Oedolyn o dan y dŵr yn snorcelio ac yn asesu'r ardal

Snorcelio dros natur

Cyhoeddwyd : 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae prosiect Wild Swimways yn gwarchod natur ar hyd afon Menai gan gyflwyno pobl i fywyd o dan y dŵr ar yr un pryd drwy brofiadau snorcelio.

Mae Wild Swimways yn brosiect ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru (NWRT) a Phartneriaethau Natur Lleol Ynys Môn a Gwynedd a dderbyniodd cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Gwnaeth y prosiect hyfforddi staff a gwirfoddolwyr i ddod yn achubwyr bywydau dŵr agored ardystiedig gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) a sefydlu hyb i hyfforddi gwirfoddolwyr fel arweinwyr snorcelio achrededig. Bydd hyn yn caniatáu i ymwelwyr edrych ar fywyd gwyllt cyfareddol afon Menai a helpu gydag arolygon, er mwyn monitro cyflwr natur ac ansawdd y dŵr.

Mae afon Braint yn gynefin pwysig i’r brithyll a brithyll y môr, a nod y prosiect yw gwarchod Rhywogaethau Blaenoriaethol y DU, yn ogystal â’r holl rywogaethau eraill o fywyd gwyllt sydd yn yr ardal amrywiol, cyfoethog o natur hon.

DATBLYGU AP

Mae’r cyllid hefyd wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu ap sy’n caniatau i aelodau o’r cyhoedd roi help llaw drwy gyfrannu at arolygon a mapio cynefinoedd yr ardal. Fel rhan o’r gwaith ar ddatblygu’r ap, comisiynodd Wild Swimways JD Scuba i greu cyfres o fideos plymio sy’n caniatau i aelodau o’r cyhoedd gymryd rhan mewn rhith-blymiadau a saffarïau snorcelio a dysgu am rywogaethau ac ecosystemau.

GWIRFODDOLWYR YN PLYMIO I MEWN

Mae’r prosiect eisoes wedi recriwtio 90 o wirfoddolwyr i helpu i lanhau’r arfordir a chymryd rhan mewn sesiynau arolygu â snorcel. Mae’r cyfranogwyr wedi mwynhau dysgu am ddiogelwch dŵr a sgiliau snorcelio yn fawr iawn, ynghyd â threulio amser yn y dyfroedd prydferth o amgylch Ynys Môn, yn edrych ar fyd natur ac yn helpu i ofalu am eu hamgylchedd.

Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi helpu i ddatblygu gerddi gwlypdir i gartref gofal lleol, gan ymgysylltu â’r trigolion a rhannu straeon am afonydd Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o faint o fudd y gall pobl ei gael o wirfoddoli; gallant gwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar weithgareddau nad ydynt erioed wedi’u gwneud o’r blaen. Mae hefyd yn dangos sut gall gwarchod natur fod yn hwyl a hyd yn oed yn fywiocaol.

YNGLŶN Â’R GRONFA

Caiff Cronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ei rheoli gan gynllun Partneriaethau Natur Lleol Cymru CGGC ar ran Llywodraeth Cymru. Nod y gronfa yw adfer a gwella bioamrywiaeth, cefnogi natur o fewn cymunedau, a chynyddu’r mynediad at natur ar drothwy eich drws i bobl ledled Cymru.

DARGANFOD MWY

I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaethau Natur Lleol, ewch i lnp.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy