Y SAFONAU
Cyfres o ofynion cyfreithiol rhwymol yw Safonau’r Gymraeg sy’n ceisio gwella’r gwasanaethau dwyieithog y gall pobl Cymru eu disgwyl gan nifer o gyrff cyhoeddus a statudol. Mae CGGC yn cael ei gynnwys hefyd. Mae’r Safonau’n nodi’n glir beth yw ein cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau dwyieithog, gan sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Mae’r Safonau Iaith wedi eu rhannu yn 5 dosbarth:
- Cyflenwi Gwasanaethau
- Llunio Polisi
- Gweithredu
- Cadw Cofnodion
- Hybu
Mae’n rhaid i CGGC gydymffurfio a Safonau ar gyfer Cyflenwi Gwasanaethau, Llunio Polisi, Gweithredu, a Chadw Cofnodion.
HYSBYSEBIAD CYDYMFFURFIO
Anfonwyd hysbysiad cydymffurfio i CGGC ar 25 Gorffennaf 2016, sy’n gosod allan y safonau sy’n berthnasol i CGGC. Darllenwch yr Hysbysebiad Cydymffurfio yn llawn.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer goruchwylio cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.
Mae’r ddogfen hon yn nodi sut rydym yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog a hybu’r defnydd o’r Gymraeg gymaint â phosibl. Dyma beth allwch ei ddisgwyl gennym ni:
Ysgrifennu atom a chysylltu â ni dros y ffôn:
– Rydyn ni’n croesawu gohebiaeth yn Gymraeg
– Os cawn ohebiaeth yn Gymraeg, byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Ni fydd ysgrifennu atom yn Gymraeg yn arwain at oedi mewn ymateb
– Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni dros y ffôn, gallwch ddewis siarad â ni yn Gymraeg
– Os hoffech siarad ag aelod penodol o’r staff am fater arbennig yn Gymraeg ac nad yw’r aelod staff hwnnw’n siarad Cymraeg, bydd yn cynnig eich trosglwyddo i gydweithiwr sy’n gallu siarad Cymraeg
Cyfarfodydd, digwyddiadau a hyfforddiant:
– Pan fyddwn ni’n eich gwahodd i gyfarfod neu ddigwyddiad, byddwn yn gofyn a hoffech gyfrannu yn Gymraeg ac yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer y rheini nad ydynt yn deall Cymraeg
– Rydyn ni’n croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ym mhob un o’n cyfarfodydd a digwyddiadau
– Mae ein rhaglen ddysgu yn cynnwys cyrsiau Cymraeg ar bynciau amrywiol
Cyfathrebu, Marchnata a Chyhoeddusrwydd
– Caiff ein holl gyhoeddiadau a deunyddiau marchnata eu cynhyrchu’n ddwyieithog fel un ddogfen pan fo’n bosibl
– Mae ein gwefan yn ddwyieithog ac rydyn ni hefyd yn postio yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfryngau cymdeithasol