Rheoli cymhorthdal a’r sector gwirfoddol

Rheoli cymhorthdal a’r sector gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 12/03/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae ein harolwg newydd ar reoli cymhorthdal bellach ar agor – cwblhewch erbyn 19 Mawrth.

Ers 1 Ionawr, mae maes newydd o’r gyfraith, rheoli cymhorthdal, y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ei ystyried wrth weinyddu arian ac asedau cyhoeddus.

Cafodd y rheolau blaenorol ar gyfer cymorth gwladwriaethol eu diddymu yn y DU ar 31 Rhagfyr 2020. Fodd bynnag, maen nhw’n parhau i fod yn berthnasol i unrhyw gymorth gwladwriaethol a ddyfarnwyd cyn y dyddiad hwnnw.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno canllawiau technegol cychwynnol (Saesneg yn unig) i awdurdodau cyhoeddus ar sut i gymhwyso’r trefniadau cyfredol. Mae’n ymgynghori ar ddatblygiad rheolau rheoli cymhorthdal newydd ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol. Mae CGGC yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriad hwn ac yn chwilio am dystiolaeth gan y sector gwirfoddol er mwyn sicrhau ymateb mor eang â phosibl. Rydyn ni wedi datblygu arolwg i alluogi’ch mudiad i roi ei farn.

Cwblhewch yr arolwg hwn erbyn 19 Mawrth 2021. Dylai gymryd pump i ddeg munud i’w gwblhau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â David Cook, Swyddog Polisi CGGC, yn dcook@wcva.cymru.

Pam mae hyn o bwys i’r sector

Mae amrywiaeth y sector yn golygu ei fod yn cyfrannu at amrediad eang o bolisïau, gan gynnwys twf economaidd, cydlyniant cymdeithasol a datblygu cynaliadwy. Caiff cymorth cyhoeddus ei ddarparu i amrediad eang o fudiadau’r sector, gan gynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.

Gyda gofyniad cynyddol am hunan-gynaliadwyedd a chynnydd yn y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir gan fudiadau’r sector, mae mwy a mwy o fudiadau cymdeithas sifil yn ymhél â rhyw lefel o weithgarwch economaidd, ac yn debygol o gael eu hystyried yn ‘gyfranogwyr economaidd’, fel y’u cyfeirir atynt yn y canllawiau. Felly, bydd angen i unrhyw gymorth cyhoeddus a ddarperir gael ei asesu o dan y diffiniad o gymhorthdal – argymhellwn eich bod yn darllen y canllawiau technegol i gael dealltwriaeth lawnach.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy