Yma yn CGGC, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n chwilio am gyfieithydd profiadol i ymuno â’n tîm cyfathrebiadau.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Fel cyflogwr, gall CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) gynnig nifer o fuddion fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog, a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu cyflog byw gwirioneddol i’w staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.
CYFIEITHYDD – RHAN-AMSER (CYFNOD PENODOL O 1 MLYNEDD)
Rhan-amser, 28 awr yr wythnos (cyfnod penodol o 1 mlynedd)
£22,182 yn cynyddu i £23,632 pro rata y flwyddyn
Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’r cyflog blynyddol at ei gynllun pensiwn cymeradwy
Lleoliad:
Hyblyg – Mae gennym ni ganolfannau swyddfa yn Abergele, Aberystwyth a Chaerdydd y gall staff eu defnyddio. Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan, sy’n golygu y bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff ac ymrwymiadau gwaith penodol yn ôl yr angen.
Ynglŷn â’r rôl:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfieithydd profiadol ymuno â thîm CGGC.
Fel mudiad, rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau bod ein holl gyfathrebiadau’n ddwyieithog, felly mae’r rôl hon yn allweddol i bopeth rydyn ni’n ei wneud.
Mae ein cyfieithwyr mewnol, sy’n rhan o dîm cyfathrebiadau CGGC, yn gwneud yn siŵr bod ein negeseuon yn eglur ac yn gyson yn Gymraeg a Saesneg.
Caiff hyn ei gyflawni drwy:
- Gyfieithu dogfennau o Saesneg i Gymraeg ac, o bryd i’w gilydd, o Gymraeg i Saesneg
- Prawf-ddarllen a sicrhau ansawdd y gwaith a dderbynnir gan gyfieithwyr allanol a mudiadau partner
- Cyfrannu at gynlluniau cyfathrebu a marchnata er mwyn sicrhau bod ein llais yn gyson yn y ddwy iaith
Fel cyfieithydd gyda CGGC, byddwch chi’n gweithio gyda’r holl adrannau mewnol a rhai partneriaid allanol, sy’n golygu y byddwch chi’n cael cyfle i weld yr holl brosiectau gwahanol a chyffrous rydyn ni’n gweithio arnynt fel mudiad.
Darllen y disgrifiad swydd llawn
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio isod:
Dyddiad cau: Dydd Llun 22 Mawrth, 10am