pobl yn eistedd mewn cyfarfod yn yfed coffi

Rhaid i unrhyw Gronfeydd Strwythurol newydd fod yn ‘ymrwymiad hirdymor’

Cyhoeddwyd : 01/06/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Rydyn ni wedi cyflwyno ein hymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Materion Cymreig ar Gymru a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae prif bwyntiau’r ymateb yn cynnwys:

  • Mae cronfeydd strwythurol wedi cael effaith sylweddol ar y trydydd sector yng Nghymru ac, o ganlyniad, ar yr unigolion mwyaf anodd eu cyrraedd a’n cymunedau mwyaf difreintiedig.
  • Rhaid cynnwys modelau talu hyblyg mewn unrhyw gronfa olynol er mwyn sicrhau nad yw mudiadau trydydd sector yn cael eu hepgor o’r ddarpariaeth.
  • Mae’r cylchredau saith mlynedd sy’n bodoli ar raglenni’r Cronfeydd Strwythurol ar hyn o bryd, sy’n galluogi prosiectau i gael eu cyllido am dair blynedd a hirach, yn well na’r rheini sydd wedi’u halinio â thelerau gwleidyddol a chyllidebol. Mae ymrwymiad ariannol mwy hirdymor yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd ar gyfer cynllunio a chyflenwi prosiectau.
  • Dylai’r egwyddorion sydd wrth wraidd y Themâu Trawsbynciol: trechu tlodi, cyfle cyfartal a chynaliadwyedd amgylcheddol gael eu cynnwys mewn unrhyw gronfa olynol a gynigir ac mewn unrhyw fentrau y bydd yn ei chyllido ar ôl hynny.
  • Dylai’r gronfa olynol alluogi mwy o hyblygrwydd i weithio rhwng rhanbarthau, heb golli golwg ar yr anghenion economaidd ychwanegol o fewn rhanbarth cyfredol gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
  • Mae defnyddio oriau gwirfoddolwyr fel cyfraniad tuag at gyllid cyatebol yn cydnabod gwerth gwirioneddol eu hamser ac yn gwneud y cyllid yn fwy hygyrch i lawer o fudiadau trydydd sector drwy gael gwared â’r angen i ddarparu cyllid cyfatebol ariannol.
  • Bydd Covid 19 yn cael effaith sylweddol ar economi Cymru, ond bydd effaith anghymesurol ar y cymunedau hynny sydd eisoes yn wynebu heriau sylweddol ar ôl y blynyddoedd o gynni rydyn ni wedi’u gweld. Ni all y cymunedau hyn gael eu gadael ar ôl, a rhaid rhoi pecyn cymorth cyfannol ar waith i gynorthwyo pob sector, nid y sector busnes yn unig.
  • Dylai unrhyw gronfa olynol newydd gefnogi ac annog ymdrechion i greu incwm, lle’n bosibl, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor mudiadau.
  • Dylai unrhyw olynydd i’r Cronfeydd Strwythurol gefnogi mesurau sy’n mynd i’r afael â gwir achosion diweithdra hirdymor yn hytrach nag ymyriadau sy’n mynd i’r afael â’r diweithdra ei hun.
  • Dylai’r Gronfa gael ei dosbarthu a’i dyrannu yn ôl angen pob cenedl.

Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma a dod o hyd i archif o’n hymatebion i ymgynghoriadau yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy