Yma yn CGGC, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth. Mae gennym rôl swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd cyffrous ar ein tîm.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Fel cyflogwr, gall CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) gynnig nifer o fuddion fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog, a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu cyflog byw gwirioneddol i’w staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC
SWYDDOG CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CHYNWYSIANT
Hyd: Cyfnod penodol – tan fis Mawrth 2023
Oriau: 35 awr yr wythnos. Mae cynllun amser hyblyg ar waith a chaniateir amser yn gyfnewid am unrhyw waith y bydd angen ei wneud y tu allan i’r oriau arferol.
Lleoliad: Hyblyg o gartref, mae canolfannau swyddfa yn Abergele, Aberystwyth a Chaerdydd a bydd gofyniad i fynd i ddigwyddiadau staff yn ôl yr angen
Cyflog: £28,507 yn cynyddu i £30,211 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o 6 mis yn llwyddiannus
Ynglŷn â’r rôl:
Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i roi cyngor arbenigol, arweiniad a chymorth i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’r mudiad yn ymrwymedig i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth y mae’n ei wneud er mwyn helpu i adeiladu sector cryfach, mwy cynhwysol lle mae croeso i bawb.
Fel Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, byddwch chi’n rhoi cyngor arbenigol, arweiniad a chymorth i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwch chi hefyd yn cefnogi’r gwaith mewnol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn cefnogi partneriaid o Gefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW), gan ymwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws yr holl wasanaethau.
Bydd rhai o’ch prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
- Rhoi cyngor, arweiniad a chymorth i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Sefydlu partneriaethau gyda mudiadau cydraddoldeb y trydydd sector i ddatblygu digwyddiadau ac adnoddau er mwyn i fudiadau gwirfoddol ddatblygu eu gwaith eu hunain ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Cyfeirio mudiadau trydydd sector at adnoddau a hyfforddiant a ddarperir gan fudiadau cydraddoldeb
- Rhoi cyngor ac arweiniad i staff a chefnogi gwaith mewnol ar ddatblygu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Nodi, hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o galendr digwyddiadau ac arferion da o fewn y sector gwirfoddol, y sector cyhoeddus a mudiadau preifat
- Gweithio gyda phartneriaid i nodi, coladu a dadansoddi data cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ansoddol a meintiol er mwyn cael mewnwelediad i’r meysydd a chanfod cyfleoedd i wella
- Archwilio opsiynau ar gyfer cynaliadwyedd y rôl yn y dyfodol drwy gasglu tystiolaeth a mewnwelediad gan y sector ar gyfer rhaglen gymorth barhaus
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio isod:
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, anfonwch e-bost at Rajma Begum (Rheolwr Amrywiaeth Cenedlaethol) ar rbegum@wcva.cymru
Dyddiad Cau: 1 Mehefin 2021
Dyddiad Cyfweliad: 10/11 Mehefin 2021