Mae siaradwr brwdfrydig o Big Learning Company yn swyno cynulleidfa amrywiol gyda’i gyflwyniad difyr ar sgiliau digidol ar gyfer y sector gwirfoddol

Sesiynau hyfforddi digidol am ddim yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr eleni

Cyhoeddwyd : 18/10/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Gallwch chi gael sesiynau hyfforddi am ddim ar bynciau digidol gwahanol ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr eleni, fel rhan o raglen Newid: Digidol ar gyfer y Trydydd Sector.

Mae Newid: Digidol ar gyfer y Trydydd Sector yn cynnig hyfforddiant am ddim i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Cynlluniwyd y sesiynau hyn i’ch helpu chi i ddefnyddio digidol ac arbed amser, dangos effaith eich mudiad ac i’ch cynorthwyo i ddarparu eich gwasanaethau.

Mae’r sesiynau hyfforddiant ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a byddant yn cael eu darparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad mewn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru.

Bydd y sesiynau hyfforddi hyn yn edrych ar offer digidol amrywiol sydd naill ai ar gael am ddim, yn rhad, neu sydd eisoes ar gael trwy becynnau swyddfa.

GWEITHIO’N FWY EFFEITHLON GYDAG OFFER A THECHNOLEG DDIGIDOL

  • Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 | 10am – 1pm | Ar-lein (Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg)
  • *Bydd y sesiwn a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynnal ar ddechrau 2024. Cysylltwch ag archebion@wcva.cymru i gofrestru eich diddordeb*

Yn ystod y cwrs hwn byddwch chi’n cael gwybodaeth am offer digidol fel Microsoft Teams, Miro, a Microsoft Visio, ymhlith eraill, ac yn dysgu sut gallant symleiddio a gwella eich gwaith, a helpu i reoli prosiectau.

Cael gwybod mwy a chadw lle

MARCHNATA DIGIDOL A CHYFRYNGAU CYMDEITHASOL

  • Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023 | 10am – 1pm | Ar-lein (Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg)
  • Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023 | 10am – 1pm | Ar-lein (Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg)

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi’r wybodaeth i chi allu defnyddio eich platfformau cyfryngau cymdeithasol yn llwyddiannus fel adnoddau marchnata effeithiol.

Cael gwybod mwy a chadw lle

CYDWEITHIO A CHYFATHREBU DIGIDOL

  • Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023 | 10am – 1pm | Ar-lein (Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg)
  • *Bydd y sesiwn a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynnal ar ddechrau 2024. Cysylltwch ag archebion@wcva.cymru i gofrestru eich diddordeb*

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn edrych ar y  dulliau ac offer i wella cyfathrebu a chydweithio yn y gweithle. Byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol ar gyfer cydweithio’n effeithiol o fewn amgylcheddau rhithwir, gan feithrin gwaith tîm a chyfathrebu mwy effeithlon yn y gweithle digidol.

Cael gwybod mwy a chadw lle

CAEL MWY ALLAN O’CH DATA: OFFER AR GYFER DADANSODDI DATA

  • Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023 | 10am – 1pm | Ar-lein (Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg)
  • Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 | 10am – 1pm | Ar-lein (Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg)

Yn y cwrs hanner diwrnod hwn, byddwn yn edrych ar sut gallwch chi gasglu, dadansoddi a defnyddio data i lywio eich penderfyniadau. Byddwn hefyd yn edrych ar arferion gorau ar gyfer diogelu eich data.

Cael gwybod mwy a chadw lle

YNGLŶN Â NEWID

Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o raglen Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGCCwmpas a ProMo-Cymru, a chaiff ei chyllido gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol da drwy gynnig hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth i drydydd sector Cymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy