Gofalwr benywaidd yn edrych ar sgrin iPad gyda dyn oedrannus ac yn gwenu

Rôl y sector gwirfoddol mewn iechyd a gofal yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 04/07/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Mae Prosiect Iechyd a Gofal CGGC wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar bwysigrwydd y sector gwirfoddol i iechyd a gofal yng Nghymru.

YR ADRODDIAD

Pam mae’r trydydd sector yn bwysig i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yw’r trydydd mewn cyfres o bapurau sy’n edrych ar y cysylltiadau rhwng y sector gwirfoddol, gwirfoddolwyr a’r sector statudol, a’u pwysigrwydd i ganlyniadau iechyd a gofal.

Mae’r papur diweddaraf hwn yn dwyn ynghyd y prif ganfyddiadau o waith ymchwil er mwyn edrych ar y camau y gall rhanddeiliaid eu cymryd i sicrhau bod y sector yn cael cymaint o effaith â phosibl ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’n edrych ar y canlynol:

  • Cefndir y papur
  • Y cyd-destun presennol o ran iechyd a gofal statudol yng Nghymru
  • Y cyd-destun presennol i rôl y sector mewn iechyd a gofal yng Nghymru
  • Pwysau cyfredol ar ein system iechyd
  • Ystyriaethau cymdeithasegol
  • Cymorth y sector gwirfoddol i ganlyniadau iechyd a gofal
  • Cynnal a datblygu rôl y sector gwirfoddol

ARGYMHELLION

Mae hefyd yn cynnig nifer o gamau argymelledig, gan gynnwys:

  • Adnabod y gwahaniaethau rhwng y sector statudol a’r sector gwirfoddol, ac o fewn y sector gwirfoddol ei hunan, fel cryfder
  • Ymgymryd ag ymgyrch gyfathrebu er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddol o’r buddion y mae’r sector yn eu cyflwyno o fewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cefnogi mudiadau’r sector gwirfoddol i amrywio eu hincwm mewn modd priodol
  • Sicrhau bod y sector yn cael y cyfle a’r gallu i gyfrannu’n llawn at fforymau gwerth cymdeithasol
  • Hybu cydnabyddiaeth bod cydweithio rhwng y sector gwirfoddol a’r sector statudol yn seiliedig ar fwy na chyfnewid arian, mae’n cynnwys rhannu gwybodaeth, profiad neu safleoedd
  • Grymuso pob ochr i gydnabod, a chwarae ei rôl unigryw a hanfodol fel rhan o ecoleg gymhleth iechyd a gofal yng Nghymru

GWYBODAETH BELLACH

I gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Iechyd a Gofal CGGC, ewch i’r dudalen we.

Mae’r papurau eraill yn y gyfres hon yn cynnwys Gwerthoedd a gwerth y trydydd sector a Gwerthoedd a gwerth gwirfoddoli.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy