dyn mewn crys llwyd yn siarad i gynulleidfa

DIWEDDARWYD: Cyflogeion ar ffyrlo a’r Cynllun Cadw Swyddi

Cyhoeddwyd : 01/04/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Mae llawer o fudiadau gwirfoddol wedi gorfod rhoi cyflogeion ar ffyrlo a defnyddio Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws (CJRS) Llywodraeth y DU.

Mae angen i gyflogwyr fod yn ymwybodol fod y cynllun yn newid nawr.

O’r 1 Gorffennaf 2020, bydd cyflogwyr yn gallu dod â chyflogwyr a oedd wedi’u rhoi ar ffyrlo yn ôl i’r gwaith i weithio unrhyw faint o amser ac unrhyw batrwm sifft, gan barhau i allu hawlio’r grant CJRS ar gyfer eu horiau arferol nad ydynt yn gweithio. Wrth hawlio’r grant CJRS ar gyfer oriau ffyrlo, bydd angen i gyflogwyr adrodd a hawlio am gyfnod lleiaf wythnos.

Bydd y cynllun yn cau i ymgeiswyr newydd o 30 Mehefin. O’r dyddiad hwn ymlaen, bydd cyflogwyr dim ond yn gallu rhoi cyflogeion ar ffyrlo os ydyn nhw wedi’u rhoi ar ffyrlo am gyfnod o dair wythnos lawn cyn 30 Mehefin.

Golyga hyn mai’r dyddiad olaf y gall cyflogwr roi cyflogai ar ffyrlo am y tro cyntaf fydd 10 Mehefin, fel bod y cyfnod ffyrlo cyfredol o dair wythnos yn gallu cael ei gwblhau erbyn 30 Mehefin. Bydd gan gyflogwyr hyd at 31 Gorffennaf i gyflwyno unrhyw hawliadau o ran y cyfnod hyd at 30 Mehefin. Bydd rhagor o ganllawiau ar y ffyrlo hyblyg a sut dylai cyflogwyr gyfrifo hawliadau yn cael eu cyhoeddi ar 12 Mehefin.

Gweler canllawiau Llywodraeth y DU ar y cynllun am ragor o fanylion.

Gallai’r adnoddau canlynol hefyd fod yn ddefnyddiol:

Noder o dan y canllawiau cyfredol, y gall cyflogeion ar seibiant wirfoddoli, ond nid gyda’r mudiad y maen nhw’n gweithio iddo fel arfer.

Mwy ar y coronafeirws gan CGGC 

Diweddariadau ac arweiniad COVID-19

Mae CGGC yn darparu diweddaradau dyddiol i’r sector wirfoddol. Dewch o hyd i’n diweddariadau a’n harweiniad diweddaraf a chofrestrwch am ddiweddariad dyddiol ar ein tudalen Diweddariadau ac Arweiniad CGGC. 

Byddwn yno pan fo’n hangen, nid pan fo’n gyfleus yn unig

Mae Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC, yn amlinellu ein rôl ni a ffocws presennol ein gwaith wrth gefnogi sefydliadau gwirfoddol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Darllenwch fwy

Ymateb cyllidwyr yng ngoleuni’r firws Covid-19

Rydym ni ynghanol sefyllfa ddigynsail yn y cyfnod modern yn y DU, wrth i gymunedau, mudiadau gwirfoddol a chyllidwyr ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi â chadw pellter cymdeithasol, hunanynysu a gweithio o gartref ar raddfa nad oes llawer o bobl yn gyfarwydd â hi.

Darllenwch fwy

Argaeledd cyflenwadau i sefydliadau gwirfoddol sy’n cyflawni dyletswyddau allweddol

Mae angen i ni wybod eich gofynion ar gyfer offer amddiffynnol personol (masgiau wyneb, menig, cynhyrchion glanhau ac ati) i helpu cyflenwyr i ddatrys y galw – a helpu mudiadau gwirfoddol hanfodol i aros mewn stoc. Gadewch inni wybod beth sydd ei angen arnoch chi.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 26/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwobr i bartner presgripsiynu cymdeithasol CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Chwilio am syniad Nadoligaidd syml i godi arian?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gyrru cynhwysiant ac amrywiaeth mewn chwaraeon – ein taith o gwmpas gogledd Cymru

Darllen mwy