Gweinidog cyllid Rebecca Evans yn y Senedd

Sector yn tynnu sylw’r Gweinidog Cyllid at broblemau cyllido tymor byr

Cyhoeddwyd : 17/02/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Gwnaeth rhwydwaith Cyllid y sector gwirfoddol gyfarfod â’r Gweinidog Cyllid yn ddiweddar i drafod pynciau amrywiol, o gylchredau cyllido tymor byr, asesiadau effaith a thlodi i’r argyfwng hinsawdd.

Dechreuodd y Gweinidog y cyfarfod drwy siarad am yr ansicrwydd sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yn ystod prosesau cyllidebu. Daw hyn yn sgil y diffyg gwybodaeth o ran beth allai Cyllideb y DU ei gyflwyno ar 11 Mawrth, a’r diffyg parhaus o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr (CSR) sydd bellach yn hwyr. Mae’n gobeithio y bydd yr CSR yn cael ei gyflwyno eleni ac y bydd yn cynnig rhagolwg o’r tair i bedair blynedd nesaf.

Efallai mai’r eitem bwysicaf ar yr agenda i’r rhwydwaith oeddeffeithiau cyllid tymor byr ar y sector gwirfoddol. Dywedodd Ruth y byddai Cyllidebau dangosol yn ddefnyddiol o ran helpu i symud i ffwrdd o gyllid tymor byr, ac awgrymodd y grŵp y gallai osgoi dyblygu gwaith o bosibl. Nododd Patience Bentu o Race Council Cymru fod mudiadau’r trydydd sector yn derbyn cyllid ym mis Rhagfyr neu fis Ionawr yn aml, ac yna disgwylir iddynt ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, sy’n llesteirio cynllunio da. Dywedodd Simon James o Interlink RCT fod newidiadau cyson i ganllawiau, blaenoriaethau a phrosesau’n rhwystro syniadau hirdymor ac yn creu rhwystrau i ddinasyddion gymryd rhan. Dywedodd y Gweinidog fod angen trafodaeth bellach, yn enwedig ar gyllid diwedd blwyddyn, a bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio symud ymlaen â hyn.

Gwnaeth y rhwydwaith hefyd drafod Grŵp Gwella’r Gyllideb(BIG), sy’n goruchwylio gwelliannau i brosesau cyllidebu Llywodraeth Cymru, gan ofyn am sicrwydd y byddai’r sector gwirfoddol yn rhan o hyn er mwyn sicrhau amrywiaeth o leisiau gwahanol. Gwnaeth y cyfarfod hefyd drafod Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb (BAGE) yma, a’r ffaith nad oedd aelodau BAGE yn credu ei fod yn cael ei ddefnyddio i’w effaith orau. Mae aelodau BAGE yn trafod nawr sut gellid ymgysylltu’n ehangach ynghylch cyllidebu wrth symud ymlaen. Gwnaeth Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC, amlygu pwysigrwydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, o dan Gynllun y Trydydd Sector, o ran ymgysylltu â’r sector gwirfoddol ehangach. Mae llawer o dystiolaeth ac arbenigedd o fewn y sector y gellir eu defnyddio.

Aeth y cyfarfod ymlaen i siarad am Asesiadau Effaith. Amlygodd Gethin Rhys o Cytûn – Eglwysi yng Nghymru bwysigrwydd asesiadau effaith wrth gyllidebu, er enghraifft, edrych ar yr effaith ar sail rhyw o wario ar iechyd a gofal cymdeithasol. Gall cael y sector i gymryd rhan yn BIG ac unrhyw olynydd i BAGE helpu Llywodraeth Cymru i weld canlyniadau anfwriadol posibl penderfyniadau cyllidebu. Dywedodd y Gweinidog fod y Llywodraeth wedi craffu ar y mater o asesiadau effaith ac roedd mwy o waith i’w wneud o hyd. Roedd yn falch fod y sector eisiau bod yn rhan o’r gwaith.

Fel rhan o sgwrs ynghylchtrechu tlodi drwy’r Gyllideb, gofynnodd y grŵp am ragor o wybodaeth ynghylch yr elfennau hynny o lesiant sydd wedi’u datganoli, fel prydau ysgol am ddim a budd-daliadau’r dreth gyngor. Nododd y Gweinidog waith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ynghylch y dreth gyngor, fel sicrhau bod y rheini â phroblemau iechyd meddwl yn gallu cael mynediad haws at fudd-daliadau a chael gwared â’r ddedfryd o garchar am fethu â thalu. Bydd Grŵp Refeniw a Budd-daliadau’r Awdurdod Lleol yn edrych ar brotocol y Dreth Gyngor yn ystod ei gyfarfod nesaf. Yna, mewn trafodaeth sydyn ynghylch y Bil Partneriaethau Cymdeithasol, nododd Ruth Marks nad oedd y sector gwirfoddol wedi’i grybwyll o gwbl o fewn Papur Gwyn y Bil. Dywedodd y Gweinidog y byddai’n tynnu sylw’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at hyn.

O ranmynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy’r Gyllideb, nododd Jessica McQuade o WWF Cymru ‘nad oedd modd trawsnewid’ lefel y cyllid a oedd ar gael ar gyfer y mater hwn.  Awgrymodd y gallai 5% o gyllideb gyffredinol flynyddol Llywodraeth Cymru fod yn drawsnewidiol ac mae’n bosibl y gellid cyflawni hyn gyda chynnydd o 0.5% y flwyddyn dros yr ychydig o flynyddoedd nesaf, gan gydnabod fod mynd i’r afael â’r argyfwng yn fater cam wrth gam. Nododd yr anhawster o ran mesur allyriadau, ond dywedodd y gallai gwelliant yn y maes hwn helpu’r gwaith o ddyrannu’r gyllideb. Dywedodd y Gweinidog y byddai’n fuddiol cael cyfarfod neu ddigwyddiad bord gron gyda swyddogion i weithio ar asesiadau effaith carbon.

Rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad i’r rhwydwaith ar yGrŵp Gweithredu ar y Polisi Trethi, a fydd yn dod i ben yn dilyn eu gwaith ar y Dreth Tirlenwi a’r Dreth Trafodiadau Tir. Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych nawr ar ffyrdd o ymgysylltu’n ehangach ar dreth ac mae’n awyddus i’r trydydd sector fod yn rhan o’r gwaith hwn.

Yn olaf, lleisiodd y grŵp eu pryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth y DU am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cymryd lle cyllid yr UE ar ôl Brexit, a sut bydd yn cael ei gweinyddu, a dywedodd y Gweinidog ei bod hithau’n rhannu’r un gofidion.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy