Mae dwy fenyw yn archwilio bwrdd gwyn sydd â chyfres o nodiadau gludiog wedi'u gosod i ddangos strwythur trefniadaeth newydd

Strwythur newydd CGGC

Cyhoeddwyd : 24/04/23 | Categorïau: Newyddion |

Mae CGGC wedi bod yn dilyn rhaglen newid uchelgeisiol i ail-ddylunio a datblygu’r mudiad. Dyma ddiweddariad ar y cynnydd hyd yma, gan gynnwys strwythur newydd y mudiad.

Mae CGGC wedi cwblhau cam un o raglen newid dau gam sy’n ceisio ail-ddylunio a datblygu’r mudiad er mwyn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i gefnogi’r sector yn y dyfodol.

Cyflwynwyd y rhaglen newid am dri phrif reswm:

  1. Lansio ein cynllun strategol newydd ar gyfer 2022-27
  2. Diwedd cyllid yr UE yng Nghymru
  3. Newidiadau yn y ffordd rydyn ni’n gweithio gyda chyflwyniad gweithio’n hyblyg a mewn modd hybrid

Gallwch chi ddarllen mwy am y rhesymau y tu ôl i’r rhaglen newid yma.

BLE YDYN NI NAWR?

Ers dechrau’r daith hon ym Mehefin 2022, rydyn ni wedi ymgynghori’n helaeth â staff a rhanddeiliaid allanol i’n helpu ni i lunio strwythur newydd sy’n cefnogi ein strategaeth ar gyfer 2022-27.

Mae ein strwythur newydd ar waith nawr ers Ebrill 2023. Gan fod cyllid yr UE wedi dod i ben yng Nghymru a llawer o’n prosiectau, fel y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, yn dod i ben, mae ein tîm staff yn llawer llai nawr.

Dyluniwyd y strwythur newydd i gyflawni ein strategaeth a bod yn fwy hyblyg. Mae’r strwythur yn cynnwys chwe grŵp a fydd yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Arweinyddiaeth– Bydd y tîm hwn yn rhoi arweiniad ysbrydoledig ac empathetig, gan rymuso ein pobl a’r sector gwirfoddol yng Nghymru i arwain newid cadarnhaol. Y meysydd ffocws i’r tîm hwn fydd partneriaethau strategol, cyllid, llywodraethiant cwmni, a strategaeth a chynllunio.
  • Cymorth- Bydd y tîm hwn yn cyflwyno adnoddau ymarferol a dysgu ar y cyd er mwyn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i fod yn fwy amrywiol a gwydn a chael mwy o effaith. Y meysydd ffocws i’r tîm hwn fydd datblygu sgiliau a gwybodaeth, rhaglenni a gwirfoddoli.
  • Llais- Bydd y tîm hwn yn canolbwyntio ar ein haelodau i greu polisi seiliedig ar dystiolaeth a hyrwyddo gwerth ac effaith y sector. Y meysydd ffocws i’r tîm hwn fydd aelodaeth, mewnwelediadau, cyfathrebiadau, digwyddiadau a dysgu, y Gymraeg a pholisi.
  • Buddsoddi- Y tîm hwn fydd y prif gyllidwr aml-fformat yng Nghymru, yn arloesi i gynorthwyo’r sector, gan wneud y defnydd gorau o’n cydberthnasau cyllid er mwyn cyflawni mwy a chael mwy o effaith. Y meysydd ffocws i’r tîm hwn fydd grantiau, cynhyrchu incwm, adnoddau cynaliadwy a chyllid ad-daladwy.
  • Systemau- Bydd y tîm hwn yn arwain newid o ran sut rydyn ni’n datblygu ac yn gweithredu ein prosesau, data a’n systemau digidol. Y meysydd ffocws i’r tîm hwn fydd TG, data, dylunio a chynhyrchion digidol.
  • Pobl- Bydd y tîm hwn yn meithrin ffordd o weithio sy’n gwneud pobl a’u datblygiad a’u llesiant yn ganolog i CGGC. Y meysydd ffocws i’r tîm hwn fydd rheoli pobl, datblygu pobl, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) a llesiant.

BETH NESAF?

Nawr bod ein strategaeth a’n strwythur newydd ar waith, byddwn ni’n dechrau ar gam dau ein rhaglen newid. Bydd y cam nesaf hwn yn cynnwys ymwreiddio ein strategaeth o fewn cynllun gweithredol, rhoi ein strategaeth data ac adrodd newydd ar waith, ac adolygu ein systemau a’n prosesau.

Bydd cyfnod pontio i mewn i’r strwythur newydd wrth i staff gyfarwyddo â’r newidiadau mewn rolau ac wrth i ni ddod â phrosiectau a gyllidwyd gan yr UE i ben. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyfnod pontio hwn wedi’i gwblhau erbyn Hydref 2023, ac yn y cyfamser, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar â ni wrth i ni gwblhau’r broses newid hon.

Yr un yw ein diben drwy gydol y daith hon – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd. Bydd y newidiadau rydyn ni’n eu gwneud yn ein galluogi i addasu ac ymateb i gefnogi’r sector gyda heriau a chyfleoedd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n haelodau a’n partneriaid yn ystod y cam nesaf hwn er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein sylfeini cryf ac yn datblygu ein gwasanaethau i gefnogi’r sector yn y modd mwyaf effeithiol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod dyfodol CGGC, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at help@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy