Sicrhau arferion o’r ansawdd gorau yn y sector gwirfoddol

Mae mudiadau gwirfoddol sy’n croesawu ymdrechion i sicrhau ansawdd yn ceisio cyflawni’r safonau uchaf yn y modd y caiff eu mudiadau eu rhedeg, wrth ddarparu gwasanaethau ac wrth greu’r effaith fwyaf.

Mae ymrwymiad i ansawdd yn helpu i hybu gwelliannau a hefyd yn ennyn hyder yn fewnol, gyda rhanddeiliaid allweddol a chyda’r cyhoedd yn gyffredinol.

Cyn dechrau ar unrhyw gynllun sicrhau ansawdd, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymchwilio i’r holl opsiynau, gan feddwl am flaenoriaethau’r mudiad a lefel yr ymrwymiad a buddsoddiad y bydd ei hangen i gyflawni’r safon.

Mae nifer o systemau ansawdd sy’n cael eu defnyddio’n aml yn y sector gwirfoddol, a gallwch chi gael rhagor o wybodaeth amdanynt isod.

HANFODION ELUSENNAU

Gwiriad iechyd ar-lein am ddim yw Hanfodion Elusennau sydd wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer elusennau bach, grwpiau cymunedol a grwpiau gwirfoddol. Gallwch chi ddefnyddio’r adnodd hwn i wneud gwiriad iechyd sylfaenol ar sut mae eich mudiad yn perfformio, nodi cryfderau a gweld y meysydd sydd angen eu datblygu. Gellir defnyddio’r adnodd fel y cam cyntaf i ymwreiddio mesurau sicrhau ansawdd yn eich mudiad.

Mae fersiwn ddwyieithog o adnodd Hanfodion Elusennau wedi’i chreu mewn partneriaeth â’n chwaer-fudiad yn Lloegr, NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol) ac mae ar gael ar yr Hwb Gwybodaeth – thirdsectorsupport.wales/cy/hanfodion-elusennau.

ELUSEN DDIBYNADWY

Dyluniwyd safon ansawdd Elusen Ddibynadwy i helpu elusennau i weithredu’n fwy effeithiol ac effeithlon. Mae’r safon yn ymdrin ag 11 o feysydd ansawdd, gan gynnwys llywodraethu, rheoli pobl, rheoli arian a gweithio gyda phobl eraill. Mae’r broses yn cynnwys hunanasesiad systemig cychwynnol ar draws y meysydd ansawdd, ac ar ôl hyn, gellir wedyn cael achrediad allanol i ennill y Marc Elusen Ddibynadwy.

Cyflwynir y Safon Elusen Ddibynadwy gan The Growth Company ar ran NCVO a gellir cael rhagor o wybodaeth yn trustedstandard.org.uk/cy/safon-ddibynadwy.

Mae aelodau CGGC yn derbyn gostyngiad o 10% ar ffioedd yr Elusen Ddibynadwy.

BUDDSODDI MEWN GWIRFODDOLWYR (IiV)

Os oes arnoch eisiau asesu ansawdd eich gwaith o reoli a chynnwys gwirfoddolwyr, profi a gwella effeithiolrwydd eich gwaith gyda gwirfoddolwyr, a gwella enw da eich mudiad, mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn fframwaith delfrydol. Mae ar gael i unrhyw fudiad gwirfoddol ac mae’n cael ei gydnabod yr un fath yn union ym mhob gwlad yn y DU.

Mae cyrraedd y safon yn dangos i’ch gwirfoddolwyr – a darpar wirfoddolwyr – gymaint maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi ac yn rhoi hyder iddyn nhw yn eich gallu i ddarparu profiad heb ei ail i wirfoddolwyr. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i gyllidwyr ynglŷn ag ansawdd eich ymarfer.

Mae’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) wedi bod ar waith ers 1995. Mae wedi’i diwygio a’i hailwampio’n ddiweddar, gyda’r safon ddiwygiedig yn cael ei lansio ym mis Mawrth 2021. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.investinginvolunteers.co.uk neu ewch i’n tudalen Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr i gael manylion am IiV yng Nghymru.

BUDDSODDWYR MEWN POBL

Safon ar gyfer rheoli pobl yw Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n cynnig achrediad i fudiadau sy’n glynu at y Safon Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae’r fframwaith yn asesu pa mor dda rydych chi’n cefnogi pobl, gan edrych ar dri maes allweddol: arwain, cefnogi a gwella.

