Yn CGGC rydym yn cynnig ystod eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth. Ar hyn o bryd mae gan CGGC bedwar cyfle ar gyfer cyflogaeth dros dro.
PAM GWEITHIO YN CGGC
Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn gyflogwr sy’n gallu cynnig nifer o fuddion, fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn o 9% o’r cyflog, a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion. Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Dysgwch fwy am weithio i CGGC.
CYFLEOEDD GWAITH CYFREDOL
- Gweinyddwr y Tîm Datblygu
- Swyddog Cymorth y Gronfa Grantiau
- Swyddog Cymorth Gwirfoddoli Ieuenctid
- Swyddog Prosiect Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru
Mae’r cyllid ar gyfer pob un o’r swyddi hon tan 31 Mawrth 2021 a chaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru
Dyddiad cau: 2 Tachwedd 2020
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
GWEINYDDWR Y TÎM DATBLYGU
Amser llawn, 35 awr yr wythnos
£17,769 y flwyddyn
Bydd CGGC yn talu 9% o’r cyflog blynyddol i mewn i’w gynllun pensiwn cymeradwy
Lleoliad: unrhyw leoliad / gweithio o bell
Ynglŷn â’r rôl
Gweithio’n rhagweithiol fel rhan o dîm i gynorthwyo’r tîm datblygu i ddarparu gwasanaeth o safon uchel ar hyd a lled Cymru drwy gynnig cymorth gweinyddol a chyfathrebu effeithlon.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddarparu’r canlynol:
- Gwaith effeithiol o ansawdd uchel sy’n cadw at ddyddiadau cau
- Trefnu cyfarfodydd ar Microsoft Teams a Zoom, cofnodi data presenoldeb, dosbarthu gwybodaeth a phostio camau gweithredu cyfarfodydd yn ôl yr angen
- Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd a’u paratoi ar gyfer eu dosbarthu
- Casglu ymatebion gan aelodau, partneriaid a/neu aelodau rhwydwaith er mwyn bwydo i mewn i adroddiadau a/neu waith monitro yn ôl yr angen
Darllenwch y disgrifiad swydd.
SWYDDOG CYMORTH Y GRONFA GRANTIAU
Amser llawn, 35 awr yr wythnos
£22,404 y flwyddyn
Bydd CGGC yn talu 9% o’r cyflog blynyddol i mewn i’w gynllun pensiwn cymeradwy
Lleoliad: unrhyw leoliad / gweithio o bell
Ynglŷn â’r rôl
Cyfle i weithio ar gynlluniau grant amrywiol sy’n galluogi gweithgareddau dan arweiniad y gymuned yng Nghymru a thu hwnt. Cynorthwyo â’r gwaith o reoli grantiau CGGC nad ydynt yn rhai Ewropeaidd er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei weithredu, gweinyddu, asesu, monitro a’i adrodd yn effeithiol o dan reolwyr.
Darllenwch y disgrifiad swydd.
SWYDDOG CYMORTH GWIRFODDOLI IEUENCTID
Amser llawn, 35 awr yr wythnos
£22,404 y flwyddyn
Bydd CGGC yn talu 9% o’r cyflog blynyddol i mewn i’w gynllun pensiwn cymeradwy
Lleoliad: unrhyw leoliad / gweithio o bell
Ynglŷn â’r rôl
Cynorthwyo’r tîm gwirfoddoli i ddarparu cyfathrebiadau, adnoddau ac offer o ansawdd uchel gyda’r nod o wella taith wirfoddoli pobl ifanc.
Darllenwch y disgrifiad swydd.
SWYDDOG PROSIECT BUDDSODDIAD CYMDEITHASOL CYMRU
Amser llawn, 35 awr yr wythnos
£28,224 y flwyddyn
Bydd CGGC yn talu 9% o’r cyflog blynyddol i mewn i’w gynllun pensiwn cymeradwy
Lleoliad: unrhyw leoliad/gweithio o bell
Ynglŷn â’r rôl
Byddwch yng ngweithio fel rhan o dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn cynorthwyo â’r gwaith o gyflenwi pob agwedd ar weithgarwch, gan gynnwys y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol (SBGF), i ddarparu cymorth ariannol arloesol ar gyfer busnesau cymdeithasol yng Nghymru. Byddwch yn arwain y gwaith o sicrhau bod buddsoddiadau cymeradwy yn cael eu cwblhau’n llwyddiannus drwy sicrhau bod yr holl waith papur a gwiriadau tynnu i lawr cyn-ariannol wedi’u cwblhau. Yn ogystal, byddwch chi’n aelod hanfodol o’r tîm sy’n cynorthwyo ac yn ymgymryd â thasgau eraill fel asesu ceisiadau a rheoli perfformiad parhaus busnesau cymdeithasol a gynorthwyir.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddarparu’r canlynol:
- Asesu ceisiadau am gymorth ariannol yn gywir ac mewn modd amserol
- Monitro bargeinion sydd wedi’u gwneud drwy sicrhau bod yr holl ofynion monitro a gwerthuso wedi’u bodloni
- Sicrhau bod penderfyniadau effeithiol yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei gynnig i’r holl gwsmeriaid mewnol ac allanol
- Cefnogi gwelliant ac arloesedd parhaus
Darllenwch y disgrifiad swydd.
SUT I WNEUD CAIS
I wneud cais, lawrlwythwch y pecyn cais isod: