Mae’r Comisiwn Elusennau wedi rhoi rhybudd i elusennau am ‘dwyll mandad banc’ (dynwared staff)
Mae’r Comisiwn wedi cael adroddiadau gan elusennau am dwyllwyr yn esgus bod yn aelodau staff, ac yn benodol, ceisio newid manylion banc gweithwyr.
Pethau i gadw golwg amdanynt
Ymholiadau i’ch adran Adnoddau Dynol, yr adran gyllid neu’r staff sydd ag awdurdod i ddiweddaru manylion banc cyflogeion, gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost tebyg fel arfer ar gyfer yr unigolyn dan sylw.
Mae’r twyllwr yn dweud yn aml eu bod wedi newid eu manylion banc neu wedi agor cyfrif banc newydd.
Cyngor ynghylch diogelu ac atal
- adolygu gweithdrefnau mewnol ar gyfer newid a chymeradwyo manylion cyflogeion, yn enwedig y prosesau sy’n ymwneud â gwirio dilysrwydd
- os bydd neges e-bost yn annisgwyl neu’n anarferol, peidiwch â chlicio ar y dolenni nac agor yr atodiadau
Gellir creu cyfeiriadau e-bost ffug sy’n ymddangos fel pe bai’r e-bost wedi cael ei anfon gan rywun yr ydych yn ei adnabod. Pan fydd rhywun yn gofyn am newid cyfeiriad e-bost neu rif ffôn yna dylech wirio hynny gyda nhw. Os nad ydych chi’n siŵr, gofynnwch am gadarnhad drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost neu rif ffôn sydd gennych yn eich cofnodion.
Gall twyllwyr ddefnyddio gwybodaeth sensitif a bostiwch yn gyhoeddus, neu a waredwyd gennych yn anghywir, i gyflawni twyll ariannol yn eich erbyn.Po fwyaf o wybodaeth sydd ganddynt am eich elusen a’ch gweithwyr, po fwyaf argyhoeddiadol y gallent ymddangos fel un o’ch gweithwyr go iawn.Cofiwch rwygo dogfennau cyfrinachol yn ddarnau mân cyn eu taflu.
Darllenwch fwy ar wefan y Comisiwn Elusennau : Rhybudd i Elusennau – Twyllwyr yn Dynwared Staff
Eisiau gwybod mwy am atal twyll mewn elusennau? Darllenwch ein blog: Cyngor ar Sut i Atal Twyll Elusennau