Van Fareshare NPTCVS

Rhannu’r gwaith da yng Nghastell-nedd Port Talbot

Cyhoeddwyd : 11/05/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae FareShare Cymru a Chyngor Gwirfoddol Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi dod ynghyd i sicrhau bod stoc gan fanciau bwyd, wrth iddynt ei chael hi’n anodd cael rhoddion yn sgil Covid-19.

Ers i effeithiau’r Coronafeirws a’r cyfuniadau symud ennill tir, mae banciau bwyd wedi gweld galw aruthrol am eu gwasanaethau, ond gostyngiad mewn rhoddion. Elusen yng Nghaerdydd yw FareShare Cymru sy’n ailddosbarthu stoc bwyd diangen gan gyflenwyr archfarchnadoedd a busnesau eraill i grwpiau cymunedol ac elusennau eraill, ac maen nhw wedi uno â NPTCVS (y Cyngor Gwirfoddol Sirol ar gyfer ardal Castell-nedd Port Talbot) i wneud yn siŵr bod y bwyd hwn yn cyrraedd y mannau sydd eu hangen.

Hyd yma, maen nhw wedi dosbarthu un dunnell enfawr o fwyd i fanciau a chanolfannau bwyd lleol yn yr ardal, ond bydd angen mwy wrth i argyfwng Covid-19 barhau i adael teuluoedd a oedd eisoes mewn sefyllfaoedd sigledig heb incwm i fwydo’u teuluoedd.

Meddai Gemma Richards o NPTCVS: ‘Gwnaeth FareShare Cymru gysylltu â ni ganol mis Mawrth a dweud eu bod yn cynnig ailddosbarthu un dunnell o fwyd i fanciau a chanolfannau bwyd lleol yn ein hardal. Aethom ati i gysylltu â’r holl fanciau a chanolfannau bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot i gael syniad o ba grwpiau oedd yn parhau i fod yn gweithio.

‘Rydyn ni wedi parhau i gadw mewn cysylltiad â’r grwpiau’n rheolaidd i gynnig cymorth ychwanegol – o roddion pellach gan FareShare Cymru ac archfarchnadoedd lleol i rannu gwybodaeth am y grantiau sydd ar gael sy’n ymwneud yn benodol â bwyd. Byddai’n wych rhoi ychydig o gydnabyddiaeth i’r banciau a’r canolfannau bwyd ledled Castell-nedd Port Talbot – maen nhw wedi addasu’r ffyrdd y maen nhw’n darparu eu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod parseli bwyd yn cael eu cludo i unigolion a fyddai’n mynd hebddo fel arall.’

Efallai bod lliaws o heriau yn parhau i wynebu teuluoedd unigol a’r sector gwirfoddol yn sgil COVID-19, ond o leiaf rydyn ni’n gwybod nad oes prinder o ewyllys da ac awydd i ddod o hyd i ddatrysiadau i’n problemau.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy