Ydych chi’n gweithio gyda phobl a ddylai fod â llais yn etholiad y flwyddyn nesaf?
Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru (ERS Cymru) yn rhoi Gweithgor Ymgysylltiad Etholiadol at ei gilydd cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021. Bydd y grŵp yn dwyn ynghyd mudiadau’r sector gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio neu sy’n llai tebygol o bleidleisio. Amcanion y grŵp fydd:
- Deall y gwaith ymgysylltu presennol a wneir yn rheolaidd ledled Cymru
- Lleihau’r perygl o ddyblygu gwaith presennol
- Hybu gweithio cydweithredol ar draws mudiadau er mwyn cynhyrchu a dosbarthu deunyddiau ymgysylltu sy’n berthnasol ac yn hygyrch
- Hyrwyddo ymgysylltiad gyda grwpiau targed, h.y. trwy blatfformau digidol
Dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru: ‘Etholiad y flwyddyn nesaf fydd y cyntaf i weld pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a’r holl wladolion tramor cofrestredig yn pleidleisio yng Nghymru. Mae hon yn foment wirioneddol arwyddocaol yn hanes Cymru, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn.
‘Dyna pam fod yn rhaid i ni ddod â grwpiau sy’n gweithio ar lawr gwlad ledled Cymru ynghyd i drafod sut orau i hysbysu ac ymgysylltu pobl sydd naill ai newydd gael yr hawl i bleidleisio neu sy’n llai tebygol, yn draddodiadol, o fynd allan i bleidleisio. Rydym hefyd yn cydweithio â’r cyrff mawrion sy’n arwain ar greu adnoddau er mwyn iddynt rannu’r hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud. Ein bwriad yn hyn o beth yw cyflenwi mudiadau ledled Cymru â’r adnoddau hyn ac â’r cysylltiadau i hysbysu’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw ynglŷn â pha mor bwysig fydd pleidleisio’r flwyddyn nesaf.
‘Mae hi mor bwysig fod lleisiau pobl Cymru benbaladr yn cael eu clywed fis Mai nesaf – ac mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rhan allweddol yn hyn o beth. Cysylltwch â ni os credwch y gallai hyn fod o ddiddordeb i chi.’
Cynhelir y cyfarfod cyntaf ym mis Medi neu fis Hydref eleni. Os hoffech gymryd rhan e-bostiwch ERS Cymru ar cymru@electoral-reform.org.uk, os gwelwch yn dda.