Cynhelir asesiadau Buddsoddwyr mewn Pobl yn lleol drwy Ganolfannau Cyflenwi lleol ledled y DU ac yn rhyngwladol.

www.investorsinpeople.com (Saesneg yn unig)

ARDYSTIAD ISO 9000

Cyfres o safonau systemau rheoli ansawdd (QMS) yw’r ISO 9000 sy’n helpu mudiadau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill o fewn gofynion statudol a rheoleiddiol sy’n ymwneud â chynnyrch neu wasanaeth.

Darperir yr ardystiad gan gyrff ardystio annibynnol.

www.qmsuk.com/iso-by-industry/charities (Saesneg yn unig)

CYFLOG BYW

Y Cyflog Byw Gwirioneddol yw cyfradd gyflogau’r DU a gaiff ei thalu’n wirfoddol gan fusnesau sy’n credu bod eu staff yn haeddu cael cyflog diwrnod teg am ddiwrnod caled o waith. Mae’r cyfraddau Cyflog Byw ar gyfer y DU a Llundain yn uwch na lleiafswm y llywodraeth ac yn cael eu cyfrifo’n annibynnol ar sail yr hyn sydd ei angen ar bobl i fyw.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Cyflog Byw a sut i ddod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig ar wefan Living Wage (Saesneg yn unig).

HANFODION SEIBER

Cynllun a gefnogir gan y diwydiant a’i gymeradwyo gan y llywodraeth yw Hanfodion Seiber i helpu mudiadau o bob maint i ddiogelu eu hunain rhag yr amrediad llawn o ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin. Mae ardystiad yn rhoi tawelwch meddwl i’ch mudiad eich bod yn ddiogel, ac yn dangos eich ymrwymiad i seiberddiogelwch. Mae dwy lefel o ardystiad ar gael, ynghyd â phecyn cymorth parodrwydd sy’n eich helpu i symud tuag at fodloni gofynion Hanfodion Seiber.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Cyber Essentials (Saesneg yn unig).

Y CYNNIG CYMRAEG

Mae’r cynllun hwn a redir gan Gomisiynydd y Gymraeg yn rhoi ardystiad i fudiadau sydd wedi ymrwymo i ddatblygu eu darpariaeth Gymraeg. Mae Tîm Hybu’r Comisiynydd yn helpu mudiadau i greu Cynllun Datblygu’r Gymraeg, sef cynllun hirdymor i gynnal a datblygu eich darpariaeth Gymraeg.

Gall mudiadau â Chynllun Datblygu cryf wneud cais i’r Comisiynydd am gydnabyddiaeth swyddogol. Mae ardystiad y Cynnig Cymraeg yn ffordd wych o ddangos i gyrff cyllido a’r cyhoedd bod gennych chi gynllun eglur ar waith i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Comisiynydd y Gymraeg – www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau/cynnig-cymraeg.

CYNLLUNIAU ERAILL

Yn ogystal â’r rheini a restrwyd ar y dudalen hon, mae amrywiaeth o gynlluniau sicrhau ansawdd neu achredu sy’n berthnasol i feysydd gwaith arbenigol neu feysydd darparu gwasanaeth penodol. Dylech ymchwilio i’r rhain yn drwyadl, ac argymhellwn eich bod yn gofyn am gyngor gan eich corff ymbarél neu aelodaeth perthnasol i sicrhau bod y cynllun yn addas i chi.

HOFFEM GLYWED GENNYCH!

Cysylltwch â ni i rannu eich syniadau, profiadau ac adborth am unrhyw farciau neu systemau ansawdd.

Cysylltwch help@wcva.cymru neu 0300 111 0124. Dilynwch ni ar Twitter a Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a rhannu eich adborth!

DOLENNI DEFNYDDIOL

thirdsectorsupport.wales/cy/hanfodion-elusennau

trustedstandard.org.uk/cy/safon-ddibynadwy

www.investinginvolunteers.co.uk (Saesneg yn unig)

wcva.cymru/cy/buddsoddimewngwirfoddolwyr

www.investorsinpeople.com (Saesneg yn unig)

www.qmsuk.com/iso-by-industry/charities (Saesneg yn unig)

www.livingwage.org.uk/what-real-living-wage (Saesneg yn unig)

www.cyberessentials.ncsc.gov.uk (Saesneg yn unig)

www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau/cynnig-cymraeg