Wythnos Gwirfoddolwyr 2024 #WythnosGwirfoddolwyr
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn wythnos arbennig wedi’i chlustnodi i ddiolch i wirfoddolwyr am bopeth maen nhw’n ei wneud yn eu cymunedau lleol.
Mae 2024 yn nodi 40 mlynedd ers Wythnos Gwirfoddolwyr, a bydd mudiadau ledled y DU yn dathlu rhwng dydd Llun 3 Mehefin 2024 a dydd Sul 9 Mehefin 2024.
Cymerwch olwg ar edrychiad newydd gyffrous ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr drwy fynd i volunteersweek.org (Gwefan Saesneg yn unig) lle cewch wybodaeth ar sut i gymryd rhan ac adnoddau (ar gael yn Gymraeg a Saesneg) i’ch helpu i ddathlu eich gwirfoddolwyr.
Egwyddorion gwirfoddoli a dechrau gwirfoddoli
Datblygu strategaeth wirfoddoli
Diben y daflen wybodaeth hon yw eich arwain drwy broses feddwl strwythuredig i’ch galluogi i lunio strategaeth gwirfoddolwyr os ydych yn ystyried dod â gwirfoddolwyr i’ch mudiad neu ffurfioli gwirfoddoli yn eich mudiad.
Creu polisi gwirfoddoli (yn Saesneg)
Mae’r daflen wybodaeth hon ar gyfer mudiadau sydd wedi canfod rôl i wirfoddolwyr ac sy’n barod i ddatblygu eu polisïau gwirfoddoli.
Cadw gwirfoddolwyr yn ddiogel (yn Saesneg)
Mae’r daflen wybodaeth hon yn amlinellu’r camau y gall eich mudiad eu cymryd er mwyn cadw gwirfoddolwyr yn ddiogel, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i gynnal asesiad risg.
Asesiadau risg – gwirfoddolwyr syn gweithio ou cartrefi (yn Saesneg)
Mae’r daflen wybodaeth hon yn amlinellu’r ystyriaethau y dylai eich mudiad eu gwneud os yw gwirfoddolwyr wedi’u lleoli gartref.
Gwirfoddolwyr ac yswiriant (yn Saesneg)
Mae’r daflen wybodaeth hon yn amlinellu’r mathau gwahanol o yswiriant y gellir ei gael ar gyfer gwirfoddolwyr a lle arall y gallwch fynd i gael mwy o wybodaeth.
Côd ymarfer ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr
Datblygwyd y côd ymarfer er mwyn helpu unrhyw un sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr i sicrhau ei fod yn gwneud hynny o fewn fframwaith ymarfer da.
Anfonwch e-bost at help@wcva.cymru er mwyn gofyn am gopi caled.
Gwirfoddolwyr a’r gyfraith
Canllawiau cynhwysfawr diwygiedig yw’r rhain ar gyfer rheolwyr gwirfoddolwyr neu unrhyw un sy’n cefnogi gwirfoddolwyr – yr atebion i’ch holl gwestiynau cyfreithiol mewn un lle ar wefan Knowhow (dim ond mewngofnodi sydd raid).
Pecyn Cymorth ar gyfer Gwirfoddoli Amgylcheddol
Pam na wnewch chi wella eich sgiliau personol a phroffesiynol eich hun tra’n helpu i warchod cynefinoedd a bywyd gwyllt er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Siarter Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol ymysg Ieuenctid
Mae’r Siarter yn amlinellu nifer o ymrwymiadau sy’n annog sefydliadau i ddarparu’r gweithredu cymdeithasol a phrofiadau gwirfoddoli gorau posibl ar gyfer pobl ifanc. Yn ogystal, mae’r siarter yn amlinellu’r disgwyliadau ar gyfer pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y profiadau hyn.
Recriwtio a boddhad gwirfoddolwyr
Mae Gwirfoddoli Cymru yn blatfform gwirfoddoli digidol gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae’r platfform yn arddangos cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli drwy Gymru mewn un lle, gan hwyluso dod o hyd i wirfoddolwyr a’u recriwtio – neu ddechrau ar eich siwrnai wirfoddoli eich hun. Ewch i gwirfoddolicymru.net.
Recriwtio gwirfoddolwyr ifanc
Gall gwirfoddolwyr ddefnyddio’r adnodd eu hunain neu gellir ei ddefnyddio fel offeryn gan rywun sy’n cefnogi gwirfoddolwyr yn y rhan fwyaf o leoliadau.
