Sector yn trafod materion iechyd meddwl gyda’r Gweinidog

Sector yn trafod materion iechyd meddwl gyda’r Gweinidog

Cyhoeddwyd : 24/03/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Yn ddiweddar, cyfarfu’r sector gwirfoddol â gweinidogion i drafod effeithiau iechyd pandemig y pandemig ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Yn ddiweddar, gwnaeth aelodau o’r sector gwirfoddol gwrdd â’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan; y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan; a’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt.

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar effeithiau iechyd meddwl y pandemig ar y sector gwirfoddol yng Nghymru. I ddechrau, edrychodd y sgwrs ar effaith COVID-19 ar gymunedau BAME, gan nodi’r angen i’r cymunedau hyn gael mynediad at gymorth priodol gyda staff sy’n hyddysg mewn hil. Nododd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip fod Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru wedi’i lunio ar y cyd â chymunedau ac wedi newid y ffordd y mae llawer o swyddogion wedi ymateb wrth ddysgu am fylchau. Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hwn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Gan edrych yn fwy eang ar iechyd meddwl, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg fod mwy o arian yn cael ei fuddsoddi mewn cymorth. Dywedodd fod ‘angen clir’ i wneud y mater yn llai meddyginiaethol, a bod y sector yn ‘ddelfrydol’ i gamu i mewn i’r bwlch, cefnogi pobl ac ysgafnhau baich y GIG. Nododd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bresgripsiynu cymdeithasol a’r rôl y mae’r sector yn ei chwarae yn y maes hwn, ynghyd â’r ffaith bod gwirfoddoli’n helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl, ac felly dylid annog pobl i wirfoddoli.

Siaradodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei chefnogaeth dros gymunedau sydd o blaid pobl hŷn, a’i bod yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i weld sut gellir cyflawni’r rhain. Dywedodd y byddai gan y sector rôl fawr i’w chwarae yn y gwaith hwn.

Roedd y grwpiau a fynychodd y cyfarfod yn cynnwys Age Connects Morgannwg, y Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr, Interlink, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), Mind Cymru a’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST).

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/09/23 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/09/23 | Categorïau: Dylanwadu |

Ailgydbwyso iechyd & gofal: ‘adnoddau cyfyngedig’ yn rhwystr i’r weledigaeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/06/23 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2023 – Wythnos i fynd!

Darllen mwy