Rydym yn chwilio am reolwr prosiect creadigol a phrofiadol i arwain prosiect dysgu a datblygu yn y maes presgripsiynu cymdeithasol.
YNGLŶN Â’R RÔL
Rydym yn chwilio am Reolwr Dysgu Digidol Presgripsiynu Cymdeithasol i gydlynu a chydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu cynnwys ar gyfer adnodd dysgu rhyngweithiol.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun â phrofiad dysgu a datblygu ddatblygu ei wybodaeth yn y maes Presgripsiynu Cymdeithasol.
Mae hefyd yn gyfle i rywun â phrofiad a gwybodaeth helaeth am ddarparu cefnogaeth presgripsiynu cymdeithasol ddefnyddio’r profiad hwnnw i greu’r offer sydd eu hangen ar y sector hwn i sicrhau gweithlu medrus.
RHEOLWR DYSGU DIGIDOL PRESGRIPSIYNU CYMDEITHASOL
Categori Cymraeg: Dymunol
Amser llawn, 35 awr yr wythnos yn hyblyg
£39,337 yn cynyddu i £44,274 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus. Bydd 9% o gyflog blynyddol y swydd yn cyfrannu at gynllun pensiwn cymeradwy CGGC.
Lleoliad: Hyblyg. Mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl y gall staff eu defnyddio.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae buddion yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gŵyl banc, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg, cynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy’n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio gyda CGGC.
SUT MAE GWNEUD CAIS
Dyddiad cau: 15 Chwefror 2026, hanner nos
Dyddiad cyfweliad: 2 Mawrth 2026
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.