Sut i sicrhau bodlonrwydd gwirfoddolwyr (yn Saesneg)
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhannu amrywiaeth o ddulliau o sicrhau bodlonrwydd gwirfoddolwyr, er mwyn galluogi’ch mudiad i greu profiad gwirfoddoli cadarnhaol sy’n sicrhau ymrwymiad eich gwirfoddolwyr.
Polisïau enghreifftiol
Mae polisïau enghreifftiol yn ffordd ddefnyddiol o sicrhau eich bod yn defnyddio’r ymarfer gorau wrth weithio gyda gwirfoddolwyr. Gellir addasu’r polisïau ar gyfer eich sefydliad a’ch pwrpas eich hun.
Gall ein cyfres o adnoddau ynglŷn â gwirfoddoli fod o gymorth i chi.
Rheoli ymadawiadau gwirfoddolwyr
Mae’r daflen wybodaeth hon yn esbonio’r dulliau o reoli ymadawiadau gwirfoddolwyr mewn modd sensitif a chlir sy’n dangos parch. (yn Saesneg)
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
Os ydych chi eisiau asesu ansawdd eich rheolaeth a’ch ymglymiad gyda’ch gwirfoddolwyr, profi a gwella effeithiolrwydd eich gwaith gyda gwirfoddolwyr a gwella enw da eich sefydliad, mae Investing in Volunteers yn darparu’r fframwaith delfrydol. Mae IiV ar gael ar gyfer unrhyw sefydliad gwirfoddol ac mae’n cael ei gydnabod yn gyfartal ym mhob un o bedair cenedl y DU.
Mae cyflawni’r safon yn dangos i’ch gwirfoddolwyr – a’ch gwirfoddolwyr posibl – faint maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi ac mae’n rhoi hyder iddyn nhw yn eich gallu chi i ddarparu profiad gwirfoddol eithriadol? Yn ogystal, mae’n tawelu meddyliau eich cyllidwyr ynglŷn ag ansawdd eich arferion.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth, ewch i iiv.investinginvolunteers.org.uk os gwelwch yn dda.
Gwirfoddoli â chymorth cyflogwr
Mae Gwirfoddoli â Chymorth Cyflogwr (ESV), neu wirfoddoli corfforaethol fel y’i gelwir ef hefyd, yn rhoi’r cyfle i gyflogeion wirfoddoli yn ystod oriau gwaith a chymryd rhan mewn achosion sy’n bwysig iddyn nhw a’u mudiad. Darllenwch ein taflen wybodaeth (yn Saesneg)
Trosi profiad gwirfoddoli yn waith
Er mwyn helpu gwirfoddolwyr o bob oed, buom yn gweithio gyda CMRhC i ddatblygu cyflwyniad syml a ffeithlun a ellir eu defnyddio i helpu gwirfoddolwyr ddeall beth maen nhw wedi’i ennill o wirfoddoli a’i drosi yn iaith a ellir ei defnyddio ar CV, mewn datganiad personol neu mewn cyfweliad.
Mae’r adnodd hon yn awr ar gael yma fel ffeithlun a chyflwyniad.
Gellir defnyddio’r adnodd gan wirfoddolwyr eu hunain neu gellir ei ddefnyddio fel offeryn gan rywun sy’n cefnogi gwirfoddolwyr yn y rhan fwyaf o leoliadau.
Gwirfoddoli a budd-daliadau lles
Prif nod Canllawiau Gwirfoddoli Adran Gwaith a Phensiynau a Gwirfoddoli Cymru yw helpu i roi gwybod i bobl sy’n hawlio budd-daliadau gwladol ynglŷn â’r manteision o ddod yn wirfoddolwr. Mae’n darparu gwybodaeth ymarferol ynglŷn â gwirfoddoli, gan gynnwys Canllawiau’r Adran Gwaith a Phensiynau a gwefannau defnyddiol.
Y cyfryngau cymdeithasol
Yr adnoddau gorau ar gyfer ymgysylltu llwyddiannus â’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod 2018
Gellir defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gynyddu a gwella profiad y cwsmer. Dyma rai awgrymiadau a chanllawiau ynglŷn â sut i wneud y gorau o’r cyfryngau cymdeithasol.
Pump o awgrymiadau i reoli argyfwng y cyfryngau cymdeithasol
Gall problemau gynyddu yn gyflym ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n rhaid i chi felly fod yn barod ar gyfer sefyllfa argyfyngus pan mae’n digwydd.
Canllawiau i ddiogelu gwirfoddolwyr ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod 2018
Mae’r canllawiau hyn yn tynnu sylw at y pwysigrwydd o ddiogelu gwirfoddolwyr ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n darparu ychydig o awgrymiadau ymarferol ynglŷn â sut i wneud hyn.