close up of girl writing

Sector yn croesawu’r cwricwlwm newydd fel ‘cam ymlaen cadarnhaol’

Cyhoeddwyd : 02/03/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Gwnaeth y sector gwirfoddol gyfarfod â’r Gweinidog Addysg i drafod y cwricwlwm newydd.

Yn y cyfarfod, gwnaeth cynrychiolwyr o amrediad o fudiadau gwirfoddol gwrdd â’r Gweinidog Addysg i drafod y Cwricwlwm newydd i Gymru, a gyhoeddwyd wythnos cyn y cyfarfod.

Dechreuodd y rhwydwaith drwy ddweud eu bod yn credu bod y cwricwlwm newydd yn gam ymlaen cadarnhaol a’u bod yn gwerthfawrogi’r ffordd yr aethpwyd ati i’w ddatblygu mewn modd cydweithredol. Amlinellodd y Gweinidog y ddeddfwriaeth a’r canllawiau a fyddai’n cael eu cynhyrchu i gefnogi’r cwricwlwm newydd.

Aeth y rhwydwaith ati wedyn i amlygu’r materion yr oeddent yn credu y byddai angen rhoi sylw iddynt er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael cymaint â phosibl o effaith. Roedd y rhain yn cynnwys sicrhau bod unrhyw ddiwygiad i gymwysterau’n cyd-fynd ag amcanion y cwricwlwm newydd, cefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, rheoli ansawdd o fewn dyluniad y cynllun a chynnwys busnesau yn y cwricwlwm newydd.

Gwnaeth y rhwydwaith hefyd ofyn dau gwestiwn i’r Gweinidog. Yr un gyntaf oedd, sut mae’r Gweinidog yn bwriadu sicrhau bod yr holl raglenni i wella safonau yn y blynyddoedd cynnar yn gweithio gyda’i gilydd, gan ystyried bod y cyfrifoldeb amdanynt wedi’u rhannu dros amrywiaeth o adrannau Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus. Amlinellodd y Gweinidog sut mae ei hadran yn gweithio gyda’r adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac ychydig o’r gwaith sydd ganddi hi i’w wneud ar addysg gynnar.

Gofynnodd yr ail gwestiwn sut mae’r Gweinidog yn bwriadu diwygio dysgu gydol oes a datblygu’r ‘hawl i ddysgu gydol oes’ sydd wedi’i chynnig ganddi.’ Ymatebodd drwy amlinellu rhai mentrau i gefnogi dysgu i oedolion, yn ogystal â thrafod y ddeddfwriaeth newydd ar addysg ôl-16.

Dywedodd Susie Ventris-Field o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru: ‘Fel cynrychiolydd o’r sector rhyngwladol, mae’n wych clywed penderfyniad y Gweinidog i sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei roi ar waith fel y bwriadwyd, a’i chlywed yn cydnabod yr angen i gefnogi ysgolion ac addysgwyr eraill er mwyn sicrhau ei fod yn llwyddiannus.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal fel rhan o Gynllun y Trydydd Sector, lle mae Gweinidogion yn cwrdd â’r sector gwirfoddol ddwywaith y flwyddyn.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy