Happy service dog with orange harness

Sector yn cwrdd â’r Gweinidog i drafod economi a thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd : 04/12/19 | Categorïau: Dylanwadu |

Yn ddiweddar, cyfarfu’r trydydd sector â Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Seilwaith.

Mynychodd cynrychiolwyr Cymru Amgylchedd Cymru, Guide Dogs Cymru, Social Firms Wales a Chanolfan Cydweithredol Cymru y cyfarfod hwn, ymhlith eraill.

Clywodd y Dirprwy weinidog ddiweddariad ar drefniadau bwrdd crwn i drafod yr amgylchedd a’r Economi Sylfaenol.

Trafododd y grŵp hefyd sut i gysylltu gwahanol sectorau a rhwydweithiau gyda’i gilydd i gyflawni amcanion polisi, a’r offeryn meincnodi busnes cyfrifol newydd.

Yn olaf, trafododd y grŵp sut y gall y sector menter gymdeithasol ddod yn rhan bwysig ond gwahanol o’r Economi Sylfaenol, clywodd ddiweddariad ar y Mesur Partneriaeth Gymdeithasol, a thrafod ymhellach yr angen am ddeddfwriaeth i ddarparu hyfforddiant anabledd i yrwyr tacsi.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 11/03/26
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Datganiad ar y Cyd: Cynnal effaith gymunedol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad: gall gwasanaethau iechyd a gofal y sector arbed arian cyhoeddus

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 17/07/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd y DU

Darllen mwy