Ar ôl cael ei ohirio fis Awst y llynedd, mae drafft wedi’i ddiweddaru o Reoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) wedi’i gyflwyno gerbron y Senedd.
O dan Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024, bydd y rheoliadau yn cyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd ar ran y GIG yng Nghymru. Eu nod yw cyflwyno proses hyblyg, gymesur ar gyfer dewis darparwyr gwasanaethau iechyd, cyflwyno mwy o gydweithrediad ar draws y system iechyd, sicrhau bod penderfyniadau ynghylch sut y trefnir gwasanaethau iechyd yn cael eu gwneud mewn modd tryloyw a lleihau biwrocratiaeth a chost.
Mae’r Ddeddf yn gwahanu cyfundrefnau caffael gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru o’r rheini yn Lloegr. Nid yw hyn yn effeithio ar gaffaeliad nwyddau, dim ond gwasanaethau, oni threfnir hyn fel rhan o gytundeb caffael cymysg.
Rhaid i Gynghorau Sir, Cynghorau Bwrdeistref Sirol, Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig dalu sylw at y canllawiau statudol ar y rheoliadau wrth gaffael gwasanaethau iechyd ar ran y GIG yng Nghymru.
RHEOLAU NEWYDD WEDI EU CYFLWYNO
Mae’r rheoliadau sydd wedi’u diweddaru yn cynnwys y rheolau newydd canlynol i’r rheini sydd angen caffael gwasanaethau iechyd:
- Rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi hysbysiad o fwriad i ddyfarnu contract, gan osod cyfnod segur o wyth diwrnod gwaith
- Rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi hysbysiad pan gaiff contractau eu dyfarnu o dan gytundeb fframwaith darparwr sengl
- Rhaid i awdurdodau perthnasol gael cyfnod segur o wyth diwrnod gwaith ar gyfer contractau a ddyfernir o dan gytundeb fframwaith a gwblhawyd gyda chystadleuaeth neu beidio
- Mae awdurdodau perthnasol wedi’u hesemptio rhag cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o dan amgylchiadau arbennig
DARGANFOD MWY
Mae’r canllawiau statudol a’r deunyddiau hyfforddi drafft presennol sy’n cyd-fynd â’r rheoliadau yn cael eu diweddaru gan Lywodraeth Cymru i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Gallwch ddarllen datganiad ysgrifenedig am y newidiadau gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025.
Dewch i gael gwybod am waith Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC.