Mae llaw person yn trefnu wynebau gwenu pren o'r tristaf i'r hapusaf

Rhannwch eich meddyliau

Cyhoeddwyd : 28/03/22 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Mae’r cwmni ymchwil cymdeithasol ‘Research Your Way’ yn trefnu Grŵp Ffocws i edrych ar y gwahaniaeth a wnaeth CGGC rhwng 2017-2022.

Rydyn ni’n chwilio am fudiadau i gymryd rhan yn y grŵp ffocws hwn a chynnig eu sylwadau ar y gwahaniaeth y mae CGGC wedi’i wneud (neu heb ei wneud) i’ch mudiad chi a’r sector gwirfoddol yn gyffredinol yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf.

Fel cymhelliad pellach, bydd cymryd rhan yn y grŵp ffocws hwn yn cael gostyngiad o £25 i chi ar gwrs hyfforddi o’ch dewis.

Fel diolch am gymryd rhan, gallwn ni gynnig £25 o ostyngiad ar gwrs hyfforddi CGGC o’ch dewis i fudiadau sy’n cymryd rhan yn y Grŵp Ffocws (i’w hawlio erbyn diwedd mis Mawrth 2023). Gallwch chi weld ein cyrsiau hyfforddi presennol yma. (Noder bod y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n gyson â chyrsiau newydd drwy gydol y flwyddyn.)

Bydd y Grŵp Ffocws yn ymchwilio i’r graddau y cyflawnwyd pum nod CGGC ar gyfer 2017-22. Y nodau hyn yw:

  • Mae’r sector gwirfoddol yn gryfach ac yn fwy gwydn
  • Mae’r sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy a rhoddir mwy o fydd ynddyn nhw
  • Mae’r trydydd sector a gwirfoddoli yn cael mwy o effaith ar lesiant, nawr ac yn y dyfodol
  • Mae CGGC yn fwy cynaliadwy a chyfrifol
  • Mae CGGC yn gwneud defnydd gwell o adnoddau mwy amrywiol

 (Ond peidiwch â phoeni – ni fydd angen i chi gael gwybodaeth flaenorol o’n Nodau!)

Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn canfod gwybodaeth am ansawdd gweithgareddau CGGC yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf ac i ba raddau y gwnaeth CGGC hwyluso’r cynnydd at gyflawni ein nodau.

Bydd y Grŵp Ffocws yn cael ei gynnal ar-lein, drwy Zoom:

Ddydd Mercher 6 Ebrill, 2pm-4pm

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y grŵp ffocws, anfonwch e-bost at David Cook, Swyddog Polisi CGGC, cyn gynted â phosibl ar dcook@wcva.cymru.

Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Gofynnir i uchafswm o 12 mudiad gymryd rhan.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy