Safleoedd ymgeiswyr a geisir ar gyfer oriel gelf gyfoes genedlaethol

Safleoedd ymgeiswyr a geisir ar gyfer oriel gelf gyfoes genedlaethol

Cyhoeddwyd : 12/02/23 | Categorïau: Newyddion |

Fel rhan o’i Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, mae Gweinidogion Cymru’n archwilio opsiynau ar gyfer creu safle angori newydd ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

Ni fwriedir iddi gymryd lle cyfleusterau oriel sy’n bodoli eisoes ond, yn hytrach, bydd yn darparu canolfan i ategu’r ddarpariaeth mewn hyd at ddeg lleoliad a fydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol sydd â phresenoldeb ledled Cymru.

MYNEDIAD DEMOCRATAIDD

Mae defnyddio eiddo presennol mewn ffordd newydd yn fan cychwyn cryf o safbwynt sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol unrhyw gyfleuster newydd, diben y cais hwn am safleoedd posibl yw nodi pa eiddo allai fod ar gael o fewn y trydydd sector.

Byddai hon yn angorfa bwysig, yn ‘fagnet’ i ymwelwyr, ac yn gyfrannwr sylweddol i dwf yr economi ymwelwyr leol, y diwydiannau diwylliannol a chreadigol a’r sectorau cysylltiedig. Er enghraifft, gallai fod yn gyfle i adfywio canol trefi, a chefnogi y fenter ‘canol trefi yn gyntaf’. Mae sicrhau mynediad democrataidd i’r casgliad o’r pwys mwyaf, a bwriedir gwneud profiad yr ymwelydd mor gyfoethog a buddiol â phosibl. Bydd y lleoliad newydd yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal, a Chymru gyfan.

MEINI PRAWF

Mae’n glir bod cymysgedd o ffactorau penderfynu allweddol, ac yn ystod y cam hwn rydym yn galw am safleoedd posibl i’w harchwilio ymhellach. Nodwyd lleoliadau posibl yn barod sy’n cael eu harchwilio o ganlyniad i’r gwaith cynnar a wnaed. Mae hyn wedi cynnwys galwad debyg am safleoedd posibl drwy Ystadau Cymru.

Ar ôl ystyried eich portffolio, os ydych o’r farn bod gennych ased ynddo ar hyn o bryd (neu fod ased ym mhortffolio sefydliad partner) a allai fodloni’r meini prawf drafft isod, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Dylai cyflwyniadau gynnwys y canlynol:

  • manylion lefel uchel yr eiddo a sut mae ei nodweddion yn cyd-fynd â’r meini prawf (uchafswm o bedair tudalen)
  • plan o leoliad a therfynau’r eiddo, ynghyd â ffotograffau os ydynt ar gael
  • manylion y prif gyswllt (enw, swydd, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) rhag ofn y bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Er y bydd y prosiect hwn yn cymryd amser i’w ddatblygu, bydd angen cael syniad o bryd y gallai’r eiddo fod ar gael i’w drosglwyddo.

ADEILADAU SY’N BODOLI EISOES

Mae’r cais yn canolbwyntio ar adeiladau sy’n bodoli eisoes, y bydd angen eu haddasu neu eu had-drefnu. Gall hyn olygu codi estyniad neu anecs neu ryw fath arall o waith adeiladu. Fodd bynnag, os oes gennych safle nad yw wedi’i ddatblygu yr hoffech iddo gael ei ystyried ar gyfer adeilad newydd ac a allai fodloni’r gofynion lleoliadol allweddol, mae croeso ichi gynnwys y manylion hyn hefyd.

Gan ddibynnu ar y cyflwyniadau, bwriedir llunio rhestr fer, ac ar sail y rhestr hon mae’n bosibl y gofynnir am wybodaeth fwy cyflawn (mwy manwl) ochr yn ochr â phriodweddau eraill sy’n cael eu nodi.  Byddai unrhyw safleoedd sydd ar y rhestr fer wedyn yn derbyn grant o hyd at £25k dros gyfnod o 12 wythnos er mwyn gallu datblygu a chyflwyno gwybodaeth fanylach.

MWY O WYBODAETH

Dylid anfon cyflwyniadau at flwch post yr Is-adran Diwylliant (culture@gov.wales) erbyn y dyddiad cau, sef 12 pm ar 8 Mai 2023.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â culture@llyw.cymru gan nodi ‘Angorfa ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol’ yn llinell pwnc yr e-bost.

Mae’r tabl hwn yn cynnwys y meini prawf lefel uchel drafft i hwyluso’r gwaith o nodi eiddo posibl.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy