Bydd CGGC yn ymgymryd â rhaglen newid uchelgeisiol a fydd yn ailgynllunio ac yn datblygu’r mudiad er mwyn sicrhau ein bod yn addas i’r diben yn y dyfodol.
Mae CGGC, ynghyd â mudiadau gwirfoddol eraill, yn gweithio mewn byd sy’n brysur newid. Mae hyn yn heriol, ond mae angen i ni ymateb yn gadarnhaol. Gan hynny, rydyn ni’n edrych nawr ar ein strwythur a’r ffordd rydyn ni’n gweithio er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cynorthwyo’r sector yn y ffordd orau yn yr hirdymor.
Gwyddom y bydd y gwaith hwn yn golygu y bydd angen i CGGC ddod yn fudiad llai. Ond, drwy adeiladu ar sylfeini cryf a gweithredu nawr, byddwn ni’n gallu gwneud y newid hwn mewn ffyrdd a fydd yn ein cryfhau ni yn y dyfodol.
Mae tri phrif reswm pam mae CGGC yn bwrw iddi â’r rhaglen-newid hon:
1. Ein strategaeth newydd
Rydyn ni’n lansio cynllun strategol newydd ar gyfer 2022-27. Rydyn ni eisiau gwneud newidiadau er mwyn rhoi strwythur mudiad ar waith a fydd yn sicrhau ein bod yn gallu cyflawni hwn yn y ffordd fwyaf effeithiol.
2. Diwedd cyllid yr UE yng Nghymru
Fel llawer o fudiadau gwirfoddol, bydd y ffaith na fydd rhagor o fuddsoddiad yn dod i mewn i Gymru o’r UE yn newid y prosiectau a’r gwasanaethau y bydd CGGC yn gallu eu cyflenwi. Mae CGGC wedi bod yn gyfrifol am ddosbarthu cronfeydd yr UE ers dros 20 mlynedd. Mae wedi bod yn rhan fawr a llwyddiannus iawn o bwy ydym ni fel mudiad. Mae’r cyllid hwn yn dod i ben yn 2023 ac mae’n rhaid i ni addasu yn unol â hynny.
3. Y ffordd rydyn ni’n gweithio
Rydyn ni wedi cyflwyno arferion gweithio newydd digidol, hyblyg a hybrid ac angen parhau â’r datblygiadau hyn er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol.
BETH MAE HYN YN EI OLYGU I WASANAETHAU CGGC I AELODAU A RHANDDEILIAID?
Yr un yw ein diben, ein cenhadaeth a’n gweledigaeth. Rydyn ni wedi bod yn gwrando’n astud ar flaenoriaethau ein haelodau a’n partneriaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd y newidiadau y byddwn ni’n eu gwneud yn cael eu cynllunio i’n helpu ni i ddiwallu anghenion mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn y ffordd fwyaf effeithiol yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Bydd ein rhaglen newid ar droed yn y misoedd i ddod a strwythur newydd yn cael ei roi yn ei le erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Yn y cyfamser, byddwn yn gwneud ein gorau glas i barhau i ddarparu ein gwasanaethau a gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglenni newydd ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Byddwn yn diweddaru ein haelodaeth a’n rhanddeiliaid ar unrhyw newidiadau wrth i ni fynd drwy’r daith hon.
SUT BYDD STAFF CGGC YN CAEL EU HEFFEITHIO GAN Y NEWID?
Ein pobl yw ein busnes ac mae Bwrdd ac uwch-dîm CGGC yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn cysylltu’n gyson â’r staff, yn ymgynghori â nhw ac yn eu cefnogi drwy’r holl broses newid.
Bydd ein tîm staff yn lleihau mewn maint a bydd ein holl wasanaethau yn cael eu hadolygu. Mae hwn yn gyfnod anodd i’n tîm, a byddwn yn blaenoriaethu lles pawb sy’n gweithio i CGGC. Dyma ein hymrwymiadau ar gyfer y rhaglen hon:
- Adeiladu mudiad gwydn a chynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.
- Ailstrwythuro’r mudiad er mwyn cyflawni ein strategaeth newydd.
- Mabwysiadu arferion gorau ac arloesedd er mwyn gwneud ein hadnoddau mor effeithiol â phosibl.
- Cynnwys aelodau, bod yn agored, yn gynhwysol ac yn flaengar, gweithio’n gydweithredol, defnyddio tystiolaeth a data a cheisio dod o hyd i ffyrdd o gael cymaint â phosibl o effaith.
- Ymgysylltu â phawb a bod yn dryloyw yn ein camau gweithredu a’n penderfyniadau.
- Trin pawb â thegwch, tosturi ac urddas.
- Bod yn ddewr yn ein penderfyniadau.
CAMAU NESAF
Gwyddom fod y broses hon yn dod ag ansicrwydd i’n staff yn ogystal ag i’r sector ehangach, felly byddwn yn cyflwyno diweddariadau rheolaidd wrth i wybodaeth newydd ddod i law. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i roi cymorth ac arweiniad i’r sector gwirfoddol yn ystod y misoedd i ddod, ond mae’n bosibl na fyddwn mor ymatebol ag arfer yn ystod y cyfnod hwn o newid, a gobeithiwn y bydd ein haelodau a’n partneriaid yn deall hyn.
Meddai Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol CGGC:
‘Rydyn ni’n paratoi i fynd drwy gyfnod mawr o newid, ond nid yw hyn yn effeithio ar ein penderfyniad i barhau i gyflenwi yn erbyn ein diben. Mae angen i ni, fel mudiad, addasu a newid i gefnogi’r sector â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n fwy nag erioed.
‘Mae CGGC yn parhau i fod yn eiriolwr brwdfrydig a dylanwadol ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, a chyda’n gilydd gyda’n haelodau a’n partneriaid, byddwn ni’n parhau i wneud mwy o wahaniaeth.’
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau ynghylch rhaglen newid CGGC, anfonwch e-bost at help@wcva.cymru.