Mae ein Rajma Begum ni wedi ennill gwobr am ei chyfraniad neilltuol at Chwaraeon, y Celfyddydau, a Diwylliant yn ystod Gwobrau Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) 2021.
Ar 17eg Medi 2021, cynhaliodd Gwobrau Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) seremoni wobrwyo i gydnabod llwyddiant ysgubol a chyflawniadau menywod a merched o bob cefndir yma yng Nghymru.
Cafodd cynifer o fenywod ysbrydoledig eu henwebu ar gyfer y gwobrau hyn felly mae’n gyflawniad anferthol bod ein Rajma Begum ni wedi ennill gwobr yn y categori ‘Cyfraniad at y Celfyddydau, Diwylliant, a Chwaraeon’. Mae’r categori hwn yn cydnabod gwaith menywod y mae eu gwaith caled wedi cael effaith gadarnhaol ym maes y celfyddydau a dylunio, diwylliant, a chwaraeon yng Nghymru.
ARWAIN NEWID CADARNHAOL
Mae gan Rajma bortffolio anferthol o lwyddiannau ym maes chwaraeon ac amrywiaeth a chafodd ei henwebu am ei gallu i ysbrydoli eraill ac arwain newid cadarnhaol. Ar ôl cael ei hethol yn aelod bwrdd Chwaraeon Cymru yn dilyn penodiad gweinidogol yn 2019, mae Rajma wedi gweithio’n ddiflino i helpu’r mudiad gyflawni ei dargedau yn effeithiol ar ben ei rôl fel cadeirydd Women Connect First a rheoli prosiect Chwaraeon BME Cymru yn CGGC.
Ers dechrau pandemig Covid-19, mae Rajma hefyd wedi bod yn rhan o ymgyrchu ac eirioli ar nifer o fforymau ac ymgynghoriadau ynghylch effaith anghymesur y pandemig ar gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig. Mae hi hefyd wedi dod o hyd i gyfarpar chwaraeon a’i ddosbarthu er mwyn helpu plant i gadw’n heini yn ystod y cyfnodau clo sydd wedi helpu i ddechrau nifer o weithgareddau corfforol ar-lein.
ADLEWYRCHIAD O YMRWYMIAD RAJMA I GYDRADDOLDEB
Mae Rajma yn meddu ar angerdd dwfn am hawliau menywod, cyfiawnder cymdeithasol, a chydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae’r wobr hon yn adlewyrchiad go iawn o’i gwaith anhygoel i sicrhau bod pob gweithgarwch chwaraeon a phob gweithgarwch corfforol yn hygyrch ac yn groesawgar i bob agwedd o’r gymuned yng Nghymru.
Wrth siarad am ei chyflawniad, meddai Rajma; ‘Roedd yn fraint i mi dderbyn y wobr ac i dderbyn cydnabyddiaeth o’r effaith gadarnhaol fy mod wedi’i chael ar y sector Chwaraeon a Hamdden dros y 17 o flynyddoedd diwethaf. Gobeithiaf y bydd hyn yn ysbrydoli pobl eraill i ddilyn yn fy olion traed a pharhau â’r genhadaeth i sicrhau bod pob gweithgarwch chwaraeon yn hygyrch ac yn gyfartal i bawb’.
Mae’r gwobrau hyn mor bwysig ar gyfer dathlu’r effaith gadarnhaol sy’n cael ei gwneud gan gynifer o fenywod o gefndiroedd gwahanol ar draws Cymru. Wrth siarad am bwysigrwydd y gwobrau ac am lwyddiant Rajma yn ystod y seremoni, dywedodd yr Athro Meena Upadhyaya, Sylfaenydd EMWWAA: ‘Mae gwobrau EMWWAA yn taflu golau ar yr amrywiaeth o ddawn leiafrifoedd ethnig fenywaidd yng Nghymru a’u heffaith ar ddiwylliant Cymru. Roedd cynnal seremoni wobrwyo 2021 yn ystod pandemig yn her i ni. Mae’n bleser mawr gennyf longyfarch Rajma Begum ar ennill gwobr y Celfyddydau, Diwylliant, a Chwaraeon EMWWAA. Mae Rajma yn seren y dyfodol ac rwy’n siŵr y bydd hi’n cyflawni llawer. Da iawn Rajma!’
Mae CGGC yn falch o longyfarch Rajma ar dderbyn y wobr chwenychedig hon a theimlwn yn ffodus iawn i’w chael yn gweithio’n rhan o dîm CGGC i’n helpu ni i wneud mwy o wahaniaeth i’r gymdeithas yng Nghymru.