Two female tailors sit smiling behind a sewing machine

Cynllun Grant Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd : 11/12/19 | Categorïau: Newyddion |

Beth yw’r cynllun?

Bydd Cynllun Grant Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru yn galluogi sefydliadau a grwpiau cymunedol i gael mynediad at arian ar gyfer prosiectau Cymru-Affrica ar raddfa fach. Mae hyd at £230,000 ar gael bob blwyddyn, gydag isafswm blynyddol o £50,000 ar gyfer gweithgareddau iechyd.

Y rownd nesaf o ariannu fydd ar gyfer y Prif Grantiau, sef £5,000 – £15,000, a bydd ar agor yn ystod gwanwyn 2020.

Rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio.

Hub Cymru Affrica

Gall Hub Cymru Affrica eich cynorthwyo gyda’r gwaith o gefnogi a datblygu prosiectau, gan gynnwys dod o hyd i bartneriaid a sicrhau bod gennych yr holl ddogfennau ategol cywir yn eu lle ar gyfer eich sefydliad. Maen nhw hefyd yn gallu eich helpu i chwilio am arian o ffrydiau ariannu eraill ar gyfer prosiectau sy’n cysylltu Cymru ac Affrica.

Gallwch gysylltu â thîm Datblygu a Chefnogi Hub Cymru Affrica yn: enquiries@hubcymruafrica.co.uk.

Themâu

Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu i bedwar maes thematig

 

Iechyd – prosiectau sy’n cyfrannu at iechyd a lles corfforol a meddyliol cymunedau yn Affrica Is-Sahara.

 

  • Rhannu gwybodaeth a sgiliau rhwng sefydliadau iechyd yng Nghymru ac Affrica
  • Cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn Affrica i gael mynediad at gymorth a hyfforddiant ar raddfa fach o Gymru
  • Cefnogi cymunedau yng Nghymru ac Affrica i gael gofal iechyd tecach ac o safon

 

Bywoliaethau cynaliadwy – prosiectau sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ariannol – sy’n galluogi gwytnwch economaidd mewn teuluoedd ac sy’n cefnogi cyflogaeth a mentrau ar raddfa fach.

 

  • Mentrau cydweithredol sy’n cynhyrchu incwm – sy’n cael eu harwain gan y gymuned – sy’n cynnig manteision i Gymru ac Affrica
  • Ennyn diddordeb y cyhoedd yng Nghymru drwy eiriolaeth, polisi neu ymgyrchoedd Masnach Deg
  • Gweithgareddau sy’n dod â defnyddwyr Cymru yn agosach at y cynhyrchydd mewn modd cynaliadwy
  • Cymorth i brosiectau amaethyddol yn Affrica Is-Sahara a gweithgareddau sy’n cynhyrchu incwm ar lawr gwlad

 

Dysgu gydol oes – prosiectau sy’n cefnogi unigolion a grwpiau yng Nghymru a/neu Affrica i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.

 

  • Cysylltu cymunedau yng Nghymru â chymunedau yn Affrica i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o ddatblygiad byd-eang a materion rhyngwladol
  • Cefnogi anghenion addysgol plant difreintiedig yn Affrica, a rhannu’r profiad hwnnw â disgyblion Cymru, gan gyfrannu at eu haddysg fyd-eang
  • Cefnogi pobl yn Affrica i ddysgu sgiliau ymarferol/galwedigaethol/artistig i wella eu bywoliaeth

 

Yr Amgylchedd a Newid yn yr Hinsawdd – mentrau addasu a lliniaru strategol ac ymarferol ar gyfer newid yn yr hinsawdd, gan ddefnyddio arbenigedd Cymru.

 

  • Prosiectau sy’n galluogi defnyddio ynni adnewyddadwy yn Affrica
  • Prosiectau sy’n ennyn diddordeb pobl Cymru am faterion newid yn yr hinsawdd a sut maent yn effeithio ar Affrica
  • Gwaith sy’n anelu at gefnogi partneriaid yn Affrica i weithredu arferion datblygu cynaliadwy

 

Y broses gwneud cais

  1. Y gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau
  2. Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen gais drwy’r post neu e-bost
  3. Bythefnos cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais – cyfle olaf i gael gwiriad cymhwysedd
  4. Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
  5. Tua chwe wythnos ar ôl y dyddiad cau – hysbysu am y canlyniad

Nid oes rowndiau grant ar agor ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd, ond byddwn yn cyhoeddi rownd ariannu newydd cyn bo hir. Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Grant Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, anfonwch e-bost at walesafricagrants@wc001.ddtestsite.co.uk.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy