uchelgais Beiciau Gwaed Cymru yw lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i wirfoddolwyr newydd gael eu hyfforddi a bod yn barod i ddechrau.  Dywedodd Nigel ‘rydym yn anelu at gael cychwyn gyda gwirfoddolwyr newydd o fewn deufis’.  Mae cynnydd yn y galw am Feiciau Gwaed a bydd hyn yn achosi heriau sefydliadol a logistaidd yn y dyfodol.

‘Er gwaethaf yr heriau, mae’n rhyfeddol gweld cymaint yr ydym yn ei gyflawni’ meddai Nigel.  Mae gwirfoddolwyr yn falch o fod yn gallu cefnogi’r GIG yn y ffordd hon; fel y dywedodd un ‘Rydw i’n mewn dyled fawr i’r GIG, yn bersonol ac yn y gorffennol ar gyfer y teulu.  Hefyd, mae rheswm hunanol, mae gorfod beicio ym mhob tywydd yn fy nghadw ar flaenau’m traed ac yn cadw fy sgiliau beicio wedi’u hogi, gobeithio!’  Daw’r wobr o wybod eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth, wedi arbed bywyd rhywun neu ddim ond wedi eu gwneud nhw yn fwy cyfforddus,’ meddai gwirfoddolwr arall.

Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol) a phartneriaid eraill i ddatblygu’r potensial o wirfoddoli yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy