Gofalwr benywaidd yn darllen i grŵp o bobl oedrannus mewn cartref gofal

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Mae astudiaeth ymchwil newydd yn chwilio am gyfranogwyr i ddeall mwy am sut mae rôl gwirfoddoli yn cyfrannu at ofal cymdeithasol.

YR ASTUDIAETH NEWYDD

Mae Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), Prifysgol De Cymru (USW) a’r *Ganolfan Effeithiolrwydd Elusennau (CCE), City, Prifysgol Llundain yn cynnal astudiaeth ymchwil newydd a gomisiynwyd gan fudiad Gofal Cymdeithasol Cymru i ddeall mwy am sut mae rôl gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol.

Hoffai WIHSC, USW ac CCE siarad ag amrywiaeth o bobl am eu profiadau o wirfoddolwyr a gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal preswyl i oedolion yng Nghymru. Mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn pob agwedd ar wirfoddoli, ac maen nhw eisiau dysgu mwy am y profiad o wirfoddoli, sut gaiff gwirfoddoli ei reoli a’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwirfoddoli. Mae hyn yn golygu deall pwy sy’n gysylltiedig, beth maen nhw’n ei wneud a pham, a’r prif heriau a chyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno.

Yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst a Medi 2024, hoffai’r mudiadau gynnal saith astudiaeth achos wyneb yn wyneb gyda chartrefi gofal sy’n cynorthwyo pobl hŷn, pobl â phroblemau iechyd meddwl, a’r rheini ag anabledd dysgu.

SUT I GYMRYD RHAN

Maen nhw’n chwilio am gartrefi gofal a hoffai gymryd rhan er mwyn deall rôl gwirfoddolwyr a’r cyfraniad y maen nhw’n ei wneud. Bydd hyn yn golygu siarad â rheolwr y cartref gofal a’r cydgysylltydd/rheolwr gwirfoddolwyr (os oes gennych chi un), rhai aelodau staff sy’n gallu rhoi mewnwelediad i’r rôl y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae, a’r gwirfoddolwyr eu hunain. Gallai siarad â phobl eraill fod yn ddefnyddiol hefyd – fel y ganolfan wirfoddoli leol – os ydynt wedi chwarae rôl mewn recriwtio a chynorthwyo gwirfoddolwyr ar gyfer eich cartref gofal.

Ni fydd unrhyw ran o’r gwaith hwn yn cynnwys siarad â thrigolion y cartref gofal nac ymgysylltu â nhw. Os yw hi’n mynd i fod yn anodd trefnu ymweliad wyneb yn wyneb, gellir cael trafodaeth am ymgymryd â’r astudiaeth achos o bell.

AM FWY O WYBODAETH

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mark Llewellyn: mark.llewellyn@southwales.ac.uk neu ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

I ddarganfod mwy am waith y sector yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ewch i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy