Roedd 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru. O’r diwrnod hwn ymlaen, mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Nod y newid hwn yn y gyfraith yw diogelu plant a’u hawliau a rhoi iddynt y cychwyn gorau mewn bywyd.
Mae angen i fudiadau sector gwirfoddol yng Nghymru fod yn ymwybodol o’r newid hwn yn y gyfraith a bydd gan lawer ohonynt ran i’w chwarae i gynyddu ymwybyddiaeth a helpu teuluoedd i ddeall y newidiadau.
Mae’n bosibl y bydd mudiadau sy’n gweithio â phlant hefyd eisiau ystyried sut dylai’r gyfraith gael ei hadlewyrchu yn eu polisi diogelu.
BETH MAE’R NEWID YN Y GYFRAITH YNEI OLYGU?
- Mae cosbi corfforol o bob math yn anghyfreithlon yng Nghymru.
- Mae’n rhoi i blant yr un warchodaeth ag oedolion rhag ymosodiad.
- Mae’n gwneud y gyfraith yn gliriach – yn haws i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall.
A FYDD NEWID YN Y GYFRAITH YN BERTHNASOL I BAWB YNG NGHYMRU?
Bydd, bydd yn berthnasol i bawb – rhieni neu unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn pan nad yw’r rhieni yn bresennol. Ac fel gyda chyfreithiau eraill, bydd yn berthnasol i ymwelwyr â Chymru hefyd.
BETH SY.N DIGWYDD OS BYDD POBL YN COSBI PLENTYN YN GORFFOROL?
Bydd unrhyw un sy’n cosbi plentyn yn gorfforol:
- yn torri’r gyfraith
- mewn perygl o gael ei arestio neu ei gyhuddo o ymosod
- yn gallu cael cofnod troseddol sydd yr un fath ar gyfer unrhyw drosedd
Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sydd angen, i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant ac i helpu i osgoi sefyllfa o’r fath rhag digwydd byth.
BETH DDYLWN I WNEUD OS GWELAF BLENTYN YN CAEL EI GOSBI’N GORFFOROL NU OS WYF YN POENI AM BLENTYN?
- Cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol.
- Gallwch hefyd ffonio’r heddlu mewn argyfwng neu os oes plentyn mewn perygl dybryd.
CYNGOR A CHYMORTH
- Dalen wybodaeth ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant, y tu allan i addysg a gofal plant ffurfiol
- Adnoddau a gwybodaeth gefndir ar y newid yn y gyfraith
- Mae Magu plant – rhowch amser iddo yn cynnig awgrymiadau a chyngor arbenigol ar sut i annog plant i ymddwyn yn dda a hefyd yn rhoi opsiynau eraill yn lle cosbi corfforol. Mae’r dudalen gymorth â magu plant yn cynnig dolenni at gymorth pellach a llinellau cymorth.
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru gyfan