Young women in art lesson

Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) ar waith yn y DU ac Iwerddon

Cyhoeddwyd : 12/04/21 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Cynhaliodd CGGC ddigwyddiad ledled y DU i lansio’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) newydd yn ffurfiol. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r safonau ac uchafbwyntiau’r diwrnod.

 

CYD-DESTUN – BETH YW IIV?

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw safon ansawdd y DU ar gyfer arfer da wrth reoli gwirfoddolwyr, sydd dan berchnogaeth Fforwm Gwirfoddoli’r DU a ddarperir ledled y DU ac Iwerddon.

 

AR GYFER PWY?

Os ydych yn fudiad gwirfoddol sydd wedi’i leoli yn y DU neu Iwerddon sydd â gwirfoddolwyr yn rhan o’ch gwaith, dyma’r safon delfrydol i chi.

Os ydych chi eisiau gwerthuso ansawdd eich gwaith rheoli a chynnwys gwirfoddolwyr, profi a gwella effeithiolrwydd eich gwaith gyda gwirfoddolwyr, a gwella enw da eich mudiad, mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn darparu’r fframwaith delfrydol ar eich cyfer.

Mae ennill y safon yn dangos i’ch gwirfoddolwyr – a’ch darpar wirfoddolwyr – pa mor werthfawr ydyn nhw ac mae’n rhoi hyder iddyn nhw yn eich gallu i ddarparu profiad gwirfoddoli rhagorol.

 

LANSIO’R SAFONAU 

Ar 24 Mawrth 2021 lansiwyd y safonau newydd yn swyddogol mewn digwyddiad ar-lein, gyda chefnogaeth gan amrywiaeth o fudiadau a rhanddeiliaid o bob rhan o’r DU.

Cawsom gynrychiolaeth o Ogledd Iwerddon, wrth i Denise Hayward, Prif Swyddog Volunteer Now a Chadeirydd Fforwm Gwirfoddoli’r DU, agor y digwyddiad, egluro’r cefndir ac amlinellu prif ffocws y safonau newydd, gan gynnwys:

  1. Sicrhau mwy o hyblygrwydd a llai o reolau i’n helpu i gwmpasu gwahanol fudiadau a mathau o wirfoddoli
  2. Creu cyswllt cryfach â gweithgareddau ehangach y mudiadau gan gynnwys strategaeth, effaith, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

‘RYDYM YN HYNOD FALCH O GYFLAWNI liV ‘

Roedd BulliesOut yng Nghymru hefyd yn cyflwyno. Siaradodd Emma Thomas, Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr, a’r gwirfoddolwr 9 oed, Molly, â ni am eu hymgyrchu gwrth-fwlio ardderchog yng Nghymru, eu gweithdai rhyngweithiol a’u cynlluniau e-fentora sy’n cael effaith gref a chadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.

Mae BulliesOut wedi ennill achrediad IiV ers 2012 ac fe wnaethant hefyd siarad â ni am y manteision y mae IiV wedi’u cael ar y mudiad a phrofiad y gwirfoddolwyr.

‘Rydym yn hynod falch o’r hyn rydyn yn ei gyflawni ac rwy’n teimlo ei fod yn dangos ein hymrwymiad i’n tîm gwirfoddol rhagorol,’ meddai’r ymddiriedolwraig Emma.

‘Fel elusen sydd â dim ond dau o weithiwr rhan-amser, rydym yn dibynnu’n drwm ar wirfoddolwyr i’n cynorthwyo gyda’n gwaith, ac rydym yn ffodus bod gennym dîm mor ymroddedig ac angerddol o wirfoddolwyr o bob oed.

‘Mae ein gwaith parhaus gydag IiV yn ein galluogi i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau’n rheolaidd, gan sicrhau bod gan ein gwirfoddolwyr brofiad gwirfoddoli gwerth chweil a boddhaus pob amser.

