Bydd y weminar hon gan Safon Ddibynadwy – y nod ansawdd ar gyfer mudiadau gwirfoddol – yn edrych ar y safon a’r Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor yng Nghymru.
Mae’r Safon Ddibynadwy, a alwyd yn PQASSO ynghynt, yn safon ansawdd cynhwysfawr, hawdd ei defnyddio a sefydlwyd i’ch helpu chi i redeg eich elusen, mudiad gwirfoddol neu fenter gymdeithasol yn fwy effeithiol ac effeithlon.
YNGLŶN Â’R DIGWYDDIAD HWN
Bydd y gyfres ddiweddaraf hon o weminarau cinio a dysgu am ddim i’r sector gwirfoddol gan y Safon Ddibynadwy yn canolbwyntio ar y Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor (IAQF) yng Nghymru a’r Safon Ddibynadwy.
Caiff unrhyw elusen neu fudiad gwirfoddol sy’n derbyn achrediad Safon Ddibynadwy eu cydnabod yn gyhoeddus gan fframwaith ansawdd gwybodaeth a chyngor Llywodraeth Cymru.
PWY, PRYD A BLE
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal dros Zoom – Dydd Iau 7 Mawrth 2024, 1-2pm – a’i gyflwyno gan Elin Tattersall, Ymarferwr Trwyddedig y Safon Ddibynadwy a Michael Bell sy’n arwain y cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae’r digwyddiad wedi’i dargedu at Ymddiriedolwyr, Cadeiryddion, Prif Weithredwyr a Rheolwyr sy’n gyfrifol am ddiogelwch gwybodaeth. Yn ystod y sesiwn, byddwch chi’n cael y cyfle i ofyn cwestiynau i Elin a Michael.
Archebwch eich lle am ddim (tudalen Saesneg yn unig).
MWY AM Y SAFON DDIBYNADWY A’R IAQF
Mae’r Safon Ddibynadwy wedi’i chymeradwyo o dan Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor (IAQF) Llywodraeth Cymru gan ei fod yn efelychu llawer o’r gofynion. Mae’r Fframwaith wedi’i ddatblygu i gydnabod y rôl bwysig y dylai gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ei chwarae o ran cefnogi cyflawniad dau o nodau strategol Llywodraeth Cymru:
- Trechu tlodi a hybu cynhwysiant ariannol
- Hyrwyddo cydraddoldeb ac adeiladu cymunedau cydlynus
Mae Achrediad Safon Ddibynadwy yn cael ei gydnabod gan fframwaith IAQF Llywodraeth Cymru, gan roi mwy o gydnabyddiaeth a chefnogi’r gwaith o dendro am wasanaethau.
PRIF FUDDION Y SAFON DDIBYNADWY
Mae’r Safon Ddibynadwy:
- yn gystadleuol o ran pris ac yn cael ei chydnabod yn eang ledled y DU
- mae’r achrediad yn rhoi cydnabyddiaeth gyhoeddus fod eich mudiad yn bodloni gofynion IAQF Llywodraeth Cymru
- yn helpu i nodi a rhannu arferion gorau er mwyn creu Cymru ffyniannus, wydn a mwy cyfartal
- yn cynorthwyo’r cyhoedd i adnabod darparwyr i’w dewis
- cefnogi gwelliant parhaus yn eich mudiad
- yn gallu cael ei hasesu yn y Gymraeg
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://trustedstandard.org.uk/cy/.