Cyfle i fentrau cymdeithasol, neu fudiadau gwirfoddol â chynnyrch, gwasanaethau neu brofiadau i’w gwerthu, yng Nghymru i ddysgu gan arbenigwyr, datblygu sgiliau a chysylltu â chyrff corfforaethol.
Bydd y rhaglen newydd, #BuySocial Purchase Power gan Social Enterprise Scotland a Social Investment Scotland (gwefannau Saesneg yn unig) yn cynorthwyo mentrau cymdeithasol neu fudiadau gwirfoddol sy’n masnachu i gysylltu â chyrff corfforaethol a chyrff cyhoeddus sy’n ceisio datblygu eu heffaith gymdeithasol ac amgylcheddol.
Er bod y rhaglen wedi’i thargedu at fudiadau yn yr Alban, gall grwpiau yng Nghymru ymuno am ffi fechan o £100+TAW (ac mae mudiadau o Gymru sydd wedi mynychu rhaglenni tebyg wedi dweud wrthym ni ei fod, heb os, yn werth y pris mynediad).
PA FUDD FYDDWCH CHI’N EI GAEL O’R RHAGLEN
Mae ‘Purchase Power’ yn gyfle i ddysgu o arbenigwyr, meistroli’r grefft o gyflwyno syniadau a chysylltu â chyrff corfforaethol sy’n chwilio am fentrau cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol eraill i fuddsoddi ynddyn nhw.
Wedi’i gyflwyno mewn sesiynau misol, byddwch chi’n cael cyfle i:
- Glywed gan siaradwyr arbenigol amrywiol
- Datblygu’r sgiliau i ennill contractau
- Mireinio ein cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau
Mae’r rhaglen yn adeiladu at fŵt-camp dwys tridiau o hyd sy’n paru pobl. Bydd yn rhoi cyfle i bobl gwrdd a chysylltu â phrynwyr corfforaethol mawr sy’n chwilio am fudiadau a arweinir gan effaith i weithio gyda nhw.
Gallwch chi ddarllen mwy am beth sydd wedi’i gynnwys yn y rhaglen yma (Saesneg yn unig).
SUT I WNEUD CAIS
Dylai mudiadau o Gymru sydd â diddordeb mewn ymgeisio gysylltu â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (sic@wcva.cymru) i ddechrau.
Mae’r ceisiadau’n cau yn fuan, a’r rhaglen yn bwriadu dechrau ar 15 Tachwedd 2023.
RHAGOR O WYBODAETH AM RAGLEN ‘PURCHASE POWER’
Ar ddydd Llun 9 Hydref 2023, cyflwynodd Swyddog Cyswllt Social Investment Scotland, Rachael, sesiwn flasu ar #BuySocial Purchase Power. Siaradodd Rachael â’r gwestai arbennig, Mandy Powell o’r fenter gymdeithasol o Gymru, The Goodwash Company ynghylch eu taith i mewn i farchnadoedd manwerthu newydd.
Gallwch chi wylio’r sesiwn isod (Saesneg yn unig):