Yn CGGC, rydym yn bodoli i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd. Ymddiriedolwyr, wrth gwrs, yw calon ac enaid mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Gwirfoddolwyr yw’r rhain sydd wedi cael y cyfrifoldeb cyfreithiol o sicrhau bod elusen yn gweithredu er pennaf fudd ei buddiolwyr, yn buddsoddi mewn modd cyfrifol ac yn cydymffurfio â’r gyfraith elusennau a gofynion rheoleiddio, a dim byd arall.
YNGLŶN Â’R RHWYDWAITH YMDDIRIEDOLWYR
Mae gan y rhwydwaith mwy na 370 o aelodau ar hyn o bryd.
Gwnaethom gynnal arolwg gyda’r holl aelodau yn ddiweddar. Nododd cyfranogwyr:
- ‘Mae’r rhwydwaith wedi caniatáu i mi gael gwybodaeth ddefnyddiol ac i rannu’r wybodaeth gyda’m cyd-ymddiriedolwyr.’
- ‘Mae’n braf cysylltu â phobl a sylweddoli bod pob un ohonom ni’n wynebu problemau tebyg.’
- ‘Braf cael y cyfle i feithrin cysylltiadau ag ymddiriedolwyr eraill …i rannu profiadau, heriau a datrysiadau posibl.’
DYWEDOCH CHI, GWNAETHOM NI
Mae’r Rhwydwaith Ymddiriedolwyr wedi’i ddylunio gan ymddiriedolwyr ar gyfer ymddiriedolwyr. Nid oes angen talu i fod yn aelod o’r rhwydwaith. Yn dilyn yr arolwg, byddwn yn cynnig y pethau canlynol i bob aelod yn 2027:
- Cylchlythyrau chwarterol
- O leiaf un weminar bob chwarter
- Digwyddiadau rhwydweithio ar-lein ac wyneb yn wyneb bob chwarter
- Cyfleoedd hyfforddi amrywiol i aelodau’r rhwydwaith
- Mynediad at adnoddau ar-lein
SUT YDYCH CHI’N YMUNO?
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod ddiddordeb mewn dod yn aelod o Rwydwaith Ymddiriedolwyr CGGC, ymunwch â’r Rhwydwaith Ymddiriedolwyr yma.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.
RHAGOR AM HYN
Ym mis Tachwedd, rydym yn dathlu’r Wythnos Ymddiriedolwyr, digwyddiad blynyddol i ddangos y gwaith gwych y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac i amlygu’r cyfleoedd i bobl o bob cefndir gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Byddwn yn dathlu, yn cefnogi ac yn ysbrydoli ymddiriedolwyr drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein am ddim iddyn nhw (a’r rheini a hoffai wybod mwy am ddod yn ymddiriedolwr) gymryd rhan ynddynt.