 

ARDDANGOS GWAITH RHEOLI GWIRFODDOLWYR 

Cyflwynodd Fiona Harvey o CHAS (Children’s Hospices Across Scotland) eu gwaith arbennig sy’n cynnig cefnogaeth lawn i deuluoedd sydd â babanod, plant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n byrhau bywyd.

CHAS yw’r mudiad cyntaf i gyflawni IiV yn yr Alban ac yn ddiweddar maent wedi llwyddo i adnewyddu eu haelodaeth am y pumed gwaith, gan roi cynnig ar y safonau newydd y tro hwn. Soniodd Fiona hefyd am fanteision IiV, gan esbonio ei fod yn eu helpu i arddangos y gwaith rhagorol y maent yn ei wneud gyda rheoli gwirfoddolwyr, gan weithio gydag 875 o wirfoddolwyr.

‘Fel mudiad, rydych yn teimlo bod CHAS yn gwerthfawrogi’r gwirfoddolwyr ac yn gofalu amdanynt yn y ffyrdd cywir,’ meddai gwirfoddolwr CHAS, Alex Malcolm.

 

CEFNOGAETH DDI-DDIWEDD 

Yn olaf, rhoddodd Janet Lewis Jones, Asesydd IiV ac Ymgynghorydd gydag Ideas to Impact, ei mewnwelediad a’i phrofiadau amhrisiadwy gyda Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.

Esboniodd Janet fod gweithio ar y safon a chyrraedd yr achrediad yn broses a gaiff ei chefnogi, gan fod mudiadau cofrestredig yn cael eu dyrannu i Asesydd IiV fydd yn eu cefnogi drwy gydol y daith.

Rhoddodd Janet grynodeb hefyd o broses y chwe cham asesu, a’r prif fanteision y mae’r mudiadau wedi sôn amdanynt o’r blaen:

  • Creu amgylchedd mwy strwythuredig i wirfoddolwyr a’r rheolwyr, gan wella profiad y gwirfoddolwyr
  • Arddangos ymrwymiad y sefydliad i wirfoddoli yn gyhoeddus
  • Datblygu gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd gwirfoddolwyr i’ch mudiad
  • Nodi meysydd i’w datblygu a’u arloesi
  • Rhoi sicrwydd i gyllidwyr y byddant yn cael gwerth eu harian
  • Lleihau risgiau posibl sy’n deillio o gynnwys y gwirfoddolwyr
  • Pâr o lygaid newydd i roi adborth ymarferol a myfyriol 

Roedd y tocynnau i gyd wedi’u gwerthu ar gyfer y digwyddiad gyda 300 o fynychwyr wedi cofrestru. Rydym yn gobeithio cynnal digwyddiad arall yn y DU yn y dyfodol lle bydd gennym yr opsiwn i ryngweithio â’r gynulleidfa ymhellach. Gweler sleidiau’r dydd ar ffurf pdf, yn ogystal â chanlyniadau’r arolwg o’r diwrnod sydd ynghlwm.

Hoffai CGGC ddiolch i’r gynulleidfa a’r holl gyflwynwyr a oedd yn bresennol, i’r holl bartneriaid yn y DU ac Iwerddon sydd wedi gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni ar gyfer y lansiad ac am sicrhau bod y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr newydd yn digwydd.

 

GWYBODAETH BELLACH AM IiV

I ddysgu mwy am y broses asesu, costau, gwybodaeth gyswllt a’r cymorth pellach sydd ar gael ewch draw i’n gwefan newydd

https://investinginvolunteers.co.uk/

Yng Nghymru gallwch hefyd ymweld â’n gwefan leol a dod o hyd i adnoddau ychwanegol ar wefan adnoddau Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Mae Becky Nixon, Cyfarwyddwr y cwmni ymgynghori Ideas to Impact, wedi ysgrifennu blog rhagorol sy’n cwmpasu’r broses ymgynghori a rhai o newidiadau y safon newydd.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych ac i gydweithredu â chi, felly gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â ni a chofiwch ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol am fwy o ddiweddariadau IiV; @VolWales, @WCVACymru, @VolunteerNow1, @VolScotland, @NCVO a @voluntireland .

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy