Dyn mewn hwdi llwyd caries basged o hanfodion bwyd i fyny rhai grisiau

Rydyn ni angen gweithwyr allweddol ac mae angen Cyflog Byw go iawn arnynt

Cyhoeddwyd : 09/11/20 | Categorïau: Newyddion |

Yr wythnos hon yw Wythnos Cyflog Byw, dathliad blynyddol y symudiad Cyflog Byw.

Mae’r ymgyrch Cyflog Byw yn symudiad annibynnol o fusnesau, mudiad a phobl sy’n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu diwrnod teg o dâl. Mae cyflogwyr yn dewis talu’r Cyflog Byw go iawn yn wirfoddol – mae’n darparu meincnod moesegol ar gyfer tâl cyfrifol.

GWEITHWYR ALLWEDDOL

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i lawer. Trodd Covid-19 ‘busnes fel arfer’ ar ei ben a daeth yn fwyfwy amlwg pwy yw ein gweithwyr allweddol; gweithwyr gofal, staff y GIG, gyrwyr dosbarthu, cynorthwywyr archfarchnad a llawer mwy, pob un ohonynt wedi ein cadw i fynd.

Yn anffodus, mae ymchwil wedi datgelu bod 1.3 miliwn o’r gweithwyr allweddol hyn yn y DU yn ennill llai na’r Cyflog Byw go iawn a’u bod mewn amodau gwaith ansicr. Roedd hyn yn cynnwys dros hanner y gweithwyr gofal sydd ar reng flaen yr argyfwng.

Yr Wythnos Cyflog Byw yma rydym am ddiolch i’r rheini sydd wedi ymrwymo i dalu Cyflog Byw go iawn i staff hanfodol, a pharhau â’n diolch i’r holl weithwyr hanfodol hyn am y swyddi pwysig y maent yn eu gwneud.

Mae angen gweithwyr allweddol arnom – ac mae angen Cyflog Byw go iawn arnynt.

WYTHNOS CYFLOG BYW – 9-15 TACHWEDD 2020

Fel arfer yn ystod Wythnos Cyflog Byw cyhoeddir cyfraddau newydd, mae cyflogwyr yn cynnal digwyddiadau ac mae gwleidyddion yn dathlu’r symudiad.

Eleni bydd pethau bach yn wahanol ond mae nifer o ddigwyddiadau a dathliadau ar-lein yn cael eu cynnal trwy’r wythnos.

DIGWYDDIADAU CYMRU

Dydd Llun 9 Tachwedd 8.30 am – Lansiad Wythnos Cyflog Byw Cymru

Digwyddiad ar-lein a fydd yn lansio Wythnos Cyflog Byw yng Nghymru gyda’r Prif Weinidog yn cyhoeddi’r gyfradd newydd a dathliadau o straeon lwyddiant y flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen at ymgyrch 2020-21.

Dydd Llun 9 Tachwedd 2 pm – Wythnos Cyflog Byw Gorllewin Cymru gyda Burns Pet Nutrition

Mae Burns Pet Nutrition yn gwahodd cyflogwyr Gorllewin Cymru i ymuno a nhw i arddangos pencampwyr y Cyflog Byw a chysylltu â’r rhai sydd yn gweithio i’r un agenda yn y rhanbarth.

Dydd Llun 9 Tachwedd 2 pm – Wythnos Cyflog Byw Gogledd Cymru gyda DEG

Mae Deg yn eich gwahodd i ddigwyddiad sydd yn anelu at gryfhau’r rhwydwaith cyflogwyr yng Ngogledd Cymru a darparu’r cyfle i drafod uchelgeisiau am y rhanbarth.

Dydd Iau 12 Tachwedd 10 am – 11.55 am – Fforwm Cynnal Cymru a CLlLC Awdurdodau Lleol – Achrediad Cyflog Byw a Lleoedd Cyflog Byw

Digwyddiad rhwng CLlLC a Chynnal Cymru fel rhan o Wythnos Cyflog Byw i ddod â Phenaethiaid Caffael o awdurdodau lleol er mwyn trafod gwerth achrediad Cyflog Byw, buddion o ddod yn lle Cyflog Byw a’r cyfle i gael  trafodaeth â ffocws ar y rhwystrau i achrediad a darparu cefnogaeth wedi’i theilwra.

Dydd Iau 12 Tachwedd 1 pm – 3 pm – Bord Gron Gwaith Teg

Trafodaeth gaedig cadeiriwyd gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, i ddod â Llywodraeth Cymru, llywodraethau lleol, undebau llafur a’r sectorau preifat a gwirfoddol at ei gilydd i archwilio’r greadigaeth o gynllun gweithredu sy’n gydweithredol ac integreiddiol ar gyfer cyflymu cynnydd ar waith teg yng Nghymru.

Cefnogir y Cyflog Byw yng Nghymru gan chwaer fudiad CGGC, Cynnal Cymru.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am Wythnos Cyflog Byw yng Nghymru neu hoffech chi fynychu cysylltwch â bethan@cynnalcymru.com.

Gallwch ddilyn a chefnogi’r Wythnos Cyflog Byw ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #WythnosCyflogByw #LivingWageWeek.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector – camau nesaf

Darllen mwy