Mae’r Senedd yn cynnal sesiynau ar-lein am ddim i fudiadau gwirfoddol cael gwybod mwy am yr etholiad a’r hyn y mae’n ei olygu.
Fel y mae’n sefyll, bydd etholiadau 2021 y Senedd yn cael eu cynnal ym mis Mai. Bydd pobl yn cael eu gwahodd i benderfynu ar bwy ddylai eu cynrychioli nhw a’u cymunedau yn Senedd Cymru. Efallai eich bod eisoes wedi dechrau meddwl beth allai hyn ei olygu i’ch mudiad, nawr a phan fydd y pleidleisiau wedi’u bwrw.
Mae’r Senedd yn bwriadu cynnal nifer o sesiynau ar-lein am ddim i bawb sydd â diddordeb mewn gwybod mwy am yr etholiad a’r hyn y mae’n ei olygu.
Bydd y sesiwn gyntaf yn gyflwyniad 30 munud i Etholiadau 2021 y Senedd, gan edrych ar rôl y Senedd, ei haelodau a’r broses etholiadol.
Bydd yr ail sesiwn yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â’r Comisiwn Etholiadol, ac yn helpu’r mynychwyr i ddeall yr etholiadau, sut i gofrestru, cymhwysedd a’r broses etholiadol, rôl y Senedd, sut bydd y Senedd nesaf yn cael ei ffurfio, ei phwerau, a rôl Aelodau’r Senedd o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Byddwch chi hefyd yn cael mynediad at adnoddau, fideos a gweithgareddau ar-lein.
Bydd y sesiwn olaf wedi’i theilwra i’ch mudiad penodol chi. Cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost isod i gael gwybod mwy am hyn.
I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyn, gan gynnwys sut i gadw lle, anfonwch e-bost at contact@senedd.wales neu ffoniwch 0300 200 6565.
Mae’r sesiynau hyn yn cynnig cyfle i ddatblygu mwy o ddealltwriaeth o’r rôl y gall eich mudiad ei chwarae wrth gynrychioli llais eich rhanddeiliaid yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyflwyno mewnwelediad mwy treiddgar i ddatganoli a phwerau’r Senedd.
Pan ysgrifennwyd hwn, roedd etholiadau 2021 yn bwriadu cael eu cynnal ar y dyddiad arfaethedig. Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi peri rhywfaint o ansicrwydd ynghylch hyn. Mae’r Senedd wedi pasio deddfwriaeth yn ddiweddar i alluogi’r etholiad i gael ei ohirio os bydd angen.