Dwy wraig yn eistedd wrth ddesg o flaen cyfrifiadur

Rydyn ni’n cyflogi – swydd wag gweinyddwr newydd yn CGGC

Cyhoeddwyd : 16/05/23 | Categorïau: Newyddion |

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus ac uchel eu cymhelliant i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Corfforaethol sydd newydd ei ddatblygu a fydd yn darparu cymorth gweinyddol ar draws CGGC.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sy’n mynd ati mewn modd hyblyg a phositif; rhywun sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm ac sy’n gallu ymdrin â lliaws o dasgau ar yr un pryd gan barhau i gyflwyno gwaith o safon uchel.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig buddion fel cynllun gweithio’n hyblyg ac mewn modd hybrid, pensiwn ar 9% o’r cyflog a mynediad at raglen cynorthwyo cyflogeion.

Rydyn ni’n yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Rydyn ni’n Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydyn ni hefyd wedi ennill yr achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

CYMORTH GWEINYDDOL

35 awr yr wythnos

£20,136 yn codi i £21,650 y flwyddyn

Lleoliad:

Mae CGGC yn gweithredu polisi gweithio hybrid a hyblyg, sy’n golygu y gallwch chi weithio o’n swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan, gyda swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Ar gyfer y rôl hon, bydd angen gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd am o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos.  Gallwch chi ddewis ble i weithio gweddill yr amser, yn ôl eich ffordd o fyw. Gydol y flwyddyn, bydd rhai digwyddiadau penodol yn ein swyddfeydd ac mewn lleoliadau eraill y byddwch chi’n gysylltiedig â nhw ac angen eu mynychu o bosibl.

Ynglŷn â’r rôl:

Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig sy’n gwybod hanfodion Microsoft Office, ac sydd â sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol. Byddwch chi’n darparu cymorth o ansawdd ar draws y mudiad drwy gynllunio a threfnu effeithiol. Gallai hwn gynnwys cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd, cynorthwyo â digwyddiadau a helpu gwahanol dimau yn ystod eu hadegau prysur.

Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol â dyletswyddau cynorthwyydd personol, cyfleusterau a thasgau iechyd a diogelwch

Byddwch chi hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau eraill a phartneriaid allanol, lle byddwch chi’n cael gweld yr holl brosiectau gwahanol a chyffrous rydyn ni’n ymwneud â nhw.

Mae hon yn rôl hynod o werth chweil i unrhyw un sy’n hoffi her ac eisiau defnyddio’i sgiliau i wneud cyfraniad positif at sector gwirfoddol Cymru.

Mae hon yn rôl hynod o werth chweil i unigolyn trefnus ac uchel ei gymhelliant sy’n hoffi her ac eisiau defnyddio’i sgiliau i wneud cyfraniad positif at sector gwirfoddol Cymru.

Darllenwch y swydd-ddisgrifiad llawn.

SUT I WNEUD CAIS

I wneud cais, lawrlwythwch y pecyn cais isod:

Gwybodaeth ddefnyddiol

Hysbysiad preifatrwydd

Ffurflen gais

Dyddiad cau: 31 Mai 2023

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Newyddion

Swydd Wag – Rheolwr Rhaglen Forol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy