rheolwr yn siarad mewn cyfarfod bwrdd

Rhybudd Rheoleiddiol ar gyfer elusennau cyflenwi gwasanaethau mawr neu gymhleth

Cyhoeddwyd : 13/07/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi rhybudd i elusennau cyflenwi gwasanaethau mawr sydd ag incwm o fwy na £9 miliwn.

Mae’r rhybudd i elusennau (Saesneg yn unig) wedi’i gyflwyno i arweinwyr elusennau mawr neu gymhleth sy’n darparu gwasanaethau er mwyn amlygu pwysigrwydd llywodraethu tryloyw ac atebol.

Bydd eich elusen yn derbyn y rhybudd os ymddengys fod ganddi’r proffil canlynol:

  • mae eich elusen yn fawr (gydag incwm o fwy na £9 miliwn) a chyda strwythur llywodraethu a rheoli mwy cymhleth (yn cael ei llywodraethu gan fwrdd ymddiriedolwyr a’i rhedeg gan grŵp ar wahân o weithredwyr); ac
  • mae eich elusen yn un sy’n darparu gwasanaethau, hynny yw, mae eich staff rheng flaen yn gwasanaethu buddiolwyr – a allai fod yn bobl sy’n agored i niwed –ac yn rhyngweithio â nhw’n uniongyrchol ac/neu’n darparu amwynderau neu gyfleusterau ar gyfer y cyhoedd. Gall y gwasanaethau amrywio o wasanaethau iechyd, addysg, eiriolaeth a chludiant a ddarperir yn lleol i gymorth ar lawr gwlad dramor ar ôl trychineb

Mae’r rhybudd yn cynnwys cyngor i’r ymddiriedolwyr a’r gweithredwyr ar reoli risgiau, a allai ddod yn sgil methiannau llywodraethu a rheoli, drwyddo i roi prosesau goruchwylio a diogelu effeithiol ar waith.

Os yw’r rhybudd yn cyflwyno unrhyw bryderon i’ch elusen, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni’n gorau i’ch cynorthwyo safeguarding@wcva.cymru.

Mwy o newyddion diweddar o’r Comisiwn Elusennau

Adroddiad y Comisiwn Elusennol ar RNIB a rhybudd rheoleiddiol i elusennau sy’n cyflenwi gwasanaethau ar raddfa fawr

Diffygion diogelu difrifol y mae’n rhaid i ni ddysgu ohonynt. Mae’r Comisiwn Elusennol wedi cyhoeddi adroddiad ar ei ymchwiliad swyddogol i RNIB sy’n dangos fod camreoli difrifol o fewn yr elusen wedi gwneud rhai plant yn ei gofal yn agored i berygl ac eraill yn agored i risgiau gormodol.

Lefel ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau yn codi

Mae lefel ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau yng Nghymru a Lloegr wedi gwella, yn ôl ymchwil gan y Comisiwn Elusennau.

COVID- 19: Newid amcanion elusennol

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei Ganllawiau ar COVID-19 i gynnwys gwybodaeth ar gyfer elusennau sy’n ystyried a oes angen iddynt newid eu hamcanion er mwyn helpu yn yr ymdrech i drechu’r pandemig.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy